BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Rheilffordd CorrisAil-agor rheilffordd Corris
Gorffennaf 2003
Ddydd Sadwrn, 7 Mehefin ar ddiwrnod hyfryd o heulog cafwyd diwrnod mawr o ddathlu cymunedol yng Nghorris, pan ail-agorwyd Rheilffordd Corris.

Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd gweld injian stêm wreiddiol yr ardal yn rhedeg unwaith eto ar hyd y cledrau. Adeiladwyd injian Corris Rhif 3 yn arbennig ar gyfer y rheilffordd yn 1878, ond ers 1951 mae wedi'i lleoli ar Reilffordd Tal-y-llyn.

Croesawyd pawb i'r seremoni agoriadol gan Keith Davies, Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Corris. Yn ystod y seremoni cyflwynwyd Bowlen Wydr hardd i David Coleman i ddiolch am y blynyddoedd o waith caled i'r rheilffordd. Cafwyd araith ddiddorol wedyn gan Lywydd Cymdeithas Rheillffordd Corris sef Christopher Awdry, mab awdur gwreiddiol llyfryn Tomos y Tanc. Dadorchuddiodd faen arbennig i gofnodi'r dathliadau.

Yn ogystal, cafwyd araith gan y Cynghorydd Gretta Jones, a oedd yn cynrychioli Cyngor Cymuned Corris a Chyngor Sir Gwynedd. Teithiodd y gwesteion wedyn ar siwrne fer o Orsaf Corris hyd at Maespoeth, lle cafwyd sgwrs fer ar hanes y rheilffordd, ynghyd â'r gobeithion am y dyfodol. Yn ddiweddarach, cafodd y cyhoedd hefyd gyfle i deithio ar drên bach Corris ac i ymweld ag arddangosfa o fodelau rheiIffordd yn Ysgol Gynradd Corris, i deithio ar drênau bach bach a mwynhau arddangosfa o hen geir ac injian stem.

Bydd y rheilffordd yn parhau i redeg gwasanaeth stêm yn ystod y penwythnosau ym Mehefin. Am ragor o wybodaeth cysyllter â www.corris.co.uk


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy