Bullying (fideo Saesneg)
Gwers ymarferol wedi'i seilio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r disgyblion drwy chwarae rôl a dangos empathi at y bwli a'r sawl sy'n cael ei fwlio.
Bydd y disgyblion yn cael profiad mewn asesu eu cyfoedion a deall sut mae'r bwli a'r sawl sy'n cael ei fwlio yn teimlo, ac yn gallu cynnig cyngor ymarferol iddyn nhw.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod bwlio yn niweidiol, a bod modd cael help. Bydd pob disgybl wedi cael profiad mewn asesu cyfoedion.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: I ddangos empathi tuag at y bwli yn ogystal â'r sawl sy'n cael ei fwlio drwy ystyried sut mae'r ddau ohonynt yn teimlo a thrwy gymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: Sut i fynd ati'n gadarn i drafod gyda bwli a dechrau esbonio pam fod rhai pobl yn troi'n fwli.
Dolenni Cwricwlaidd
Dinasyddiaeth Weithgar
- datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
- datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill.
Datblygiad Moesol/Ysbrydol
- datblygu dealltwriaeth o'u gwerthoedd.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu
Dechrau'r wers

Yr athro i gyflwyno'r pwnc 'bwlio' ac amcan y wers sef deall sut mae'r bwli a'r sawl sy'n cael ei fwlio yn teimlo, a gallu cynnig cyngor ymarferol iddyn nhw.
Gweithgareddau pelen eira

Gan ddefnyddio Taflen 1 - Gweithgareddau pelen eira, y disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau pelen eira.
Ar Pelen Eira Bwli, y disgyblion i ysgrifennu pam fod bwli yn bwlio a sut y gall fod yn teimlo. Ar Pelen Eira Dioddefwr, y disgyblion i ysgrifennu pam fod y dioddefwr yn cael ei fwlio a sut y gall fod yn teimlo.
Dylai pob taflen o bapur gael ei basio o amgylch y dosbarth fel bod y dosbarth cyfan yn awgrymu syniad. Gellir plygu'r papur ar ôl pob syniad er mwyn gwneud y dasg yn anoddach gan y bydd yn rhaid i'r disgyblion ysgrifennu rhywbeth gwreiddiol.
Os nad yw'r papur yn cael ei blygu gellir rhoi'r amod nad yw'r disgyblion yn cael dyblygu atebion. Mae'n bosib gosod terfyn amser er mwyn cadw'r gweithgaredd i symud yn ei flaen yn gyflym.
Ymarfer cocyn hitio

Y disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgaredd cocyn hitio, neu 'hot seat'. Caiff bwli ei holi'n gyntaf, yna'r dioddefwr. Yr athro i ddefnyddio ei wybodaeth o'r dosbarth er mwyn dewis disgyblion priodol.
Bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo empathi a sgiliau holi cwestiynau ymysg y disgyblion.
Adborth

Unwaith y mae'r gweithgaredd wedi'i gwblhau, yr athro i drafod canlyniadau'r ymarfer cocyn hitio a'r gweithgaredd pelen eira gyda'r dosbarth.
A oes pwynt diddorol wedi codi, rhywbeth o bosib nad yw'r disgyblion wedi meddwl amdano cyn hynny?
Clip fideo

Y disgyblion i wylio'r fideo.
Chwarae rôl senario

Rhannu'r disgyblion yn 6 grŵp gan ddibynnu ar faint y dosbarth. Gan ddefnyddio Taflen 2 - Senarios, mae pob grŵp yn cael senario gwahanol i'w actio.
Byddai modd i ddisgyblion mwy abl greu senario eu hunain - cyn belled â'i fod yn wahanol i'r rhai sydd wedi'u darparu.
Senarios - cyflwyniad i'r dosbarth

Y disgyblion i actio eu senarios o flaen gweddill y dosbarth. Mae'n bwysig pwysleisio fod yn rhaid i'r disgyblion drin â'r sefyllfa mewn ffordd cadarnhaol h.y. dydyn nhw ddim yn cael cyflwyno darn lle caiff rhywun ei fwlio ond nad yw'r dioddefwr yn mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Diagram PMI

Gan ddefnyddio Taflen 3 - Diagram PMI, y disgyblion i gwblhau diagram ar gyfer pob grŵp gan nodi sylwadau cadarnhaol, negyddol a diddorol am gyflwyniadau'r grwpiau eraill.
Cyngor

Y disgyblion i roi, ar lafar, un darn o gyngor y gallant ei roi naill ai i fwli neu'r sawl sy'n cael ei fwlio.
Sylwadau ysgrifenedig

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 4 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.
Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn