Gormod o waith cartref
Gwers gyffrous sy'n annog disgyblion i ddatblygu sgiliau rhesymu a blaenoriaethu er mwyn deall pam eu bod yn cael gwaith cartref.
Mae'r thema hon yn annog disgyblion i gynhyrchu dadl a gwrthddadl i gyfiawnhau eu barn mewn perthynas â'u gwaith cartref ac amser hamdden.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod gwaith cartref yn rhan angenrheidiol o fywyd ysgol a pam mae'n bwysig i flaenoriaethu eu hamser.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod gwaith cartref yn angenrheidiol ac mae angen iddynt fod yn gyfrifol am ei amserlennu ar ôl ysgol.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: Sut i gynllunio cydbwysedd ysgol/bywyd a blaenoriaethu eu hamser yn unol â hynny. Bydd disgyblion yn gwneud penderfyniadau ar sail barn.
Dolenni Cwricwlaidd
Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
- Gwerthfawrogi'u cyflawniadau ac ymrwymo i ddysgu gydol oes.
- Cymryd cyfrifoldeb personol am weithredoedd a phenderfyniadau sy'n gysylltiedig â dysgu.
Datblygiad moesol ac ysbrydol
- eu credoau yng nghyd-destun y rheiny sy'n bodoli yn y gymdeithas.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu, Nodiadau gludiog
Dechrau'r wers

Y disgyblion i ddefnyddio Taflen 1 - Diemwnt 9, a chwblhau ymarfer rhestru blaenoriaethau i ddangos beth yw eu blaenoriaethau pan maent yn cyrraedd adref o'r ysgol. (Byddwch yn ail edrych ar yr ymarfer hwn ar ddiwedd y wers.)
Mewnbwn yr athro

Yr athro i gyflwyno amcan y wers; sef esbonio'r rhesymau dros gael gwaith cartref a'r angen i ddatblygu cydbwysedd gwaith/bywyd, a thrafod â'r dosbarth sawl un o'r disgyblion a roddodd gwaith cartref yn y 5 uchaf o'u diemwnt 9.
Trafodaeth dosbarth

Yr athro i annog trafodaeth fer ynghylch y stori a gofyn i'r disgyblion a ydynt yn cytuno gyda'r ferch yn y fideo.
Beth yw effeithiau gwaith cartref?

Mewn grwpiau, neu fel dosbarth cyfan, y disgyblion i weithio ar Taflen 2 - Mat gosod syniadau. Y disgyblion i ysgrifennu syniadau unigol ar nodiadau gludiog a'u rhoi ar y mat gosod; mae pedwar rhan i'r mat er mwyn i'r disgyblion ddechrau rhoi eu syniadau mewn grwpiau. Gellid argraffu'r mat gosod ar bapur A3 a'i lamineiddio er mwyn ei ddefnyddio eto.
Mae'r gweithgaredd hwn yn annog disgyblion i rannu eu syniadau mewn modd adeiladol a gweledol. Mae'n rhoi sylfaen i'r disgyblion gwestiynu syniadau eu hunain. Unwaith iddynt gytuno ar syniadau maent yn symud y nodiadau gludiog perthnasol i'r rhan ganol er mwyn ateb y cwestiwn.
Adborth dosbarth

Grwpiau i adrodd yn ôl i'r dosbarth, gan rannu syniadau â gweddill y dosbarth.
O blaid ac yn erbyn

Y disgyblion i lenwi swigod siarad 'O blaid' ac 'Yn erbyn' ar Taflen 3 - O blaid ac yn erbyn, gan gyfiawnhau eu dadleuon ynghylch gwaith cartref.
Amser Rhydd

Y disgyblion i gwblhau'r tabl ar Taflen 4 - Amser rhydd gan weithio allan faint o amser hamdden/rhydd sydd ganddynt bob dydd.
Taflen amser

Y disgyblion i gwblhau'r amserlen ar Taflen 4 - Amser rhydd er mwyn penderfynu sut y byddant yn rhannu eu hamser yn gyfartal ac yn gyfrifol dros gyfnod o wythnos. Yr athro i roi cyngor am gydbwysedd bywyd/gwaith, cydbwysedd y bydd hefyd yn rhaid ei gynllunio/gadw dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Maniffesto

Mewn parau neu grwpiau bach, y disgyblion i ysgrifennu maniffesto ysgol eu hunain ar Taflen 5 - Maniffesto mewn perthynas â'u polisi ar waith cartref e.e. pryd, faint ohono, a yw'n iawn fod mwy o waith cartref yn cael ei roi ar gyfer rhai pynciau na'i gilydd?
Newid blaenoriaethau

Y disgyblion i gwblhau Diemwnt 9 arall gan ddefnyddio Taflen 1 - Diemwnt 9 i weld a yw eu blaenoriaethau wedi newid.
Adborth dosbarth

Adrodd yn ôl i'r dosbarth cyfan.
Diwedd: Adolygiad

Y disgyblion i ddarllen sylwadau sydd wedi'u postio ar y wefan ac ysgrifennu sylw am y stori.
Sylwadau ysgrifenedig

Gall disgyblion bostio eu sylwadau am y fideo ar wefan PS. Os nad oes modd i ddisgyblion bostio eu sylwadau'n syth i'r wefan, gellir defnyddio Taflen 6 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig a gall yr athro eu bwydo i mewn yn ddiweddarach. Bydd gweld eu sylwadau wedi'u cyhoeddi ar y we yn galluogi'r disgyblion i weld pa effaith mae eu barn/cyngor nhw yn ei gael ar straeon unigolion.
Sylwch - mae'r sylwadau i gyd yn cael eu cymedroli gan dîm ABCh a Dinasyddiaeth, ac ni fydd sylwadau anaddas yn cael eu cyhoeddi.
Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn