Gwefan ABCh a Dinasyddiaeth
Gwefan ddwyieithog sy'n darparu adnoddau dysgu wedi eu teilwra i ddiddori disgyblion 14-19 oed mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol yw bbc.co.uk/cymru/abchadinasyddiaeth. Mae'r adnoddau'n berthnasol ar gyfer cwricwla Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ceir straeon fideo ar y wefan gan bobl ifanc yn adrodd eu straeon personol am faterion sy'n eu heffeithio nhw. Mae gan bob stori fideo awgrymiadau o weithgareddau a thaflenni gwaith perthnasol i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Oherwydd bod gwahanol derminoleg yn cael ei ddefnyddio ar draws y DU ar gyfer y pwnc hwn, bu grwp profiadol o ymgynghorwyr yn ein cynorthwyo i ddod o hyd i feysydd astudio cyffredin ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn hwyluso'r daith o amgylch y wefan i athrawon.Y ddau brif faes astudio yw Lles Economaidd a Lles Personol.
O fewn y meysydd hyn, mae'r is-feysydd canlynol:
- Busnes a Menter
- Gyrfaoedd
- Rheoli Cyllid
- Risg
- Byw Bywyd Iach
- Hunaniaeth Bersonol
- Perthnasau
Os ydych yn athro/athrawes yng Nghymru ac yn cael anhawster wrth geisio darganfod meysydd astudio penodol, defnyddiwch y bocs chwilio ar hafan y wefan. Croeso i chi gysylltu gyda ni os oes gennych awgrymiadau am welliannau.