How they help (fideo Saesneg)

Mae'r wers hon yn edrych ar lwybr gyrfa pêl-droediwr ifanc yn ei arddegau nad oedd yn ddigon da i fod yn bêl-droediwr proffesiynol, a'r trywydd gwahanol y mae wedi'i gymryd ym maes pêl-droed.

Mae'r fideo yn dangos y dylanwad y mae modelau rôl yn eu cael, a'r rheiny sydd wedi'i helpu. Mae'r disgyblion yn cael eu hannog i uniaethu â Gareth ac archwilio'r dylanwadau a'r cymorth sydd ar gael iddynt, ac yna cwblhau Cynllun llwybr gyrfa.

Clip o'r stori

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â gyrfaoedd a dewisiadau gydol oes.

Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â gyrfaoedd a dewisiadau gydol oes a bod nifer o bobl sy'n allweddol wrth ffurfio modelau rôl.

Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol y ffactorau a'r bobl sy'n dylanwadu ar ein dewis o yrfaoedd a dewisiadau gydol oes.

Gweithgareddau ar gyfer y wers

Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu

Mewnbwn yr athro

Y dosbarth cyfan

Yr athro i gyflwyno amcanion y wers - y dewisiadau a wneir gan unigolion mewn perthynas â llwybrau gyrfa, a'r rôl y mae unigolion yn ei chwarae mewn dylanwadu'r penderfyniadau hynny.

Dechrau'r wers: Allan o'i le

Unigol

Ysgrifennwch y geiriau canlynol ar y bwrdd gwyn a gofyn i'r disgyblion adnabod pa un sydd allan o'i le. Nid oes ateb cywir, ond mae eu rhesymau yn ddilys mewn sgiliau meddwl.

  • Pêl-droediwr proffesiynol
  • Gwleidydd
  • Doctor

Clip fideo

Y dosbarth cyfan

Y disgyblion i wylio'r fideo.

Dylanwadau ar Gareth

Unigol

Disgyblion i ddefnyddio Taflen 1 - Dylanwadau pwysig ar Gareth i adnabod y dylanwadau ar benderfyniadau Gareth ynghylch dewis gyrfa.

Adborth

Y dosbarth cyfan

Yr athro i annog adborth gan y disgyblion am y dylanwadau ar Gareth.

Dylanwadau arna' i

Unigol

Gan ddefnyddio Taflen 2 - Dylanwadau pwysig arna' i, y disgyblion i adnabod y dylanwadau ar eu dewis nhw eu hunain wrth ddewis gyrfa.

Trafod

Parau

Y disgyblion i drafod eu canlyniadau gyda phartner a gofyn am eu cyngor wedi iddynt gwblhau eu taflenni.

Cynllun llwybr gyrfa

Unigol

Y disgyblion i lenwi Taflen 3 - Cynllun llwybr gyrfa, gan adnabod y rhinweddau, sgiliau a thalentau personol sydd ganddynt, a'r cymhwyster maent yn barod i'w gyflawni.

Cyflwyniad i'r dosbarth

Y dosbarth cyfan

Yr athro i ofyn am wirfoddolwyr i gyflwyno eu taflenni dylanwadau a'u cynlluniau gweithredu i'r dosbarth.

Dylanwad modelau rôl

Y dosbarth cyfan

Y dosbarth i drafod:-

  • Y dylanwad sydd gan modelau rôl ar eu dyfodol.
  • Dylanwad rhieni ac aelodau o'r teulu ar ddewisiadau gyrfa.
  • Rôl Cynghorwyr Gyrfa Cymru mewn helpu i ddewis gyrfa.

Trafod syniadau

Y dosbarth cyfan

Yr athro i ddiweddu'r wers drwy gynnal sesiwn i drafod y syniadau sydd wedi'u nodi ar y bwrdd gwyn ynghylch y nifer o ddylanwadau sydd ar unigolion.

Diwedd: Adolygiad

Unigol

Y disgyblion i ddarllen sylwadau sydd wedi'u postio ar y wefan ac i ysgrifennu sylw am y stori.

Sylwadau ysgrifenedig

Unigol

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 4 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.

Eiconau

Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso rhif
  • TGC
  • Datrys problemau
  • Gweithio gydag eraill
  • Gwella eich perfformiad eich hun
  • Meddwl yn feirniadol
  • Meddwl yn greadigol
  • Archwilio ystyr
  • Myfyrio
  • Sgiliau ymchwilio
  • Sgiliau cyflwyno

Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):

  • Rhannu amcanion dysgu
  • Defnyddio cwestiynau
  • Adborth effeithiol
  • Modelu
  • Hunanasesu disgybl
  • Asesu gan gyfoedion
  • Asesu parhaus
  • Addasu addysgu/ adolygu
  • Cyfarfod Llawn

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.