
Yr arwyddion Wyt ti'n pigo ar rywun neu'n ei wthio o gwmpas? Wyt ti'n poeni rhywun drwy'r amser? Neu wyt ti'n rhan o griw sy'n codi ofn ar rywun? Ydy hi'n bosib bod rhywun wedi teimlo bo' ti neu dy ffrindie wedi'i fwlio?
Ond jyst tynnu coes ydw i... Mae bwlio yn difetha bywydau pobol. Bob blwyddyn, mae tua 16 o blant ym Mhrydain yn lladd eu hunain ar ôl iddyn nhw gael eu bwlio. Mae llawer o blant eraill yn tangyflawni achos bo' nhw'n methu canolbwyntio ar eu gwaith ysgol, neu ma' nhw'n cadw draw o'r ysgol er mwyn osgoi'r bwlis. Er bod rhai yn llwyddo i gael y gorau ar y bwlis mae'r profiad yn gallu effeithio ar eu hyder a'u perthynas â phobol eraill am amser mawr.
- Llynedd, dywedodd 69% o bobol ifanc eu bod nhw wedi cael eu bwlio. Arolwg Cenedlaethol o Fwlio 2006
Paid gadael iddo ddigwydd Trwy droi dy gefn ar rywun sy'n cael ei fwlio a gwneud dim i'w helpu, rwyt ti'n helpu'r bwlis. Os wyt ti'n gweld rhywun yn cael ei fwlio bydd yn ddigon dewr i ddweud wrth rywun.
Cysylltiadau defnyddiol
Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.
Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


