Make-up (fideo Saesneg)
Gwers sy'n ysgogi trafodaeth am rôl colur mewn dylanwadu ar ddelwedd corff person a'u lles iechyd meddwl.
Gan weithio mewn grwpiau ar garwsél datganiadau, bydd y disgyblion yn dysgu adnabod y ffactorau sy'n dylanwadu ar ddelwedd corff ac yn effeithio ar iechyd meddwl, a'r ffyrdd y gellir meithrin lles emosiynol.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Y gall delwedd corff gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar les emosiynol person.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Y gall delwedd corff a'r pwysau i gydymffurfio effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol person.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol y dylanwadau ar unigolion i gydymffurfio i ddelwedd corff ystrydebol, a'r effeithiau ar iechyd meddwl a lles emosiynol.
Dolenni Cwricwlaidd
Iechyd a lles emosiynol
- datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill.
- dangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach.
- yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimliadau negyddol.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu
Mewnbwn yr athro

Yr athro i gyflwyno amcan y wers - sef trafod y ffactorau sy'n ymwneud â delwedd corff, a'u heffaith ar iechyd meddwl a lles emosiynol (hunan ganfyddiad a hunan-barch).
Gall y pwnc hwn fod yn fater sensitif ac mae angen ei drafod yn ofalus.
Dechrau'r wers: Cartŵn cysyniad

Gan ddefnyddio Taflen 1 - Cartŵn cysyniad, mae angen i'r disgyblion fyfyrio ar y datganiadau a thrafod pa gartŵn maent yn uniaethu ag o, a sut y mae'r cymeriadau unigol yn teimlo am eu delwedd corff.
Adborth y dosbarth

Y disgyblion i roi adborth mewn trafodaeth dosbarth.
Clip fideo

Y disgyblion i wylio'r fideo.
Sylwadau am y fideo

Y disgyblion i ysgrifennu eu sylwadau cychwynnol am y fideo ac yna'u rhannu â phartner o'r rhyw arall.
Adborth y dosbarth

Adrodd yn ôl i'r dosbarth ar sut maent yn teimlo ynglŷn â threfn Leah yn y bore.
Llinell ffortiwn

Y disgyblion i ddefnyddio Taflen 2 - Llinell ffortiwn i gofnodi sut maent yn meddwl y mae hwyliau Leah yn newid wrth iddi baratoi y bore.
Ar yr ail linell ffortiwn mae angen i unigolion gofnodi sut maent yn credu bod eu hwyliau nhw yn newid yn y bore.
Rhannu syniadau

Unigolion i rannu eu llinellau ffortiwn gyda phartner.
Carwsél datganiadau

Trefnwch y dosbarth yn bum grŵp. Rhowch un o'r diagramau pry cop o Taflen 3 - Carwsél datganiadau - i bob grŵp wedi ei brintio ar bapur A3.
Y pum diagram pry cop yw;
- Grŵp 1 - Ffactorau sy'n gallu dylanwadu ar ddelwedd corff person mewn modd cadarnhaol
- Grŵp 2 - Ffactorau sy'n gallu dylanwadu ar ddelwedd corff person mewn modd negyddol
- Grŵp 3 - Effaith bod â delwedd corff cadarnhaol ar les person
- Grŵp 4 - Effaith bod â delwedd corff negyddol ar les person
- Grŵp 5 - Camau y gall person eu cymryd i wella hunan ganfyddiad / hunan-barch isel
Rhowch 3 munud i bob grŵp ysgrifennu eu sylwadau/ychwanegu sylwadau ar y diagramau pry cop ac yna eu pasio ymlaen i'r grŵp nesaf.
Ar y diwedd, mae'n rhaid i'r daflen wreiddiol ddychwelyd yn ôl i'r grŵp cyntaf ac mae'n rhaid iddyn nhw adrodd yn ôl i'r dosbarth am y sylwadau sydd wedi'u nodi.
Adborth grŵp

Yr athro i ganolbwyntio ar bwyntiau perthnasol o'r adborth grŵp, gan dynnu sylw at yr effeithiau ar iechyd meddwl a lles person, a'r strategaethau i'w defnyddio er mwyn gwella hunan-barch.
Sylwadau ysgrifenedig

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 4 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.
Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn