Sut rydym yn cyflogi

Gall gwneud cais am swydd newydd fod yn frawychus, felly rydym am wneud pethau mor dryloyw a hawdd â phosibl. Dyma bopeth y gallwch ei ddisgwyl os byddwch yn gwneud cais.

Crynodeb

Rydym yn canolbwyntio ar bwrpas. Fel un o’r brandiau cyfryngau mwyaf dibynadwy yn y byd, rydym yn cynnig creadigrwydd o’r radd flaenaf a chynnwys arloesol i hysbysu, addysgu a diddanu ein cynulleidfaoedd.

Mae meddylfryd yn bwysig. Rydym yn chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd.

Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaeth. Pobl sy’n hunanymwybodol, yn frwdfrydig ac sy’n darparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol.

Rydym yn chwilio am botensial yn hytrach na pherffeithrwydd, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

SWYDDOGAETH GWERTHOEDD YN EIN GWAITH CYFLOGI

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn fwy na dim ond geiriau ar dudalen, maen nhw’n sail i bopeth a wnawn. Dyma yw DNA’r BBC. Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych yn dangos pob un ohonynt.

Beth allwch chi ei ddisgwyl

Cam 1 - Gwneud cais

Ar ôl i chi ddarllen yr hysbyseb swydd yn llawn, cliciwch ‘Gwneud cais nawr’. Efallai y bydd rhai cwestiynau sgrinio fel rhan o’r cais – mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi gwell syniad i ni a ydych chi’n bodloni meini prawf allweddol y swydd ac i chi benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.

Cam 2 - Sgrinio

Rydym yn defnyddio dulliau sgrinio amrywiol i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r dalent orau un ar gyfer y swydd. Bydd aelod o’r tîm Caffael Talent yn adolygu eich cais yn erbyn meini prawf allweddol ac yn cefnogi’r rheolwr sy’n penodi i lunio rhestr fer. Gall y broses gynnwys asesiadau, fel profion sgrinio ar-lein neu i brofion crebwyll, i werthuso a ydych chi’n bodloni’r meini prawf allweddol ac i’ch helpu chi i benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.

Cam 3 - Cyfweliad

Byddwn yn awyddus i ddod i’ch adnabod chi a’ch sgiliau, eich gwybodaeth, eich profiad a’ch cryfderau. Rydym hefyd yn awyddus i glywed pam rydych chi’n meddwl y byddech chi’n rhagori yn y swydd a pham fod gennych chi ddiddordeb yn y BBC. Byddwch yn cael rhagor o fanylion am beth i’w ddisgwyl.

Cam 4 - Asesiadau

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd camau asesu ychwanegol. Gallai hyn fod yn dasg neu’n ymarfer sy’n benodol i’r swydd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi ddangos i ni beth rydych chi’n gallu ei wneud.

Cam 5 - Cynnig a chynefino

Os aiff popeth yn iawn, byddwch yn cael swydd - rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r BBC!


Addasiadau rhesymol

Cymorth gyda’ch cais

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi i wneud cais am swydd neu i gael cyfweliad am swydd gyda’r BBC, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk gan nodi cyfeirnod y swydd yn y llinell pwnc. Rydym yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn eich cefnogi drwy’r broses. Mae sawl ffordd y gallwn dderbyn ceisiadau ac addasu ein prosesau dethol i ddiwallu eich anghenion. P’un a fydd eich proses ddethol yn digwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb, gallwn wneud addasiadau fel darparu isdeitlau ar Teams, rhoi mwy o amser i chi, neu addasu ein cwestiynau i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib.


Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y broses recriwtio

Yn y BBC, rydyn ni’n gwybod bod adnoddau fel deallusrwydd artiffisial yn gallu eich helpu i baratoi, rhoi trefn ar eich meddyliau a theimlo’n fwy hyderus wrth wneud cais am swydd. Ond chi sydd o ddiddordeb mawr i ni.

Rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau, eich sgiliau a’r hyn sy’n eich cymell. Y ceisiadau cryfaf yw’r rhai sy’n adlewyrchu eich meddwl, eich cyflawniadau a’ch persbectif eich hun. Felly, er bod croeso i chi ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gael cymorth, rydyn ni’n eich annog i wneud yn siŵr bod eich cais yn adlewyrchu eich llais eich hun ac yn adrodd eich stori.

 

Pryd y gall AI helpu eich cais:

  • Gall adnoddau deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol pan gânt eu defnyddio’n foesegol ac yn dryloyw. Er enghraifft;
  • Prawfddarllen a gwirio gramadeg - Sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu yn glir ac yn broffesiynol
  • Fformatio eich CV neu lythyr eglurhaol - Helpu gyda chynllun, strwythur neu ddarllenadwyedd
  • Ymarfer cwestiynau cyfweliad - Defnyddio deallusrwydd artiffisial i ymarfer cwestiynau cyffredin neu fagu hyder
  • Egluro disgrifiadau swydd - Gofyn i AI esbonio termau anghyfarwydd neu ddisgwyliadau

Mae'r rhain yn eich helpu i gyflwyno eich hun ar eich gorau, nid fersiwn rhywun arall ohonoch.

 

Pryd na ddylid defnyddio deallusrwydd artiffisial:

  • Gofynnwn i chi osgoi defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffyrdd sy’n cuddio eich gwir lais neu’n camliwio eich galluoedd;
  • Llunio llythyrau eglurhaol neu ddatganiadau personol
  • Cyflwyno ymatebion wedi eu hysgrifennu gan ddeallusrwydd artiffisial i gwestiynau cais nad ydynt yn adlewyrchu eich profiad eich hun
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddynwared eich llais mewn cyfweliadau fideo neu sain
  • Dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial i ffugio cyflawniadau, sgiliau neu gymwysterau

Os ydyn ni’n amau bod deallusrwydd artiffisial wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnwys, gall effeithio ar sut mae eich cais yn cael ei asesu

 

Beth rydyn ni’n ei werthfawrogi fwyaf:

Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n dod â chwilfrydedd, gonestrwydd a gwreiddioldeb i’w gwaith. Mae hynny'n dechrau gyda sut rydych chi'n gwneud cais. Defnyddiwch ddeallusrwydd artiffisial i roi sglein, nid i esgus bod yn rhywun arall. Gadewch i'ch llais go iawn ddisgleirio, oherwydd dyna pwy rydyn ni eisiau gweithio gyda nhw.


  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: