
Scroll down for Welsh
I know Welsh rugby supporters in Wales have been waiting for some time. So it’s fantastic to share the news at long last. It’s simple really. All of Wales’ Six Nations matches will remain available to everybody, free-to-air, for the next six years - thanks to a new broadcast partnership between the BBC and ITV.
What does this mean for fans in Wales? Well, every home match at the Millennium Stadium will be live and exclusive on the BBC and S4C, as well as Wales’ away games in Edinburgh and Paris. ITV will show live action for all England, Ireland and Italy home matches. Both broadcasters will also be able to show highlights of every match in the tournament.
I know the RBS 6 Nations Championship has a unique place in the hearts of Welsh rugby fans – and it’s why we’ve gone the extra mile to secure this new deal. More than a million people in Wales tuned into the opening Wales v England match earlier this year. And with Wales’ home matches topping the most-watched programme chart in Wales for the past three years, I’m thrilled these great sporting moments will remain on the BBC.
The new deal will begin immediately next season and run until Spring 2021.
The television and online rights to the RBS 6 Nations will be shared between the BBC and ITV while the radio rights – including live coverage on BBC Radio Wales and Radio Cymru – will stay with the BBC.
It’s a deal that means that the magic of Welsh rugby will remain within everyone’s reach – and not just those that can afford TV subscriptions. And, of course, it means that viewers can continue to enjoy the BBC’s unbeatable rugby coverage.
It’s no secret that the BBC is facing real funding challenges but we know what this competition means to audiences across Wales, and I’m delighted we were able to work with ITV to put together a deal that put audiences first.
Sure, there may be a few eyebrows raised at this partnership. It’s one that might have been considered unlikely in the past. But I believe it’s the right deal. The right deal for Wales, for Welsh rugby and for viewers. A win-win-win.
Cadw'r Chwe Gwlad
Rwy’n gwybod bod cefnogwyr rygbi yng Nghymru wedi bod yn aros am beth amser. Felly mae’n wych i rannu’r newyddion o’r diwedd. Mae’n syml mewn gwirionedd. Bydd pob un o gemau Cymru yn y Chwe Gwlad yn parhau i fod ar gael i bawb, am ddim, am y chwe blynedd nesaf - diolch i bartneriaeth ddarlledu newydd rhwng y BBC ac ITV.
Beth mae hyn yn ei olygu i gefnogwyr yng Nghymru? Wel, bydd pob gêm gartref yn Stadiwm y Mileniwm yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y BBC ac S4C, yn ogystal â gemau Cymru oddi cartref yng Nghaeredin a Pharis. Bydd ITV yn dangos holl gemau cartref Lloegr, Iwerddon a’r Eidal yn fyw. Bydd y ddau ddarlledwr hefyd yn gallu dangos uchafbwyntiau pob gêm yn y bencapwriaeth.
Dwi’n gwybod bod gan Bencampwriaeth 6 Gwlad RBS le unigryw yng nghalonnau cefnogwyr rygbi Cymru - a dyna pam ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau’r cytundeb newydd hwn. Fe wyliodd dros filiwn o bobl yng Nghymru gêm agoriadol Cymru yn erbyn Lloegr yn gynharach eleni. A gyda gemau cartref Cymru ar frig y siart gwylio rhaglenni yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf, dwi wrth fy modd fod yr eiliadau mawr hyn yn y byd chwaraeon yn aros ar y BBC.
Bydd y cytundeb newydd yn dechrau’n syth y tymor nesaf ac yn rhedeg tan y Gwanwyn 2021. Bydd yr hawliau teledu ac ar-lein i 6 Gwlad RBS yn cael eu rhannu rhwng y BBC ac ITV tra bydd yr hawliau radio - gan gynnwys darllediadau byw ar BBC Radio Cymru a Radio Wales - yn aros gyda’r BBC.
Mae’n gytundeb sy’n golygu y bydd hud rygbi Cymru yn parhau i fod o fewn cyrraedd pawb - ac nid dim ond i’r rhai sy’n gallu fforddio tanysgrifiadau teledu. Ac, wrth gwrs, mae’n golygu y gall gwylwyr barhau i fwynhau darllediadau rygbi diguro’r BBC.
Nid yw’n gyfrinach bod y BBC yn wynebu heriau cyllid go iawn, ond rydym yn gwybod beth mae’r gystadleuaeth hon yn ei olygu i gynulleidfaoedd ledled Cymru, ac rwy wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio gydag ITV i lunio cytundeb sy’n rhoi cynulleidfaoedd yn gyntaf.
Mae’n siwr y bydd y bartneriaeth hon yn un annisgwyl i rai pobl. Mae’n un y byddai wedi cael ei hystyried yn annhebygol yn y gorffennol. Ond rwy’n credu mai hon yw’r fargen orau. Y cytundeb iawn i Gymru, i rygbi Cymru ac i wylwyr. Mae pawb ar eu hennill.
