Rydym newydd lansio ail rownd y Gronfa Lansio, lle y gall cerddorion ac artistiaid yng Nghymru elwa o grantiau hyd at £ 2,000 tuag at eu cerddoriaeth. Mae'n rhan bwysig o'r prosiect Gorwelion, gan fod cymorth ariannol yn chwistrelliad ymarferol iawn o weithgarwch i mewn i'r sin gerddoriaeth Gymraeg. Mae llawer o'r bandiau wedi gallu recordio, creu fideos, cyfrannu tuag at dalu am hyrwyddwyr i'r wasg a radio, prynu offer, a chyfrannu at brynu cerbydau o ganlyniad i'r gronfa.
Bu i 29 o artistiaid o bob rhan o Gymru elwa o’r Gronfa flwyddyn ddiwethaf, ac mae pob un wedi gallu ei ddefnyddio mewn ffyrdd ymarferol iawn. Gyda llawer o gerddorion yn meddwl gwneud cais eto eleni, roeddwn i eisiau ysgrifennu rhai awgrymiadau ymarferol a allai helpu gyda'r cais. Bydd panel o arbenigwyr yn didoli trwy'r ceisiadau a bydd rhaid i chi ddangos iddynt y bydd y gronfa yn cyfrannu at brosiectau ysbrydoledig a fydd wir yn helpu eich band i symud ymlaen.
1. Beth sydd angen arnoch, a sut y gallwch brofi hyn?
Gwnewch y ffurflen gais mor syml a chlir â phosibl.
Y llynedd roedd Houdini Dax eisiau prynu fan. Fel band teithio prysur, byddai'n arbed arian iddynt yn y tymor hir yn hytrach na llogi fan i fynd a nhw a’u hoffer i’r holl gigs. Ynghyd a chyfraniad gan y band eu hunain, roedd y Gronfa Lansio yn gymorth i rannol ariannu’r fan.

Houdini Dax
Os oes angen fan arnoch, peidiwch â gwneud cais am gitâr newydd. Os ydy’ch gitâr wedi torri, peidiwch â gwneud cais am fan.
2. Meddyliwch am brosiect.
Nid oes rhaid iddo fod yn syniad enfawr, ond a fydd creu yr un peth hwn yn gwneud gwahaniaeth i'ch blwyddyn? Roedd Estrons eisiau gwneud fideo, ac mi wnaethon nhw fideo gwych, hardd, gwreiddiol. Mae fideo yn ffordd wych i hyrwyddo eich cerddoriaeth - ond cofiwch feddwl am sut y byddwch yn ei hyrwyddo, beth fydd yn digwydd iddo, a yw'n cyd fynd gyda rhyddhau cerddoriaeth newydd? Pwy fydd yn ei wneud; pryd y byddant yn ei wneud; ydych chi wedi sgwrsio â'r cyfarwyddwyr; a ydych wedi trafod cyllid gyda nhw?
**FIDEO ESTRONS OS YN BOSIB**
"Rydym yn awyddus i berfformio gyda cherddorfa ar ben yr Wyddfa". Ni fydd y gyllideb yn cwmpasu hynny. Gwnewch y syniad yn greadigol ond realistig.
3. Cyllideb
Hyd yn oed os bydd y symiau yn syml iawn, mae’n rhaid cymryd yr amser i ddangos faint bydd pethau’n costio a gwneud ychydig o waith ymchwil. Peidiwch tanbrisio rhywbeth a chanolbwyntiwch ar eich cais, er enghraifft, efallai mai'r peth gorau yw gwneud cais am un peth yn hytrach na llawer o bethau gwahanol.
Bu Tendr Prey yn llwyddiannus yn eu cais yn gofyn am hyrwyddwr cenedlaethol a chysylltiadau cyhoeddus am ei albwm Organ Calzone, a helpodd gael sesiwn radio ar BBC 6Music yn ogystal â sylw gan y wasg o amgylch lansiad yr albwm. Bu rhan o’r gronfa hefyd yn mynd tuag at gymorth taith. Roedd hwn yn gais da, clir ac yn gallu profi ble byddai’r cyllid yn cael eu wario, ac yn dangos artist Cymreig sy'n gweithio yn galed i gael ei cherddoriaeth wedi ei glywed gan gynulleidfa ehangach.
4. Offer.
Mae cerddorion wrth eu bodd yn prynu offer newydd, ac mae’r Gronfa yn sicr yno i helpu bandiau brynu pethau fel hyn. Ond mae’n rhaid ystyried sut ydych chi'n dangos eich bod wir angen y drymiau / gitâr / bysellfwrdd newydd?
Fe wnaeth y Babyqueens gais llwyddiannus am feicroffonau, fel y gallent fynd â nhw gyda nhw i gigs. Gyda 5 o gantorion roedd yn rhan bwysig o'u perfformiad byw.
Galluogodd y gronfa i’r Samoans brynu bysellfwrdd sydd wedi symud eu hysgrifennu ymlaen i gyfeiriadau newydd.
Ystyriwch, ai dyma'r peth mwyaf pwysig i chi fel band; a yw am eich helpu i symud ymlaen gydag eich cerddoriaeth, neu a fyddai hyrwyddo / recordio mewn stiwdio / cludiant i gigs yn fwy o werth i'ch sefyllfa chi?
5. Hyrwyddwyr
Os ydych wedi cael ychydig o lwyddiant gydag eich cerddoriaeth eisoes, mae hyn yn beth gwych i'w hystyried ar gyfer eich cam nesaf. Pan fyddwch yn dod o hyd i'r hyrwyddwr iawn i weithio gyda, gall helpu gael rhywfaint o sylw mewn print / ar-lein. Bydd hyn o fudd wrth adeiladu portffolio o adolygiadau, Neu beth am 'hyrwyddwr radio' i’ch helpu i gael mwy o amser darlledu y tu allan i allbwn Cymreig. Ceisiwch ddod o hyd i hyrwyddwr a fydd yn hoffi eich cerddoriaeth, gan nad yw pob hyrwyddwyr yn derbyn pob math o gerddoriaeth. Bydd ganddynt restr o sioeau y byddent yn gweithio gyda nhw.
Bu cais Ellie Makes Music yn llwyddiannus a hynny ar gyfer recordiad o ansawdd uchel a hyrwyddwr cenedlaethol. Cafodd ei airplay cyntaf ar Radio 2 a BBC 6Music, yn ogystal ag Artist of the Week ar BBC Radio Wales.
6. Pwy sy'n poeni?
Pwy ar hyn o bryd sy’n hoffi'r band? Faint o bobl sy’n dod i’ch gigs; pa mor bell i ffwrdd o gartref yr ydych yn chwarae; pwy sydd wedi bod yn ysgrifennu amdanoch chi, chwarae eich cerddoriaeth, mynd â chi ar daith fel band cymorth? Oeddech chi'n gwerthu allan sioeau adref? Os gallwch ddangos bod gennych gefnogaeth gan wahanol bobl yn y diwydiant cerddoriaeth, byddai dyfyniad gan hyrwyddwr gig, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, blogger, yn helpu eich cais.
7. Syniadau
Rydym wrth ein bodd yn darllen syniadau creadigol diddorol. Yn ogystal â'r enghreifftiau uchod, dyma rai syniadau eraill am yr hyn y gallwch wneud cais amdanynt:
• Pecyn promo proffesiynol neu epk
• Dylunio Logo / gwaith celf gan yr artist penodol ar gyfer record newydd
• Décor llwyfan i gigs a gwyliau
• Rhywbeth gweledol mewn gigs byw
• Cymysgu proffesiynol
• Amser stiwdio
• Llogi lleoliad ar gyfer ysgrifennu
• Fideo proffesiynol
• Cwmni hyrwyddo
• Cerddorion ychwanegol ar gyfer recordiad neu berfformiad
• Trefniadau cerddorfaol
• Hyrwyddo a gwneud gig lansio arbennig
• Cydweithio artistig
• Cludiant a chostau eraill ar gyfer taith
• Offer
8. Mae’n rhaid i’r cais fod amdanoch chi neu’ch band
Mae'n rhaid i’r cais fod gan yr artist ar gyfer yr artist, gall gweithwyr proffesiynol, cwmnïau, stiwdios neu'r labeli wneud cais ar eu rhan, ond nid ar gyfer y cwmni label / stiwdio / rheolaeth yn gyffredinol.
9. Pob lwc!
Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn helpu ychydig wrth i chi ystyried eich cais - gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau a'r telerau ac amodau llawn ar wefan Gorwelion. www.bbc.co.uk/gorwelion
