Main content

Lille - Undod a Chryfder

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ar eu ffordd adre yn dilyn gêm gynhwyso ar gyfer Ewro 2016 fe wnaeth carfan Cymru daith arbennig, i fynwuent Artillery Wodd gerllaw Ypres yng ngogledd Ffrainc i ymweld â’r gof golofn a godwyd i gofio'r milwyr o Gymru a gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr.

Mae’r daith yma yn croniclo’n berffaith yr ysbryd o undod a chryfder sy’n bodoli ymysg y chwaraewyr, a hyfforddwyr a gwnaethpwyd ymdrech benodol i weld bedd y bard Hedd Wyn a gollodd ei fywyd ymysg y Cymry eraill yn y Rhyfel.

Yn wir, mynnodd Garth Bale ymweld â bedd y bardd o Drawsfynydd, ac mae’r cymeriad yma o Gymreictod yn esiampl o’r gostyngeiddrwydd sy’n perthyn i’r tîm a chryfder eu cymeriad.

Curwyd Gwlad Belg nos Wener ddiwethaf, gan sicrhau lle yn y rownd gyn derfynol, a chyflawnwyd hyn ar y dydd pan gynhaliwyd gwasanaethau i gofio cychwyn brwydr y Somme.

Cymro arall a gollodd ei fywyd yn y rhyfel, ac ym mrwydr y Somme, oedd Leigh Richmond Roose.

Golwr oedd Roose, mab y mans o bentref Holt ger Wrecsam, a astudiodd meddygaeth ym mhrifysgol Aberystwyth ac a enillodd Cwpan Cymru gyda thîm Tref Aber yn 1895 cyn mynd ymlaen i fod yn seren fwyaf y byd pêl droed ( Gareth Bale ddydd) gyda Sunderland, Everton, Stole a Celtic( ymysg llawer eraill) cyn ymuno a’r fyddin a cholli eu bywyd yn y Somme ym mis Hydref 1916.

Yma, ym mro'r Gymru ifanc dewr, y rhai na fyddant yn heneiddio, sydd yn gorwedd mewn mynwentydd yng ngogledd Ffrainc, y llwyddodd ein tîm pêl droed i greu hanes yn ein diwylliant chwaraeon .

Ar ôl y fuddugoliaeth ym mrac y tywysogion ym Mharis, coronwyd Coleman a'r criw yn frenhinoedd yn Lille.

Ond ble mae rhywun yn dechrau? Be mae rhywun yn ei ddweud, ei ysgrifennu, ei ganu, ei drafod, ei ganmol, ei orfoleddu, a’i ddathlu wrth i wefr y noson barhau, a pharhau a pharhau.



Nefar in Ewrop? Scersli bilîf! Sacre bleu,’dan i yn y semi final!!!!



Mae mynyddoedd o flynyddoedd o siom wedi ei chwalu a phriodol ydi cyfeirio at hyn gan fod Cymru wedi ennill calon a pharch y byd oddi ar , ac ar y cae wrth i'r tîm lwyddo yn Lille a chreu hanes wrth guro’r Belgiaid ac ennill yr hawl i wynebu Portiwgal yn y rownd gyn derfynol nos Fercher.



Tipyn o siom ar y cychwyn wrth i’r Belgiaid achub y blaen, ond yna ymysg y gymanfa, y canu, Coleman Lan, a Dont take Me Home, yn ogystal â Hen Wlad fy Nhadau, daeth tro ar bethau.



Newidiwyd cwrs y gêm, wrth i ganiadaeth gysegredig o gymanfa bel droedaidd genedlaethol arllwys toreth o gefnogaeth wladgarol nas gwelwyd ar stadiwm genedlaethol ers beth amser.



Ynghanol hyn i gyd, ysbeidiau hudolus, y cyd ganu o Hen Wlad fy Nhadau yn amgylchynu fel mantell soniarus anweledig o gwmpas y stadiwm a chefnogwyr Gwlad Belg yn cael eu syfrdanu gan dafod a fflam y ddraig Gymreig yn atgyfodiad genedigaeth campwaith ein harwyr.



Mae Cymru wedi cyhoeddi eu presenoldeb ar lwyfan byd eang, wrth ymateb i drefn a disgyblaeth Chris Coleman ac Osian Roberts, heb son am ddefnyddio pob owns o egni a’u medrau personol ar y cae i gofleidio'r wawr ddisgleirio'n llachar sy’n prysur wawrio.

Y tu ôl i hyn i gyd, mae yna, yn y nefoedd, un Cymro arall yn cadw cwmni i Hedd Wyn a Leigh Richmond Roose, un sy’n cadw golwg gariadus ar y llwyddiant, un sydd uwchben hun oll, ac yn edrych i lawr ar y llwyddiant a’r Cymreictod a gychwynnwyd ganddo.



Ie Gary, mae popeth wedi dod yn ‘alright’



Come on Cymru; ‘ I love you baby!’



Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

Dathliadau'r cefnogwyr yn Lille ar ol gem Cymru yn erbyn Gwlad Belg

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru v Gogledd Iwerddon - Parc des Princes

Nesaf