Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mehefin 26ain - Gorffennaf 1af

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dan y Wyneb - Barclaycard

anarferol - unusual

difyr - interesting

cyfrif banc - bank account

daioni - goodness

diwylliant - culture

newid byd - a complete change

trwy gyfrwng - through the medium of

nwyddau - goods

cyfathrebu - to communicate

pres - arian

"penblwydd anarferol iawn - mae Barclaycard yn bumdeg oed eleni! Dydd Llun mi fuodd Dan y Wyneb yn edrych ar ddyfodol cardiau credyd. Fyddwn ni dal yn eu defnyddio nhw mewn blynyddoedd i ddod? Dyma i chi beth oedd gan Llyr Roberts i'w ddweud wrth Dylan Iorwerth ... "



Rhaglen John Walter - Pêl-droed

ar lawr gwlad - grassroot level

yn futrach - dirtier

doethuriaeth - PhD

Cofi - person o Gaernarfon

cyd-weithio - co-operate

cymdeithasau crefyddol - religious societies

gwenidogion - ministers

magwrfa - upbringing

hagrwch - the ugliness

pobl cig a gwaed - real people

"Diddorol ynde - gwledydd Affrica ar y blaen i wledydd y gorllewin efo'r dechnoleg newydd! Efo'r holl gyffro yn Ffrainc, a thîm Cymru wedi gwneud mor dda, roedd rhaid cael clip am bêl-droed yndoedd? Ac ar raglen John Walter mi ddewisiodd Arwel Jones, oedd yn arfer canu gyda Hogia’r Wyddfa, siarad am un o’i hoff bynciau sef pêl-droed. Mae Arwel yn gryf o'r farn bod y gêm yn ffordd o gael gwraed ar snobyddiaeth yn ein cymdeithas ni. Dyma fo'n egluro pam... "



Aled Hughes ac Aran Jones - Dysgu Mynaweg

Mynaweg - Manx

cynnwys - content

cynhyrchu - to produce

gwthio'ch ffiniau - push your boundaries

colli rheolaeth - to lose control

ymenydd - brain

syndod - a surprise

dwyieithog - bilingual

llwyddiant - success

teclyn - an implement

"Dw i'n siwr bod chwaraewyr Cymru dim wedi gorfod rhannu bath budr draw yn Ffrainc! Faint o amser dach chi'n feddwl mae o'n ei gymryd i ddysgu iaith - saith, wyth mlynedd, neu fwy ella? Wel mi driodd Aran Jones o SaySomethingInWelsh ddysgu Mynaweg, iaith Ynys Manaw, mewn un diwrnod. Aeth Aled Hughes i'w holi am y marathon o ddiwrnod gafodd o ac i roi prawf bach iddo fo... "



Bore Cothi - Ceiropractydd

cyhyrau - muscles

yn dyddiol - daily

cymalau - joints

esgyrn - bones

ar gyfartaledd - on average

canran fach - a small percentage

niwed mawr - great harm

wedi eu dylunio - designed

amrywiaeth - variety

gwers amlwg - an obvious lesson

Wel chwarae teg i Aran, roedd o'n agos iawn at cael marciau llawn yndoedd? Efallai bod eistedd twy'r dydd o flaen cyfrifiadur yn medru eich helpu i ddysgu iaith, ond dydy o ddim yn dda iawn i'r cefn. Mae Owain Evans yn geiropractydd yn Llundain ac mi fuodd o'n son ychydig wrth Shan Cothi am ei waith. Fel y cawn ni glywed mae Owain eisiau i ni dreulio llai o amser yn eistedd lawr a mwy o amser yn symud o gwmpas...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Lille - Undod a Chryfder

Nesaf

Fyddwn ni ddim yn rhedeg i Baris