Ar ôl profiadau Bordeaux a Toulouse, ‘roedd bron yn amhosib gwella’r emosiwn!
Anghywir!
Mi lwyddais i redeg i Baris dros nos a chyrraedd fore Sadwrn (wel ar y bws i fod yn gywir) ac yna cael y wefr o weld Cymru’n cadarnhau eu lle yn yr 8 ola.
Ond dechreuodd y noson mewn dim mwy na gobaith ac artaith o fethu a chael ticed.
Gadael Wrecsam am wyth y nos heb son am unrhyw diced o unrhyw fath yn y byd. Yna
ynghanol y nos, neges ar fy ffon gan fy ngwraig a oedd wedi trio drwy gydol y noson, i ddweud fod aelod o'r teulu yn methu a mynd i Baris a bod ei diced ar gael i mi drwy ei frawd, a oedd yno yn barod.
Taith a ddechreuodd mewn ffydd a gobaith, a mwy o freuddwyd ffantasi na gobaith, ac a orffennodd yn y cariad teuluol mwyaf dwys a fu erioed, ac ecstasi pur wrth ddarganfod fy hun ynghanol palas y tywysogion Ffrengig.
“Sacre bleu!”, os oeddwn wedi meddwl na allwn fod mor emosiynol â'r wythnos ddiwethaf, yna meddyliwch eto!
Fe ddylwn egluro, nad ydwi yn un am yfed cwrw, a dweud y gwir mae'n gas gen i'r stwff, ond erbyn diwedd nos Sadwrn roeddwn innau, fel nifer o Gymry eraill yn canu nerth fy mhen am gael aros yn Ffrainc ac yfed eu cwrw i gyd gan nad oedd lawer o awydd mynd adre arna!
Roeddwn hefyd wrthi’n cyhoeddi ynghanol y gymanfa bel droedaidd nad oeddwn eisiau mynd adre i weithio mwyach!
Yna fe ddaeth eiliad o sobrwydd a dos o realiti drosof wrth sylweddoli ynghanol yr heip o siantio afreolaidd mai pensiynwr ydw’i, a doedd na ddim gwaith imi fynd adre iddo fodd bynnag.
Ie, roedd y byd wedi ei droi ben i lawr a phob synnwyr wedi diflannu mewn rhyw ‘Je ne sais quoi’ anhygoel.
Fel nifer o gefnogwyr eraill o Gymru, unwaith ym Mharis a derbyn y ticed, fe wnes fy ffordd i dafarn o’r enw Joe Allen.
Siawns nad oedd perchennog y tarfan yma wedi llwyr wirioni o ddysgu fod yna chwaraewr gyda’r un enw yng ngharfan tîm Cymru.
Llwyddodd hyn i ddenu’r cefnogwyr Cymreig yn eu torfeydd i ymweld i yfed ei gwrw, gan wneud iddo feddwl na fyddant hwythau, fel fi, ar frys i fynd adre wrth i fand pres y Parisons gyrraedd o rywle gan arwain y Cymry mewn mor o ganu o dan drwynau Ffrancwyr edmygus.
Ar y llaw arall, roedd y ddynes a oedd yn berchennog ar y boutique ddillad y drws nesa wedi ei ffieiddio'n llwyr gan na allasai unrhyw un ddod i mewn i brynu'r "coutour" unigryw Ffrengig a oedd ar werth yno!
‘C’est la vie’ meddwn i"! "C’est ma boutique" medda hi!
Doedd Madame ddim yn ddynes hapus!
Yna, y gêm, Llangollen arall tu allan i'r stadiwm, gyda'r miloedd yn cyd ganu, cyd gyfarch, ac yn diolch i'r gendarmes a'r swyddogion Ffrengig am sicrhau ein diogelwch, a hwythau wedi eu syfrdanu wrth weld y cyfeillgarwch Celtaidd a oedd yn cael ei arddangos o flaen eu gynnau.
Ond dyna ni, buddugoliaeth arall dros ein cefndryd Celtaidd, diolch i fflach o athrylith gan Gareth unwaith eto; digwyddodd, darfu, megis seren wib, ac ymlaen a ni i Lille, i’r wyth olaf yn erbyn Gwlad Belg a byddai “ deja-vu” fach arall yn dderbyniol iawn.
Ond fe fyddai’r “deja-vu” o ganu a’r dathlu cymanfaol yn sicr o barhau gyda chalon lan yn llawn daioni, tecach fydd na'r Lille dlos, a dim ond Coleman Lan all ganu, canu'r dydd a chanu'r nos !
Felly, pwy a’m dwg drwy’r quarter final, lle fydd Joe’n arlwyo gwledd, a fydd Gareth a’i sancteiddrwydd, yn creu hanes newydd wedd?
Ac unwaith eto, peidiwch â gadael i ni fynd adre ac o am aros, o am aros yn yr Ewros ddyddiau f’oes, yn yr Ewros ddyddiau f’oes!.
Unwaith eto dwi ’di mynd dros ben llestri ond ymlaen a ni, noswaith arall o ffydd, gobaith, cariad a thensiwn.
“Fait accompli” arall yn erbyn y Belgiaid?
Dyna be’ fyddai Bale-lille-ia!
