Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 16eg-22ain 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - John Ystumllyn

caethwas - slave

bedyddio - to baptise

campus - excellent

cymeriad poblogaidd - a popular character

yn y cylch - in the area

dirgelwch - mystery

englyn - a form of poetry

carreg fedd - gravestone

anwybodaeth - ignorance

disgynyddion - descendants

Hanes John Ystumllyn ddaeth i Gymru fel caethwas o gwmpas 1746, er does neb yn sicr o'r union ddyddiad. Doedd neb yn sicr chwaith o le daeth John yn wreiddiol. Tybed oedd gan Twm Morus atebion? Buodd o'n trafod hyn efo Aled Hughes bore Llun.



Anorecsia a fi - Mair Elliot

difrifol - serious

gwaed - blood

amhwylder bwyd - eating disorder

mas - allan

dyfodol - future

mo'yn - eisiau

Hanes John Ystumllyn, caethwas oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl gan Twm Morus. Stori bersonol Mair Elliot sydd nesa. Mae Mair yn sôn am ei phrofiad o anorecsia mewn rhaglen gafodd ei recordio yn ystod haf 2018.



Rhys Mwyn - Nigel a Neil

Penbedw - Birkenhead

Cilgwri - Wirral

pam lai? - why not?

dychmygu - to imagine

Penarlâg - Hawarden

gwaith coed - woodwork

go lew - quite good

A phob lwc i Mair yn ei brwydr yn erbyn anorecsia ynde? Oeddech chi'n gwybod bod Nigel Crossley o'r grwp Half Man, Half Biscuit yn siarad Cymraeg? Mae Nigel yn dod o Benbedw yng Nghilgwri yn Lloegr. Pam wnaeth o ddysgu Cymraeg felly, a lle ddysgodd o? Cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Nigel a gyda'i diwtor Cymraeg Neil Wyn Jones nos Lun diwetha.



Dan Yr Wyneb - Martin Johnes

cyfres - series

hanesydd - historian

mae o'n fy nharo i - it stikes me

diwyllio - to civilize

cymryd mantais - to take advantage

Nigel Crossley a'i diwtor Neil Wyn Jones, y ddau o Gilgwri a'r ddau wedi dysgu Cymraeg. Da ynde? Weloch chi'r gyfres Wales: England's Colony? ar BBC Wales? Yr hanesydd Martin Johnes oedd yn cyflwyno'r gyfres a fo oedd wedi ei hysgrifennu yn ogystal. Dyma i chi Martin yn esbonio wrth Dylan Iorwerth pam ei fod yn meddwl mai Cymru oedd coloni cyntaf Lloegr.



Dei Tomos - J Foss Davies

casglwr caneuon gwerin - a collector of

disgybl disglair - an outstanding pupil

tlodi - poverty

ei radd - his degree

ardal enedigol - native area

ysbrydoledig iawn - very inspiring

yn ôl y sôn - by all accounts

diwylliedig - cultured

hyddysg - well versed

hadau - seeds

Ychydig o hanes Cymru yn fan'na gan Martin Johnes wrth iddo fo drafod ei gyfres deledu Wales: England's Colony?

Hanes J Foss Davies, un o gasglwyr caneuon gwerin Ceredigion sydd nesa gyda Meinir Jones Parry yn trafod y dyn arbennig yma efo Dei Tomos



Geraint Lloyd - Siop Esi

llwyddiant mawr - a huge success

rheolwraig - manageress

mewn bodolaeth - in existence

hen archeb - an old invoice

y fyddin - the army

annibynnol - independent

y ganrif ddiwetha - the last century

y syniad o gymuned - the idea of a community

atgofion - memories

ambell i nain - the odd grandmother

Ac o hanes Ceredigion i hanes Blaenau Ffestiniog. Mae Delyth Evans o Gwm Nantcol wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar - yn y ‘National Footwear Awards'. Hi ydy rheolwraig siop 'sgidiau Cambrian Boots - neu Siop Esi - fel mae hi'n cael ei nabod ym Mlaenau Ffestiniog. Mae'r siop mewn bodolaeth ers 1911 a thua 1926, gwraig o'r enw Esi Elisabeth oedd y perchennog, ac mae rhai yn dal i alw'r siop yn ‘ Siop Esi'. Cafodd Delyth sgwrs am y busnes efo Geraint Lloyd nos Fercher.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Be sy' 'na mewn enw ?