Main content

Be sy' 'na mewn enw ?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Be’ sy’na mewn enw? Wel, llawer mwy na fedr unrhyw un ei ddychmygu yn aml!

Mae’r Gymdeithas Bel Droed yn ystyried ail enwi ei hun a hynny er mwyn ymgeisio i chwalu canfyddiad o’r balchder trahaus ynddynt eu hunain o fewn y byd pêl droed.

A pwy meddech chi ydi’r Gymdeithas Bel Droed drahaus yma?

Wel nab llai na Chymdeithas Bel Droed Lloegr! Ond nid gyda’r enw yma yr ydym ni, neu y maent hwy, yn cael eu hadnabod.

Na - Y Gymdeithas Bel Droed ydi hon , a dyna’r hyn a fu hi erioed ers iddi gael ei sefydlu yn 1863. I fod yn deg, roedd yr enw yn hollol briodol ac addas yr adeg honno, gan nad oedd yna Gymdeithas Bel Droed arall yn bodoli!

Yr Alban oedd yr ail wlad i sefydlu Cymdeithas Bel Droed, yn 1873 a daeth Cymdeithas Bel Droed Cymru i fodolaeth yn 1876 , fel y drydedd wlad yn y byd i sefydlu cymdeithas bel droed cenedl. Y cyntaf dramor oedd Denmarc yn 1889.

Ond gan mai Lloegr oedd yr un gyntaf, a'r unig un ar y cychwyn, fe gadwyd yr enw The Football Association byth ers hynny.

Ond erbyn heddiw, mae’r Saeson, ar ôl dros gan mlynedd a hanner wedi dod i sylweddoli'r hyn mae bron pob gwlad arall wedi ei dybio ers beth amser, fod galw eu hunain yn Gymdeithas Bel Droed yn rhywbeth hunanol iawn.

Yn wir, yng ngeiriau eu prif weithredwr Martin Glenn tydi'r enw presennol yn ddim gwell na'r mynegiant eithaf o drahauster (the ultimate expression of arrogance yn ei eiriau o).

Mae wedi cymryd lawer o amser ond hwyrach fod y geiniog wedi disgyn!

Y cynnig newydd ydi enwi'r sefydliad fel 'Cymdeithas Bel Droed Lloegr' , a bod holl dimau rhyngwladol Lloegr yn dod o dan y term ‘Pêl Droed Lloegr’.

Wrth gwrs, mae yna bob math o resymau am newid pethau, a thra’r ydym yn falch o weld Lloegr yn derbyn eu bod hwyrach wedi bod yn or drahaus yn eu hunanoldeb, ceir rhesymau eraill dros y newid o bosib.

Mae Lloegr yn dymuno rhoi cais i mewn i FIFA am gynnal Cwpan y Byd yn 2030, a gwneud hyn drwy gyplysu Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y cais. Ond, er mwyn ennill pleidleisiau ar draws y byd, bydd angen cryfhau'r cysylltiadau rhyngwladol, ac mae rhoi’r argraff mai nhw ydy 'Y Gymdeithas' yn gwneud dim i'w delwedd. Llawer gwell felly fyddai cael eu hadnabod, fel pawb arall fel Cymdeithas Bel Droed eu gwlad.

Dywedodd Martin Glenn ei fod wedi sylwi fod yna anhawster yn codi oherwydd yr enw presennol pan mae’n ymweld â chynadleddau, a dweud ei fod yn cynrychioli'r Gymdeithas Bel Droed - a chynrychiolwyr gwledydd eraill yn gofyn iddo - ond pa wlad?

Yma yng Nghymru mae cynghrair ardal Wrecsam yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Cenedlaethol Cymru (gan mai dyma’r gynghrair gyntaf yng Nghymru) yna mae cynghrair De Cymru yn cael ei hadnabod yn swyddogol fel Cynghrair Pêl Droed Cymru, a Chynghrair Cymru oedd yr enw gwreiddiol ar Uwch gynghrair Cymru.

Dim byd ond enw? Choeliai fawr!

O leiaf tydi’r Gymdeithas Bel Droed heb geisio galw ei hun yn Gymdeithas Bel Droed y Deyrnas Unedig, neu Gymdeithas Bel Droed GB hyd yma!

Ond gyda Lloegr yn edrych fel eu bod yn mynnu cystadlu un ffordd neu'r llall mewn gemau pel droed yn y Gemau Olympaidd, does wybod beth a all ddigwydd nesaf!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol