Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Post Cyntaf/ Post Prynhawn - John Mahoney
atgofion - memories
anthem genedlaethol Cymru - Welsh national anthem
ymateb y garfan - the squad's response
yn y pellter - in the distance
ysbrydoliaeth - inspiration
awyrgylch gwych - brilliant atmosphere
gwrthod - to refuse
sefyll yn stond - standing still
y wasg - the press
y parch'dyledus - the due respect
Roedd John Mahoney yn chwarae pêl-droed dros Gymru yn y saithdegau. Dechreuodd o ddysgu Cymraeg saith mlynedd yn ôl a buodd o'n sgwrsio am rai o'i atgofion pêl-droed ar y Post Cynta a hynny yn Gymraeg wrth gwrs! Roedd Cymru yn chwarae llawer o'u gêmau ar y Cae Ras yn Wrecsam bryd hynny ond yn y clip nesa 'ma mae o'n sôn am gêm arbennig yn Wembley yn erbyn Lloegr. Doedd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ddim yn fodlon i anthem genedlaethol Cymru gael ei chanu cyn y gêm. Dyma John Mahoney'n disgrifio ymateb y garfan i hynny.
John ac Alun - Nashville
canwr gwlad - country singer
deuawd - duet
cyfeillgar - friendly
profi - to experience
yn gynharach - earlier
datblygu - to develop
cyfoes - contemporary
bellach - by now
yn dawelach - quieter
John Mahoney oedd hwnna, cyn chwaraewr pêl-droed Cymru sydd erbyn hyn wedi dysgu Cymraeg ac yn rhoi ei sgwrs radio gynta yn yr iaith. Da 'de? Buodd dau ganwr gwlad, Neil Parry sy'n canu yn y ddeuawd Dylan a Neil, a'r Welsh Whisperer yn sôn am eu hanesion yn Nashville yn ddiweddar ar raglen John ac Alun. Dyma i chi flas ar y sgwrs.
Dewi Llwyd - Marged Esli
cynyrchiadau - productions
boddhad - pleasure
ar wahân i - apart from
caletach - harder
asiantaethau - agencies
uchel iawn ei barch - highly regarded
A tasai'r Welsh Whisperer a Neil yn agor bar yn Nefyn, cofiwch mai yma clywoch chi amdano fo gynta!
Gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd oedd yr actores o Ynys Môn Marged Esli. Roedd Marged yn dathlu ei phen blwydd yn ddiweddar yn 70 oed. Mae hi wedi bod yn actio mewn nifer fawr o gynhyrchiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gofynnodd Dewi Llwyd iddi hi pa un oedd wedi rhoi'r boddhad mwya iddi hi. Dyma ei hateb.
Rhaglen Aled Hughes - wyau
pwynt trafod - a debating point
perthynas - relationship
y gradures - poor dab
marc llew - lion mark
safon - quality
ar gyfer egni - for energy
druan ohoni - poor her
am waed - for (her) blood
ceiliog - cockeral
dim callach - none the wiser
Yr actores Marged Esli yn adodd stori Ken 'Will do' yn rhan o'i sgwrs fel gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd. Maen nhw'n dweud bod wyau yn ddrwg i ni unwaith eto! Mae'n anodd gwybod beth i'w gredu yn tydy? Mae gwin coch, cig coch, menyn a phob mathau o fwydydd eraill yn cael ei disgrifio yn dda i ni weithiau ac wedyn yn ddrwg i ni! Beth ydan ni i fod i fwyta felly? Dyma Nia Roberts, yn sôn am y gwahanol negeseuon sydd wedi bod am wyau.
Rhaglen Aled Hughes - Celyn y Ci
pennaeth - head
dylanwad - influence
cyn lleied o amser - such a short time
hyder - confidence
trafferth - problem
seibiant - respite
sylweddoli - to realise
ymdrech wirioneddol - a real effort
dim beirniadaeth - no criticism
eithriadol o bwerus - exceptionally powerful
Y stori yn y newyddion wythnos diwetha oedd bod yfed potel o win coch fel smocio pum sigaret o ran iechyd. Anodd gwybod beth i'w gredu yn tydy? Mae cael ci yn yr ysgol yn gallu bod o help mawr i'r plant yn ôl arbenigwyr. Felly aeth Aled Hughes draw i Ysgol San Siôr yn Llandudno i gyfarfod ? Celyn y ci, ond sut mae o'n helpu'r plant gyda'u gwaith? Dyma bennaeth yr ysgol yn esbonio.
Beti a'i Phobol - Sian Grigg
colurydd - make-up artist
enwebu - to nominate
yr arian wariwyd - the money spent
cadachau - bandages
mor gymleth - so complicated
golygfeydd - scenes
sychwr gwallt enfawr - a huge hair dryer
Da ydy Celyn ynde?Helpu efo'r darllen , efo plant awtistig ac efo dysgu Cymraeg! Gwestai Beti George dydd Sul oedd y colurydd Sian Grigg. Hi sy'n gwneud colur Leonardo DiCaprio ym mhob un o'i ffilmiau, ers i'r ddau gwrdd tra'n gweithio ar Titanic. Cafodd Sian ei henwebu am Oscar am ei gwaith ar The Revenant, ffilm oedd ddim yn hawdd gweithio arni fel clywon ni yn ystod y sgwrs.
