Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Lloyd Macey
rownd cyn-derfynol - semi final
taith - tour
anferth - huge
cyfnod - period
cynulleidfa - audience
yn fyw - live
ymateb - response
mas - allan
cyffroi - to excite
anhygoel - incredible
Y llynedd aeth Lloyd Macey o'r Rhondda drwyddo i rownd cyn-derfynol y gyfres X-Factor. Oherwydd hynny roedd yn cael mynd ar daith artistiaid gorau'r rhaglen ac yn cael perfformio mewn theatrau anferth ac mewn ambell i stadiwm. Dyma fo'n sôn am y daith honno gyda Shan Cothi.
Rhaglen Aled Hughes - Suzi Quatro
cantores - female singer
delwedd - image
ffrwydro - to explode
wrach (hwyrach) - maybe
ymenyddol - intellectual
yn fenywaidd iawn - very feminine
colur - make-up
tlysau - jewellry
llachar - bright
dylanwad - an influence
Lloyd Macey oedd hwnna yn sôn am daith X-Factor ar Bore Cothi. Ac i aros efo'r byd canu buodd Caryl Parry Jones yn sôn am y gantores Suzy Quattro ar raglen Aled Hughes. Gwerthodd hi dros bumdeg miliwn o albymau ac yn ôl Caryl mi wnaeth hi newid y ddelwedd o ferch yn y byd roc. Dyma Caryl yn esbonio beth oedd mor wahanol am Suzy Quattro.
Stiwdio - Cliff Richard
unigryw - unique
efelychu - imitating
eilun - idol
mor gelfydd - so skilful
teyrnged - tribute
dychymyg - imagination
wedi cael eu cynhyrchu - were produced
gwobruon cerddorol - musical awards
Seiniau'r Merswy - The Mersey Sound
tarfu ar - to disturb
Dan ni'n aros efo'r canu yn y clip nesa 'ma ond yn mynd yn ôl ychydig mewn amser. Mae hi'n chwedeg mlynedd ers i albym cynta Cliff Richard ddod allan. Dyma Wil Morgan ar Stiwdio yn sôn am yrfa Cliff Richard ac am ei gysylltiadau â Chymru.
Rhaglen Rhys Mwyn - Hogiau Llandegai
organ geg - mouth organ
dwy lwy bwdin - two dessert spoons
o dipyn o beth - over time
crybwyll - to mention
yn ddigyfaddawd - uncompromising
Wil Morgan yn fan'na yn rhoi ychydig o hanes Cliff Richard i ni ac yn sôn am y grwpiau sgiffl oedd i'w cael ar ddechrau'r chwedegau. Un o'r grwpiau sgiffl cynta i ganu yn y Gymraeg oedd Hogiau Llandegai, a Neville Hughes aelod gwreiddiol o'r grwp oedd un o westeion Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun. Buodd Neville yn sôn am ddylanwad sgiffl ar y grwp. Dyma i chi flas ar y sgwrs.
Bore Cothi - FFIT Cymru
dros fy mhwysau - overwight
meddygfa - surgery
methu'n lan - couldn't for the life of me
methiant - a failure
y bachyn - the hook
glynu at rywbeth - to hold on to something
y ceiniog yn disgyn - the penny drops
yn hanfodol bwysig - extremely important
Hogiau Llandegai, y grwp sgiffl Cymraeg cynta ddechreuodd berfformio tua'r un adeg â Cliff Richard.
Mae'r gyfres FFIT Cymru yn ôl ar S4C. Bore dydd Mercher buodd Dr Ioan Rees, seicolegydd y gyfres yn sôn am ei brofiad personol o golli pwysau.
Rhaglen Ifan Evans - Ioga
beichiog - pregnant
ei gor-wneud hi - to overdo it
cyhyrau - muscles
meddyliol - mental
chwalu fy mhen i - doing my head in
disgybledig - disciplined
wedi bod wrthi - have been at it
iselder - depression
meddyginiaeth - medicine
yn gaeth - addicted
Ac o gadw'r corff yn ffit i gadw'r meddwl yn ffit - a dyna sy bwysica wrth ymarfer ioga yn ôl Tara Bethan. Mae hi'n athrawes ioga a dyma hi'n esbonio pam ei bod yn meddwl hynny.
Rhaglen Aled Hughes - y Pasg
cyflwyno - presenting
Y Parchedig Ddoctor - The Reverand Doctor
rheolau - rules
mae o'n drysu addysgu - it confuses educators
lleuad llawn - full moon
cyhydnos y gwanwyn - Spring Equinox
ymddangos - to appear
dilynol - following
Trystan Morris oedd yn cyflwyno yr eitem yna ar raglen Ifan Evans ac yn cael sgwrs ddiddorol efo Tara Bethan am ioga.
Mae 'na ychydig o wythnosau ar ôl tan y Pasg, ond dydy'r Pasg ddim yn digwydd ar yr un dyddiad â'r llynedd. Pam hynny? Y Parchedig Ddoctor Alun Tudur fuodd yn esbonio wrth Aled Hughes.
