Main content

Cymru v Slofacia - Rowndiau Rhagbrofol Euro 2020

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’n dipyn o wythnos yma yng Nghymru yn y byd pêl droed.

Tîm Cymru C yn dangos eu bod cystal â thîm C Lloegr nos Fawrth draw yn Salford gyda gem gyfartal o ddwy gol yr un, a bechgyn Uwch gynghrair Cymru yn dangos eu bod llawn cystal â’r rheini sydd yn chware yng Nghynghrair y Gyngres ble mae Wrecsam yn arddangos eu doniau.

Yna, nos Fercher, tîm o chwaraewr di brofiad Cymru yn curo Trinidad a Tobago o gol i ddim mewn gem, a bod yn wir, a oedd yn eitha ddiflas, ond dyna’r disgwyl siŵr o fod mewn “gemau cyfeillgar”.

Ond, buddugoliaeth ydi buddugoliaeth

Er fod y tîm yn edrych yn union fel yr oedd o, sef nifer o chwaraewyr nad oedd wedi ymuno a'i gilydd fel tîm o'r blaen, llwyddwyd i ddangos rhyw fath o well dealltwriaeth a chyd chwarae yn yr ail hanner. Gwnaethpwyd mor a mynydd i drechu tîm a oedd, a bod yn deg, yn hollol ddisgybledig, ond nad oedd yn cynnwys chwaraewyr nad oedd lawer gwell na’r rhai a welir yn Uwch gynghrair Cymru neu yn chwarae i Wrecsam yn wythnosol.

Ond, wedi dweud hynny, tybed a wnaeth Will Vaulks ddigon i ddangos ei fod yn haeddu ei le yng ngharfan gyntaf Cymru erbyn y penwythnos yma? Diogon o ymroddiad, gallu, ac egni ganddo i ddangos y gall gynnig rhywbeth i'r tîm petai ei angen oddi ar y fainc!

Ymlaen felly i’r penwythnos, a’r gêm allweddol honno yng Nghaerdydd yn erbyn Slofacia.

Ydi, mae Bordeaux yn fyw yn y cof, ond peidier â methu llawn werthfawrogi doniau tîm Slofacia?

Cefais gip arnynt yn curo Hwngari , yn yr un grŵp a Chymru, nos Iau, o ddwy gol i ddim, gyda Ondrej Duda o Hertha Berlin a Albert Rusnák o Real Salt Lake (ac a ddechreuodd ei yrfa gydag academi Manchester City) yn rhwydo gôl yr un yn y naill hanner. Dyma dîm disgybledig arall, llawn egni yng nghanol y cae, ac yn hawlio 56% o’r meddiant a 86% o’r pasio yn darganfod chwaraewyr o'u tîm eu hunain, ac yn barod i ymosod yn gyflym a manteisio ar y cyfleoedd.

Nid yn anhebyg i Gymru efallai, ond bydd angen i dîm Ryan Giggs fod ar eu gorau glas os am ddechrau’r ymgyrch ar gyfer Ewro 2020 yn llwyddiannus.

Yna, gem arall, llawn mor bwysig efallai, draw yn Inverness yn yr Alban pan fydd Nomadiaid Cei Connah yn cyfarfod a Ross County yn ffeinal cwpan Her yr Alban sef, Cwpan yr Irn Bru. Taith o bedair milltir ar ddeg i gefnogwyr Ross County, ond siwrnai faith o dros 400 milltir i ffyddloniaid y Cei o Lannau'r Ddyfrdwy.

Mae Ross County, sydd yn chwilio am ddyrchafiad i Uwch gynghrair yr Alban yn ceisio ennill y gwpan am y trydydd tro, eisoes wedi ei chipio yn 2006/07 and 2010/11 ac maent wedi cyrraedd Inverness ar ôl curo East Fife 2-1 yn y rownd gyn derfynol.

Gem gyffrous iawn gafodd y Nomadiaid yn y rownd gyn derfynol o flaen torf dda ar Stadiwm Coleg Glannau Dyfrdwy, cyn curo Dinas Caeredin drwy giciau o'r smotyn. Yn dilyn gôl yr un dros awr a hanner.

Cei Connah ydi'r tîm cyntaf o'r tu allan i'r Alban i gyrraedd y ffeinal ac mae hyn ynddo'i hun yn gamp. Ond peidier a llaesu dwylo gan feddwl fod popeth wedi ei gyflawni. Pedwar can milltir neu ddim, mae her o'u blaenau, ac fe fyddai buddugoliaeth arall yn cadarnhau safon uchel o bêl droed o fewn ein Uwch gynghrair yma yng Nghymru.

Roedd 58 o dimau wedi cystadlu gan gynnwys holl dimau'r Alban o’u Uwch gynghrair ( timau o dan 21 oed), timau cyntaf clybiau'r bencampwriaeth, Adran un a Dau a chynghrair yr Ucheldir (Highland League) yn ogystal â dau dîm o Gymru (Cei Connah a’r Seintiau Newydd), a dau o Ogledd Iwerddon , Gweriniaeth Iwerddon a Chynghrair Cenedlaethol Lloegr.

Taith Ross county i’r ffeinal oedd curo tîm o dan 21 Hearts( 2-1), Raith Rovers (5-0), Montrose( 3-01) tîm i dan 21 Motherwell( 2-1) ac East Fife(2-1).

O ran Cei Connah, fe gafwyd bei i'r ail rownd ac yna curo Falkirk (1-0), Coleraine o Ogledd Iwerddon (2-0), Queen’s Park (2-1) a Dinas Caeredin ( 1-1, ac yna 5-4 ar giciau o'r smotyn)

Pob hwyl i Gei Connah yfory, gyda’r gic gyntaf am 4.30 a’r gêm yn fyw ar S4C.

“Come on” y Cei a “come on” Cymru!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf