Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 9fed-15fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Dei Tomos - Yr eryr olaf

eryr - eagle

bugeilio ei ddefaid - tending to his sheep

heliwr answyddogol - unofficial huntsman

brain - crows

lladd llwynogod - killing foxes

digon anghyffredin - quite uncommon

morthwylion - hammers

y waun - moor

saethu - to shoot

corff - body

Eryri ydy'r enw cywir am ardal mynyddoedd gogledd-orllewin Cymru, ond does na ddim eryrod wedi bod yn yr ardal ers amser maith. Ar raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni am yr eryr ola i gael ei weld yn y gwyllt yn Eryri. Ond be ddigwyddodd i'r eryr hwnnw?

Einion Thomas fuodd yn dweud yr hanes.



Bore Cothi - Opera

arbrawf - experiment

dehongliad - interpretation

gwerthfawogi - to appreciate

cynulleidfa - audience

dilyniant - following

denu - to attract

cyfuniad - combination

glei - surely

anaml - rarely

canolbwyntio - to concentrate

Yr eryr druan, nid yn unig wedi ei ddal mewn trap ond wedi cael ei saethu hefyd! Dyna, mae'n debyg oedd yr eryr ola i gael ei saethu yng Nghymru. Mae yna gynllun i ddod âg eryrod yn ôl i Eryri, gobeithio cân nhw well croeso na hynny ynde?

Mae'r cantorion Aled Hall a Lea Marian Jones wedi cymryd rhan mewn arbrawf llwyddiannus iawn sef perfformio darnau byr o opera Puccini a chael cwmni dawns i berfformio yn ystod y noson yn ogystal. Buodd y ddau yn dweud mwy am yr arbrawf wrth Shan Cothi.

Rhaglen Aled Hughes - Wal

ar gyrion - on the outskirts

dymchwel - to demolish

mudiad myfyrwyr - student movement

tyfu lan - to grow up

yn feiriniadol - critical

gwladwriaeth - state

Efrog Newydd - New York

goleuadau llachar - bright lights

dosbarth gweithiol - working class

mewn cysylltiad - in contact

Hanes arbrawf operatig yn fan'na ar Bore Cothi.

Wythnos diwethaf roedd darnau o Wal Berlin yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn. Cafodd Marion Loeffler ei magu ar gyrion y ddinas ac, roedd hi'n gweld y wal ar draws y cae bob dydd pan oedd hi yn mynd i'r ysgol. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo hi bore Mawrth a dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae hi'n sôn am ei hymweliad cynta â gorllewin Berlin, ar ol i'r wal gael ei dymchwel.



Post Prynhawn - bale

atgofion - memories

barn - opinion

trafod - discussing

doniol - funny

tynnu coes - pulling the leg

cefnigenus - jealous

mo'yn - eisiau

Atgofion Marion Loeffler o ddymchwel wal Berlin yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Barn plant Ysgol Pen y Garth ym Mhenarth ger Caerdydd sydd yn y clip nesa. Dyma nhw'n trafod bechgyn yn cael gwersi bale.

Cat a Cats - Lewis ac Aneirin

telynores - harpist (female)

aelwyd - home

crysau - shirts

arferol - usual

call iawn - very wise

oedran - age

Barn plant Ysgol Pen y Garth ym Mhenarth ar fechgyn yn cael gwersi bale oedd hwnna. Plant ysgol o'r Alban sy nesa, Lewis ac Aneirin, fuodd yn dysgu ychydig o Aeleg yr Alban i Catrin Dafydd. Digwyddodd hyn cyn gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban wythnos diwetha. Cafodd mam y ddau fachgen, y delynores Gwen Mairi, ei magu ar aelwyd Gymraeg yn St Andrews, ac mae'r bechgyn yn gallu siarad Cymraeg, Gaeleg a Saesneg, Dyma nhw'n rhoi gwers fach i Catrin.

Rhaglen Geraint Lloyd - Brett Garner

y gamp lawn - the grand slam

canolbarth Lloegr - Midlands

crancod - crabs

cimychod - lobsters

mas - allan

llanw - tide

Da iawn Lewis ac Aneurin, y ddau yn siarad cyn y gêm rhwng Cymru a'r Alban a dw i'n siwr eu bod nhw wedi mwynhau gweld Cymru'n ennill y gamp lawn ar ôl curo Iwerddon ddydd Sadwrn diwetha. Sgwrs efo pysgotwr o Ben Llyn sy'n dod nesa. Mae Brett Garner yn dod o ganolbarth Lloegr yn wreiddiol ond symudodd o i Ben Llyn pan oedd yn 7 oed. Mae o wedi pysgota yn y môr o gwmpas Pen Llyn ers 30 o flynyddoedd. Be mae o yn ei ddal, ac i bwy mae o'n eu gwerthu? Dyma fo'n sôn wrth Geraint Lloyd.

Rhaglen Aled Hughes - Y rhyngrwyd

serennu - to star

Llywodraeth Cymru - Welsh Government

y rhyngrwyd - the internet

cyfrifol am - responsible for

arwain y blaen - leading the way

arloesi - to innovate

darlithwyr - lecturers

cylch - circle

cyn lleied ohonyn nhw - so few of them

ar wasgar - dispersed

Brett Garner oedd hwnna, sydd yn serennu mewn ffilm newydd ‘Meet The Fishermen’ cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Eleni, mae’r rhyngrwyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, ac mae’r Gymraeg wedi bod arni ers y dechrau. Mae’n debyg mai dysgwyr oedd yn gyfrifol am y wefan gyntaf yn yr iaith, fel mae Rhodri ap Dyfrig yn egluro wrth Aled Hughes.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pêl droed rhyngwladol ar y Cae Ras

Nesaf