Main content

Pêl droed rhyngwladol ar y Cae Ras

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Bydd pêl droed rhyngwladol yn dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam nos Fercher nesaf wrth I Gymru gyfarfod Trinidad a Tobago mewn gem gyfeillgar.

Dyma fydd y tro cyntaf ers 2008, i gêm ryngwladol gael ei chynnal yma, pan gurodd Cymru Norwy o dair gôl i ddim, a hyn ar faes sydd wedi gweld mwy o gemau rhyngwladol ( 91 hyd yn hyn) hac unrhyw fase arall ar draws y byd.

Cynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf ar y cae Ras yn 1877 gyda’r Alban yn curo Cymru o ddau gol i ddim.

Daeth buddugoliaeth i Gymru yno am y tro cyntaf yn 1882 gyda chwip o ganlyniad - curo Gogledd Iwerddon o saith gol i un. Ond roedd rhaid aros tan 1951 cyn gweld gwlad o dramor yn chwarae ar y Cae Ras, gyda’r Swistir yn cyrraedd i herio Cymru, ar yr 16eg o Fai, a Chymru yn curo o dair gôl i ddwy.

Yr ail gêm yn erbyn gwlad dramor oedd honno ym mis Tachwedd, 1955, yn erbyn Awstria, gyda’r ymwelwyr yn ennill o ddau gol i un. Hon oedd y gêm ryngwladol gyntaf i mi ei fynychu, a dwi’n dal i gofio, fel bachgen naw oed, yn cael gweld y cewri am y tro cyntaf, John Charles, Ivor

Allchurch, Trevor Ford a Jack Kelsey ymysg eraill.

Ond pa gemau ydi'r mwyaf cofiadwy a fu ar y Cae Ras ?

Mae dwy yn dod yn hawdd i'r cof, a'r ddwy yna yn yr wythdegau.

Mis Mai 1980, gem gyntaf Mike England fel rheolwr, gyda Lloegr yn cyrraedd yn llawn hyder i gystadlu ym mhencampwriaeth y pedair gwlad, a hyn yn codi wedi i Paul Mariner roi'r Saeson ar y blaen ar ôl chwarter awr. Yna, Mickey Thomas yn crafu'r bel i mewn i ddod a phethau'n gyfartal chwe munud yn ddiweddarach cyn gweld Leighton James yn rhwydo ar ôl hanner awr. Gyda Chymru yn cryfhau, peniodd Ian Walsh gol allweddol i'n rhoi ymhellach ar y blaen yn yr ail hanner, cyn gweld hunllef y Saeson yn cael ei wireddu wrth i Phil Thompson rwydo i'w gol ei hun rhyw ugain munud cyn y diwedd.

Gem hollol gofiadwy , cyn symud ymlaen i gêm arall bythgofiadwy, sef Cymru 3 - Sbaen 0 yn 1985.

Fe petai'r canlyniad ynddo'i hun yn ddigon yn erbyn y tîm a gyrhaeddodd ffeinal Cwpan Ryngwladol Ewrop y flwyddyn flaenorol, daeth y gêm yma i'w chofio am gic sisrwn Mark Hughes a sgoriodd yr ail gol o dan drwyn ffyddloniaid y Kop, wedi i'r bel adlamu yn y cwrt cosbi. Rhwng y ddau gol yma, llwyddodd Ian Rush i sgorio dwywaith i sicrhau buddugoliaeth amhrisiadwy i Gymru.

Wn i ddim faint o gyffro bythgofiadwy a welwn nos Fercher nesaf ond fe ddaw'r gêm a chyfle i lawer o gefnogwyr yng ngogledd Cymru i weld ein tîm cenedlaethol yn chwarae’n fyw, cyn cyfarfod Slofacia yng Nghaerdydd brynhawn y Sul dilynol yng ngem agoriadol ragbrofol ar gyfer Ewro 2020.

Daw hon ac atgofion hoff i ni gyd o’r prynhawn hwnnw ym Mordeaux pan ddechreuom wireddu ein breuddwyd hir ddisgwyliedig yn Ewro 2016. Byddai buddugoliaeth arall yn erbyn Slofacia yn gosod y safon a alwn ei ddisgwyl oddi wrth ein tîm newydd yn y gemau rhagbrofol gyda Chroatia a Hwngari oddi cartref i ddilyn ym Mehefin.

Tripiau eraill ar draws y cyfandir y flwyddyn nesaf? Rhaid peidio â breuddwydio'n rhy gynnar!

Mae yna ormod o freuddwydion ffôl wedi bod dros y blynyddoedd - peidier â mynd dros ben llestri cyn i bethau hyd yn oed gychwyn!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol