Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Mawrth 2il-8fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen John ac Alun - Enfys

Enfys - Rainbow

ar y gweill - in the pipeline

cynhyrchiol - productive

pentwr - a heap

ymhel - coming together

mor rhwydd - so easy

mwy o linyn - more connected

casgliad - collection

penodol - specific

yli - look

Nos Sul diwetha' roedd gan John ac Alun ddau westai arbennig sef Bryn Fôn a Rhys Wyn Parry. Mae'r ddau yn perfformio efo Bryn Bach - sef band sy'n llai o ran nifer na band llawn Bryn Fôn. Roedd y ddau yn sôn am albym newydd Bryn Bach sef Enfys. Fersiynau acwstig o ganeuon holl fandiau Bryn Fôn dros y blynyddoedd sydd ar yr albwm.



Bore Cothi - Anifeiliaid tew

gordew - overwight

milfeddyg - vet

dwyn - to steal

tir - land

slofach - slower

ddim mor fywiog - not as lively

dyflwydd oed - 2 years old

colli pwysau - to lose weight

pob math o fwydydd - all types of food

llwglyd - hungry

Bryn Fôn a Rhys Wyn Parry yn fan'na yn sôn am albwm newydd Bryn Bach efo John ac Alun. Mae 'na lawer o sôn y dyddiau hyn am blant sydd yn ordew, ond sôn am anifeiliad gordew wnaeth Shan Cothi mewn sgwrs efo Elaine Rowlands o Fynydd Mechell, Ynys Môn ar Bore Cothi bore Dydd Llun. Poeni oedd Elaine bod Sam, ei chi, yn rhy dew.

Rhaglen Rhys Mwyn - Mared Lenny

difyr - interesting

clustogau - cushions

delweddau - images

yn ddyddiol - daily

cyfleu symudiad - to convey movement

lan - up

atgoffa - to remind

byd celf - the world of art

achub - to save (rescue)

bodoli - to exist

Sam druan, does neb yn licio bod ar ddeiet nac oes? Roedd Mared Lenny yn arfer canu o dan yr enw Swci Boscawen. Cantores bop oedd hi cyn iddi hi gael canser, ond erbyn hyn mae hi'n artist talentog ac mae ei gwaith i'w weld yn Galeri Caernarfon. Buodd Rhys Mwyn yn sgwrsio efo Mared am ei lluniau a dyma i chi flas ar y sgwrs.



Rhaglen Aled Hughes - Awel Fôn Evans

canolbwyntio - to concentrate

ymchwil - research

tawelwch - silence

yn lled ddiweddar - fairly recently

astudiaethau - studies

adolygu - revising

ymennydd - brain

anwybyddu - to ignore

drysu - to confuse

yn unswydd - with only one purpose

Rhys Mwyn oedd hwnna yn sgwrsio efo'r artist Mared Lenny am ei gwaith ac am yr effaith cafodd canser ar ei bywyd hi. Ydy cerddoriaeth yn medru ein helpu ni i ganolbwyntio yn well? Wel, dydy pob math o gerddoriaeth ddim yn helpu yn ôl ymchwil gan Brifysgol Lancaster. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr ymchwil yma efo'r seicolegydd Awel Fôn Evans.



Cofio - Bryn Terfel

pan anwyd Bryn - when Bryn was born

gaddo - to promise

eithriadol o dawel - exceptionally quiet

reit o'r cychwyn - right from the start

ffaeleddau - faults

yn ben set - very last minute (person)

yn fychan - small

ystafell gerdd - music room

i safon - to a high standard

ofergoelus - superstitious

Felly yn ôl Awel Fôn Evans fasai hi ddim yn syniad da i wrando ar Bryn Terfel yn canu wrth adolygu! Pan anwyd Bryn yn ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli roedd yn fabi swnllyd iawn. Dyma ei fam, Nesta Jones yn dweud yr hanes ar Cofio.



Rhaglen Aled Hughes - Y Ddraig Goch

arolwg barn - survey

arwyddocâd - significance

torri hi'n ddarnau - break it in pieces

Rhufain - Rome

pereindod - pilgrimage

mabwysiadu - to adopt

arfbais - coat of arms

camaddysgu - miseducated

cynrychioli - to represent

disgynyddiaeth - lineage

Dan ni wedi gweld Bryn Terfel yn aml iawn ar y llwyfan yn gwisgo baner y ddraig goch o'i gwmpas. A'r Ddraig Goch ydy baner mwya cwl y byd yn ôl arolwg barn gan gwmni Rancour. Ond dach chi'n gwybod beth yw hanes y faner? O le daeth y ddraig? A beth yw arwyddocâd y lliwiau gwyrdd a gwyn ar y faner? Dyma Bryn Tomos yn rhoi ychydig o hanes y faner i ni ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ciciau o'r smotyn dadleuol

Nesaf

Pêl droed rhyngwladol ar y Cae Ras