Main content

Ciciau o'r smotyn dadleuol

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A faint o gemau allwch chi eu cofio sydd wedi cael eu penderfynu gyda chic olaf y gêm?

Mae’n anodd peidio â chyfeirio at Manchester United mewn unrhyw un sydd yn dod i'r cof yn tydi?

Curo Bayern Munich ym Marcelona yn ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn 1999, (diolch I Ole Gunnar Solskaer!!) , colli gafael a’ goron yr Uwch gynghrair ar ôl iddynt guro ei gem olaf y tymor yn Sunderland, a’u gosod ar y brig, cyn deall fod Sergio Aguero wedi sgorio i Manchester City yn yr amser ychwanegol i guro QPR a sicrhau mai‘r Etihad fyddai cartref y goron am flwyddyn, ac nid Old Trafford.

Yn wir, gadawyd pethau tan y munudau olaf y Sadwrn diwethaf, mewn gem gyffrous adre i Southampton cyn i Romelu Lokakau gipio’r tri phwynt, ac fe allaf eich sicrhau fod yna ddigon y rhyddhad o'm gwmpas y pnawn hwnnw, cyn gweld cynnwrf mwy byth ym Mharis nos Fercher.

VAR caiff y diolch (neu'r bai!) - ond yn ôl adroddiadau doedd yna fawr o neb wedi ymateb na holi am gic o'r smotyn wedi i'r bel daro braich Presnel Kimpembe, a dim ond Diogo Dalot yn ôl pob son a wnaeth unrhyw fath o sylw tuag at y dyfarnwr wrth awgrymu fod Kimpembe wedi llawio .

Sylw neu ddim, mae’n ymddangos fod rhywun wedi cael gair yng nghlust y dyfarnwr wrth iddo arwyddo ei fod am gael cynnal cyfarfod gyda fo ei hun a chael ail olwg ar bethau, a dyrchafu ei lygaid at ble daw ei gymorth, sef oddi wrth y teclyn technolegol, yr hwn a wneir penderfyniadau dros bawb !

Ac felly bu, gyda gem arall sy’n ymwneud a Manchester United yn cael ei phenderfynu bron mor hwyr ag y gallai.

Ond, a oedd hon yn drosedd o lawio?

Oedd os ydych o blaid United, a be fyddai eich ymateb petai eich tîm chi mewn sefyllfa debyg ? Mae'r ateb i hyn yn hawdd - cic o'r smotyn os ydych chi am elwa, dim cic o'r smotyn petai hyn yn mynd yn eich erbyn chi.

Mae yna ddiffiniad diweddar wedi ei gynnig i'r dyfarnwyr am lawio, a hyn wedi ei benderfynu gan gyfarfod o'r IFB (International Football Association Board) sy'n adolygu rheolau pêl droed, y penwythnos diwethaf, sef os yw braich chwaraewr yn ymestyn ymhellach nai silwét naturiol, yna fe gaiff ei ystyried yn drosedd petai’r bel yn ei tharo

Mi wnâi adael o i chi i benderfynu be ydi “silwét” naturiol pob un ohonom!

Ond ar ddiwedd y noson, gol hwyr i Man Utd, a sicrhau dyfodol parhaol i Ole Gunnar ar Old Traffiord efallai? Hyn i gyd yn fy atgoffa o Mrs Jones druan a oedd pob tro yn hwyr i'r capel ac yn dod i gael ei hadnabod fel Mrs Jones late . A'i hateb hi i hyn ? – “Wel wir , mae'n llawer gwell gen i gael fy ngalw yn ‘Mrs Jones Late’ na’r ‘Late Mrs Jones’ !”.

Wel mae tri rheolwr wedi ymadael ac Old Trafford ers cyfnod Syr Alex ,a siawns nad yw goliau hwyr am sicrhau parhad sefydlog i deyrnasiad Ole Gunnar Solskaer gyda United, na chael ei weld o hefyd yn gadael a chael ei adnabod fel y ' late manager' yn Old Trafford yn y dyfodol agos.

Rhowch y job iddo, da chi!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon