Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Dewi Llwyd - Tenoriaid
Yn fythol boblogaidd - Ever popular
Lleisiol - Vocal
Sydd ddim yn bodoli - Which does not exist
Ansicrwydd - Uncertainty
Yn gyffredinol - Generally
Lan - I fyny
Hyd yma - Up to now
Hyfforddwyr - Coaches
Cryfhau - To strengthen
Tu hwnt i'ch gallu chi - Beyond your ability
Y tenor Robin Lyn oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Gofynnodd Dewi iddo fe pam bod tenoriaid mor boblogaidd.
Rhaglen Geraint Lloyd - Awen Roberts
Her - Challenge
Pencampwraig - Champion (female)
Traws gwlad - Cross country
Y gamp - The sport
Ar gaeau - On fields
Dros glwydi - Over gates
Llawer o sbri - Lots of fun
Dim mor ffol - Not so bad
Llithrig iawn - Very slippery
Beic heol - Road bike
Y tenor Robin Lyn yn sôn am yr her i denoriaid wrth geisio cyrraedd y nodau uchel iawn. Nesa cawn glywed llais Awen Roberts o Landyfnan ger Rhydaman sydd yn dair ar ddeg oed. Awen ydy pencampwraig beicio traws gwlad Cymru dan 14. Cafodd Geraint Lloyd wybod mwy am y gamp gan Awen ar ei raglen ddydd Mercher.
Bore Cothi - Gwallt Linda'r Hafod
Llond pen - A headful
Y driniaeth - The treatment
Yn hollol wlyb - Totally wet
Sychu - To dry
Yndy tad, yn tydy? - Yes indeed, isn't she?
Anaml iawn - Very infrequently
Wedi mynd yn sgrech - Become a real mess
Sychwr gwallt - Hairdryer
Mae'r maharan yn dwad - The ram's coming
Y creadur - Poor dab
Wel am sgwrs hyfryd a dw i'n siwr byddwn ni'n clywed llawer mwy am Awen Roberts yn y dyfodol. Mae'n debyg bod y ‘perm' yn ffasiynol unwaith eto. Mae gan Linda'r Hafod lond pen o gyrls ond dim ond unwaith y flwyddyn mae hi'n cael y driniaeth bwysig sef y perm. Dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi sut mai hi'n cadw pen cyrliog gydol y flwyddyn.
Rhaglen Ifan Evans - Cân i Gymru
Go iawn? - Really?
Babanod - Infants
Cyfnod Sylfaen - Foundation Phase
Llawn amser - Full time
Ymarfer corff - Physical Exercise
Sa i'n cofio - Dw i ddim yn cofio
Modrwy dyweddïo - Engagement ring
Cogio - To pretend
Sylwi - to notice
Buodd na adeg pan oedd hi'n ffasiynol i ddynion gael perm hefyd. Tybed fydd hynny'n digwydd eto? Cawn weld, on'd ife? Weloch chi Cân i Gymru ar S4C ddydd Gwyl Dewi? Elidir Glyn o ardal Caernarfon enillodd eleni gyda'r gân ‘Fel hyn dan ni fod'. Einir Dafydd enillodd y llynedd a buodd hi'n cofio ei dyddiau ysgol yn Ysgol Gynradd Blaen Ffos mewn sgwrs gyda Trystan Morris ar raglen Ifan Evans nos Lun diwetha.
Cofio - Rownd yr Horn
Profiad tu hwnt - An exceptional experience
Y wefr fawr - The big thrill
Chwythu - Blowing
Brawychus - Frightening
Morfilod - Whales
Anhygoel - Incredible
Unig - Lonely
Tywydd garw - Rough weather
Diodde(f) - Suffering
Cyd-fyw - To co-habit
Hanes dyddiau ysgol Einir Dafydd yn fan'na ar raglen Ifan Evans. Ar Cofio wythnos diwetha clywon ni hanes cyffrous Richard Tudor yn hwylio o gwmpas Cape Horn. Dyma i chi flas ar y sgwrs.
Heddlu Gogledd Cymru - Ynys Môn
Arolygydd - Inspector
Ffodus - Lucky
Trosedd - Crime
Anhrefn - Disorder
Dinesig - Urban
Nunlle - Nowhere
Trais - Violence
Cyffuriau - Drugs
Blynyddoedd maith - Many years
Pobl fregus - Vunerable people
Hanes Richard Tudor yn mynd rownd yr Horn yn fan'na. Roedd yn swnio'n frawychus iawn on'd oedd? Mae yna nifer o bethau brawychus yn digwydd ar Ynys Môn hefyd yn ôl Llinos Davies sydd yn Arolygydd Ardal ar yr ynys gyda Heddlu Gogledd Cymru. Beth yw'r broblem fwya i'r heddlu ar yr ynys tybed? Dyma Llinos yn esbonio.
