Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 25ain o Chwefror 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Aled Hughes - Siesta

wedi gorfod newid - has had to change

angenrheidiol - necessary

gradd - degree

mae'n grasboeth - it's boiling hot

saib bach - a little break

y rhan fwyaf - most

gorffwys - rest

gweddill y diwrnod - the rest of the day

hollol arferol - totally normal

goroesi'r dydd - to survive the day

Mae Alys Tomos yn byw yn Seville ers 7 mlynedd ac yn dysgu Saesneg yno. Mae hi wedi gorfod newid ei ffordd o fyw ers bod yno ac un o'r newidiau hynny ydy'r arfer o siesta. Buodd Alys yn esbonio wrth Aled Hughes pam bod rhaid cael siesta yn yr haf yn Seville.

Rhaglen Aled Hughes - Stadia pêl-droed

cynghrair - league

pren - wooden

canrif - century

hud a lledrith - magic

unigryw - unique

gêm ail-chwarae - replay

mwg - smoke

cadw'r etifeddiaeth - keeping the heritage

yn y cyffiniau - in the area

ar gyrion - on the fringe

Haul poeth, siesta a dal yn bnawn am wyth o'r gloch nos- ychydig o flas ar fywyd Seville yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Tybed ydy Tim Hartley wedi bod yn stadiwm pêl-droed enwog Sevilla? Mae o wedi bod i bob un stadiwm sy'n perthyn i'r nawdeg dau glwb yng nghynghrair pêl-droed Lloegr a dyma fe'n sôn am rai o'i hoff stadia ar raglen Aled Hughes fore Mawrth.

Rhaglen Rhys Mwyn - Rockfield

gwobr - award

golwg y diawl - hell of a mess

awyrgylch - atmosphere

ysgubor - barn

anhygoel o brofiad - incredible experience

cyfansoddi - to compose

cyfle - opportunity

dibrofiad - inexperienced

ymateb - to respond

cam pwysig - an important step

Tim Hartley ac Aled Hughes yn sôn am eu hoff stadia pêl-droed. Enillodd Rami Malek wobr yr actor gorau yn yr Oscars wythnos diwetha am ei ran fel Freddie Mercury yn y film Bohemian Rhapsody. Ond oeddech chi'n gwybod mai yng Nghymru cafodd y gân enwog honno ei recordio gan Queen? Rockfield yn Sir Fynwy oedd y stiwdio recordio ac yno hefyd cafodd EP cynta'r grwp Hergest ei recordio. Nos Lun cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda dau o aelodau Hergest, Delwyn Sion ac Elgan Philip Davies.

Bore Cothi - Steffan Donnelly

creu - to create

cynhyrchu - to produce

hogs - boys

cymeriadau - characters

fatha - fel

elfen - element

braidd - quite

cyfarwyddwr - director

Ac un gafodd ran fach yn y ffilm Bohemian Rhapsody ydy Steffan Donnelly, actor o Lanfairpwll yn wreiddiol ond sydd erbyn hyn yn byw yn Llundain. Mae Steffan yn brysur iawn ar hyn o bryd yn actio yn y Globe yn Llundain. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda fe wythnos diwetha.

Taro'r Post - Ceir trydan

denu - to attract

effeithlonrywdd ynni - energy efficiency

y cant - percent

egni - energy

cyflymder - speed

cydymdeimlo - to sympathise

dw i'n flin i ddweud - I'm sorry to say

Steffan Donelly o Lanfairpwll yn brysur iawn gyda dramau Shakespeare yn y Globe yn Llundain. Maen nhw'n dweud mai ceir trydan byddwn ni i gyd yn eu gyrru yn y dyfodol. Mae Neil Lewis wedi bod yn gyrru car trydan ers 7 mlynedd, cyn i'r syniad ddod yn ffasiynol. Beth wnaeth ei ddenu at y ceir trydan felly? Dyma fe'n esbonio wrth Garry Owen ar Taro'r Post.

Rhaglen Geraint Lloyd - Paul Gregory

o flaen ei amser - before his time

gyrfa lwyddiannus - a successful career

ymddangos - to appear

cyfres - series

dyddiau cynnar - early days

yn gyhoeddus - publicly

heblaw am - apart from

punt yr un - a pound each

yr adeg hynny - that time

Neil Lewis o flaen ei amser yn gyrru ceir trydan, ac yn amlwg wrth ei fodd yn gwneud hynny. Cafodd y Brodyr Gregory yrfa lwyddiannus iawn yn canu mewn cyngherddau, ac yn ymddangos mewn sawl rhaglen a chyfres ar S4C. Dechreuon nhw ganu yn y chwedegau ac nawr mae'r ddau frawd Paul ac Adrian Gregory, yn ôl yn perfformio a buon nhw'n canu mewn cyngerdd yn y Tymbl Nos Wener. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Paul am ddyddiau cynnar Y Brodyr Gregory.



Rhaglen Ifan Evans - Meleri Williams

gwartheg godro - milking cows

camddeall - to misunderstand

sa i'n siwr - dw i ddim yn siwr

dw i'n addo - I promise

tawelu - to calm

synau dieithr - strange noises

cyson - constant

Hanes dyddiau cynnar y Brodyr Gregory yn fan'na. Mae Meleri Williams yn un o gyflwynwyr y rhaglen Cefn Gwlad a chafodd hi ei magu ar fferm. Mae ei thad yn dal i ffermio ac mae gyda fe ffordd arbennig o gadw'r gwartheg godro'n hapus.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol Clwb Pel-droed Bae Colwyn