Wel, mae wedi bod yn wythnos fisi arall arna i. Ers i mi siarad diwetha' fe es i bant i Elstree i wneud rhaglen arall o Tumble ac yn anffodus bu raid ffarwelio a John Partridge.
Yr wythnos yma mae’r rownd gyn derfynol a ma pethe'n poethi ma. Maen nhw i gyd mor gystadleuol ac ma fe dal i’n rhyfeddu i'r math o bethau mae’r selebs wedi dysgu ei wneud!
Mae wedi bod yn wythnos brysur a gwahanol ar yOne Show hefyd gan fod y rhaglenni i gyd yn rhan o Ŵyl Gerddorol Y One Show. Bob nos ni wedi cael gwesteion gwahanol yn perfformio yn fyw yn y stiwdio. Nos Lun roedd The Vamps yn perfformio eu fersiwn nhw o ‘Oh Cecilia’. Nos Fawrth roedd y pianydd byd enwog Lang Lang gyda ni a Nos Fercher Kasabian, y grŵp wnaeth cloi Gŵyl Glastonbury eleni. Yn perfformio neithiwr oedd Sam Smith. Canwr soul anhygoel sydd newydd ddod 'nôl o chwarae yng Ngwobrau Cerddoriaeth MTV yn America, a dim ond 22 oed yw e!
Fi nôl yn y stiwdio gyda Chris heno!
Hwre! Sa’i di gallu cyflwyno'r One Show ar nos Wener ers dros fis a rhaid i mi gyfadde’, dwi wedi colli cwmni’r hen Christopher Evans. Ac ar ben hynny Robert Plant yw’r gwestai heno, sef cyn canwr y grŵp Led Zeppelin - ac mae 'na son efallai y bydd aelodau eraill y band yn ymuno a fe. Bydd Dad mor genfigennus!
Ffaith Difyr yr Wythnos i chi - ma gan Robert Plant a’r grŵp gysylltiadau agos a Chymru gan iddyn nhw fyw am gyfnod yn ardal Machynlleth ac enw un o ganeuon Led Zep yw y Bron Yr Aur Stomp! Ni'n ysbrydoli pawb bois!
Ma na thema gerddorol iAlex yn Galw wythnos ma hefyd.

Al Lewis ac Alex Jones
Fe es i draw i weld y canwr a’r cyfansoddwr hyfryd Al Lewis. Ma fe'n foi mor neis â fi’n dwli ei gerddoriaeth e. Ma Al wedi cael blwyddyn arbennig iawn, felly gobeithio gwnewch chi joio'r hanes gymaint â nes i.
Hwyl am y tro
Alex
