Dydi'r ddau sy'n cadw cwmni imi ar Tra Bo Dau ddim yn gwybod beth ydi ystyr y geiriau "llaesu dwylo". A gan nad ydi tymor newydd Ysgol Glanaethwy ddim wedi cychwyn eto, mi fachais i ar y cyfle i fynd draw i Fangor i sgwrsio efo sylfaenwyr a Chyfarwyddwyr yr ysgol berfformio lwyddiannus, Cefin a Rhian Roberts.
Gwr a gwraig, felly, ydi'r cyfuniad y tro yma. A hynny am y tro cynta’ yn y gyfres. Gwr a gwraig yr ydym ni wedi eu gweld droeon (eu cefnau gan amlaf) ar lwyfannau eisteddfodau, gwyliau a chyngherddau ers bron i chwarter canrif. Mae eu llwyddiannau yn ddi-ben-draw ac maen nhw'n gosod y bar yn uchel mewn unrhyw gystadleuaeth. Dwi'n gyfarwydd â gweld y ddau mewn sefyllfa felly, yn paratoi eu corau cyn cystadleuaeth, eu gwylio nhw yn rhoi sioe dda, Rhian yn arwain y Côr Iau a Cefin yn troi'r pages wrth y piano! Ac fel arall pan fydd Cefin yn arwain ei gôr yntau, a dwn i'm faint o weithiau dwi wedi mynd at y ddau efo meicroffon i'w llongyfarch nhw ar ôl peth wmbrath o gystadlaethau.
Ond sgwrs wahanol oedd hon. Sgwrs yn eu cartref.

Nia Roberts yn sgwrsio gyda Cefin a Rhian Roberts
Nhw ddewisodd y lleoliad ac roedd y croeso a'r panad yn gynnes yn eu cegin braf. Dyma le ddechreuodd y freuddwyd o sefydlu ysgol berfformio a chreu pob math o gyfleoedd i blant berfformio. A dyma le ddechreuo ni sgwrsio a does na'm lle gwell am sgwrs na chegin nagoes?
Sut mae'r berthynas yma yn gweithio? Beth ydi rôl pwy? Pwy ydi'r boss?!
Lle mae'r bywyd personol yn gorffen a'r bywyd proffesiynol yn dechrau?
Sut maen nhw wedi delio efo beirniadaeth hallt, bersonol iawn weithiau, dros y blynyddoedd?
Rhesiad o gwestiyna! "Ribidirês" o gwestiyna yn wir!
Does dim amheuaeth mae'r ddau yn gwneud tîm da ac mi gerddais i o' r gegin a geiriau Tra Bo Dau yn canu yn fy mhen... Cariad pur sydd fel y dur, yn para Tra Bo Dau!
