Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 2il, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Cyntaf - Aled Siôn Davies

...chwaraeon. Mae hi wedi bod yn haf prysur o chwaraeon a'r uchafbwynt i mi oedd gweld tîm Cymru yn ennill tri deg chwech o fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad. Daeth capten y tîm, Aled Siôn Davies, i'r stiwdio fore Mawrth i sôn am chwaraeon yr haf a'i yrfa fel athletwr paralympaidd. Mae Aled wedi ennill llawer o fedalau am daflu pwysau ac mae o'n hyderus bod cyfleoedd da i bobl ag anableddau i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon yma yng Nghymru. Dyma Kate Crockett yn ei holi.

uchafbwynt - highlight

medalau - medals

Gemau'r Gymanwlad - Commonwealth Games

athletwr paralympaidd - paralympic athlete

taflu pwysau - shot put

anableddau - disabilities

enfawr - enormous

arwain - to lead

ysbrydoli - to inspire

ysgogi - to motivate

Dylan Jones - Sioe Cefn Gwlad Sir Feirionydd

...Aled Siôn Davies yn fan 'na yn ein hysbrydoli ni i gyd i fwynhau cadw'n heini. Ond, mae'n medru bod yn anodd cadw'n heini pan mae hi'n oer ac yn wlyb. Haws o lawer ydy swatio o flaen y tân a'r teledu. Wel, mae'r tywydd wedi troi ac roedd wythnos ola' gwyliau'r haf yn eitha’ hydrefol. Be' oedd i'w wneud yn y fath dywydd? Dylan Jones gafodd sgwrs gyda Douglas Powell, trefnydd Sioe Cefn Gwlad Sir Feirionnydd, a oedd yn disgwyl dros 10,000 o bobl i ymweld â'r sioe ddydd Mercher diwetha'. 

swatio - to nestle

hydrefol - autumnal

cystadleuwyr - competitors

tywynnu - to shine

atyniadau - attractions

da byw - livestock

merlod - ponies

stondinau - stalls

swp - a batch

teithiol - travelling

Dylan Jones - Dewi Rhys Evans

...Douglas Powell yn fan 'na, trefnydd Sioe Cefn Gwlad Sir Feirionnydd. Ac o drefnu i gadw trefn yng nghefn gwlad yr awn ni nesa'. Mae 'na lawer o sôn wedi bod yn y papurau newydd yn ddiweddar am ddwyn peiriannau a da byw oddi ar ffermydd. Cafodd Dylan Jones sgwrs ddiddorol efo'r Swyddog Troseddau, Dewi Rhys Evans, yn sôn am ei waith yn ceisio atal troseddau yng nghefn gwlad Gwynedd a Môn. 

cadw trefn - to keep order, to control

dwyn - to steal, thieve

Swyddog Troseddau - Crime Officer

atal - to prevent

bihafio - to behave

amaethyddol - agricultural

uniongyrchol - direct

eang - extensive

amgylcheddol - environmental

ystadegau - statistics

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pel-droed 1914

Nesaf

Tra Bo Dau: Blog Cefin a Rhian