Er yr ydym yn gyfarwydd â rôl Osian Roberts o fewn ein tîm rhyngwladol fel hyfforddwr , gyda’u gefndir fel rheolwr a hyfforddwr i dimau Porthmadog a Rhyl, nid pob tro y gellir cysylltu Uwch gynghrair Cymru a phenwythnosau pêl droed rhyngwladol.
Ond felly y bu ar ddechrau’r wythnos yma. Yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ryngwladol Ewrop 2016, gwelwyd Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref i Georgia, gan gynnwys cyn golwr Tref y Barri, David Forde yn y gol.
Ymddangosodd Forde mewn un ar bymtheg o gemau i'r Barri yn nhymor 2001/2. Ymunodd y golwr a’r Barri o glwb Galway United cyn symud oddi yno i West Ham United am £75,000. Ar ôl cyfnod byr gyda Chaerdydd, ymunodd Forde a chlwb Millwall ble wedi chwarae iddynt mewn dros ddau gant a hanner o gemau. Noson lwyddiannus oedd hi hefyd i gyn golwr y Barri gyda’r Weriniaeth yn fuddugol o ddwy gol i un.
Yna, yn hwyrach yr un noson, gwelwyd hanes yn cael ei greu wrth i Gibraltar chwarae eu gem ryngwladol gystadleuol gyntaf ers dod yn aelod o UEFA yn llynedd. Eu gwrthwynebwyr oedd Gwlad Pwyl. Gan nad oedd eu stadiwm yn Gibraltar yn cyfarfod a gofynion UEFA, rhaid oedd cynnal y gêm ar Stadiwm yr Algarve yn Faro, Portiwgal.
Amddiffynnwr canol Gibraltar yn y gêm oedd David Artell, gynt o Wrecsam ond y tymor yma yn allweddol ynghanol amddiffyn y Bala yn Uwch gynghrair Cymru. Profiad rhyngwladol Gibraltar cyn y penwythnos diwethaf oedd cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd, gan gynnwys gemau yn erbyn Ynys Môn.
Bu Gibraltar hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol rhan amser yn y Rhyl yn 2008.
Dyma oedd pumed ymddangosiad Artell i’w wlad, gan eu bod hefyd wedi chwarae gemau paratoadol cyfeillgar yn erbyn ynysoedd y Faro, Estonia a Malta.
Ond, tipyn o ddeffroad fu’r gêm gyda’r Pwyliaid yn sgorio saith gwaith a’u blaenwr Robert Lewandowski, o Bayern Munich, yn sgorio pedair gwaith. Bydd cael chwaraewr profiadol fel Artell yn siŵr o ddatblygu’r Bala ymhellach a chafwyd canlyniad arbennig gan y dim tra roedd Artell i ffwrdd, wrth iddynt chwalu Caerfyrddin o wyth gol i un ar Faes Tegid.
Dim ond Llanelli, yn 2009 a’r Seintiau Newydd y llynedd, sydd wedi sgorio mwy mewn gem yn yr Uwch gynghrair; Llanelli yn trechu'r Drenewydd o naw gol i ddwy , ar Seintiau yn fuddugol ym Mangor o naw gol i un. Mae Llanelli a’r Seintiau hefyd wedi sgorio wyth gwaith mewn gem tra mae Caerfyrddin er waethaf eu siom ddydd Sul, wedi llwyddo i wneud hyn dwywaith, curo Grange Harlequins o wyth i ddim ym 2005 ac yna Cei Conna o'r un sgôr yn 2007.
Does dim amheuaeth i mi fod arwyddo chwaraewyr profiadol a all gynnig arweiniad ar y cae yn mynd i ddatblygu timau Uwch gynghrair Cymru yn well. Cawsom dystiolaeth bellach o hyn , eto ar y Sul, wrth i Aberystwyth ynghyd a’u amddiffynwr newydd, Steven Wright, gynt o Wrecsam a Lerpwl, guro o un gôl i ddim yn y Rhyl.
Gyda’r Bala a hefyd Aberystwyth yn dangos cychwyn da i'w tymor, hwyrach bod yna le i awgrymu mai oddi yma y daw'r bygythiadau mwyaf i obeithion y Seintiau Newydd ac Airbus y tymor yma. Os gall eu chwaraewyr profiadol roi arweiniad a chymorth ar y cae, does gen i ddim amheuaeth y bydd y cystadlu am bencampwriaeth Uwch gynghrair Cymru yn un agos iawn y tymor yma.
Yn y cyfamser, a gyda buddugoliaeth swmpus y tu cefn iddynt, hwyrach mai penbleth nesaf y Bala fydd ystyried os caiff eu chwaraewr rhyngwladol ei le yn ôl yn y tîm ar gyfer eu gem yn erbyn Derwyddon Cefn nos Wener!
Tipyn o newid bydd marcio blaenwyr y Derwyddon ar ôl rhedeg am awr a hanner ar ôl prif sgoriwr Bundesliga’r Almaen !
Ond fydd y profiad rhyngwladol a mwy i ddod gyda Gibraltar yn wynebu’r Almaen, pencampwyr y byd, cyn hir!
Tybed felly a welwn Joachim Löw y Bala rhywbryd i bwyso a mesur cyn penderfynu pa flaenwr i’w ddewis i’r Almaen i wynebu David Artell ar y maes rhyngwladol.
Y posibiliadau i Low, mae'n debyg fydd Mario Goetze o Bayern Munich, Lucas Podolski o Arsenal neu Toni Kroos o Real Madrid! Ie penderfyniad penbleth ; byddwch wyliadwrus o gwmpas y Bala 'na rhag ofn fydd yna ryw sgwrs mewn Almaeneg yn cael ei chynnal o gwmpas Maes Tegid ystod y misoedd nesaf!
Ie wir Bala, Bala uber alles!
