Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Ebrill 29, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Cwis



bennu - gorffen

clyweliad - audition

camau bach - small steps

profiad gwych - great experience

aeddfedu - to mature

hwb - a boost

ar fin - about to

ysgoloriaethau a gwobrau - scholarships and prizes

anrhydedd - an honour

dyfarniad - adjudication

Shan Cothi yn rhoi cwis i’r tenor Trystan Llyr Griffiths. Wel, cwis o fath; holi oedd hi pa un o ddau beth oedd orau ganddo er enghraifft pizza ta pasta? Mae Shan a Trystan yn nabod ei gilydd yn eitha da. Dach chi'n cofio'r gystadleuaeth 'Llais i Gymru' y llynedd? Wel Shan oedd yn cyflwyno'r rhaglen a Trystan enillodd y gystadleuaeth. Cyn holi'r Trystan, dyma Shan yn cael gwybod ganddo fo be mae o wedi bod yn ei wneud ers ennill y gystadleuaeth...



Bore Cothi - Tyfu pwmpen



pwmpen - pumpkin

menywod - merched

chwynu - to weed

torri'r lawnt - to mow the lawn

teclyn - tool

cribyn - rake

arddangosfa - exhibition

hau - to sow

rhwyfo - to row(a boat)

Ynys Manaw - Isle of Man

Be amdanoch chi ta? Shan Cothi ta Shan Cothi? O iawn ta, awn ni am Shan Cothi eto. Dydd Iau mi fuodd hi'n sgwrsio efo'r garddwr Medwyn Williams, ac wyddoch chi be, mi roddodd hi gwis iddo fo hefyd! Ond mae'n werth gwrando ar ddiwedd y clip yma i chi glywed be mae Medwyn yn gobeithio ei wneud efo pwmpen...

Geraint Lloyd - Rolls Royce



Yr Unol Daleithiau - The United States

tylwyth - teulu

dodi - rhoi

glo - coal

yn gwmws (gymwys) - exactly

cwmpo mas - to fall out

glou - cyflym

bywyd priodasol - married life

cynhyrchion moethus - luxury products

wedi danto - wedi cael digon

Rargian, dwy fil o bwysau!! Dyna i chi glamp o bwmpen ynde! A phob lwc i Medwyn wrth iddo fo drio torri record y byd. Dan ni'n symud at raglen Geraint Lloyd rwan i glywed am daith arbennig Randell Bevan, aeth o gwmpas America mewn Rolls Royce. Dyma i chi flas ar y sgwrs...



Geraint Lloyd - Treialon cwn defaid



Treialon cwn defaid - sheepdog trials

ysgrifenyddes - secretary

pwyllgor - committee

cymwysterau - qualifications

difaru - to regret

ail-sefydlu - to re-establish

segur - idle

etholwyd yn gadeirydd - was elected chairman

nawdd - sponsorship

yn eu harddegau - in their teens

Geraint Lloyd yn fan'na yn sgwrsio efo Randell Bevan am ei daith arbennig mewn car arbennig! Arhoswn ni efo Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd. Sgwrs hollol wahanol i'r un ola yna fodd bynnag. Dan ni'n mynd o Rolls Royce America i dreialon cwn defaid yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Buodd Geraint yn edrych ymlaen at dreialon cwn defaid Llangadog, oedd yn cael eu cynnal dros y penwythnos diwetha. Dyma fo'n sgwrsio am y treialon efo un o'r trefnwyr, Melanie Jones...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Diogelwch mewn gemau peldroed

Nesaf

Bwrw Golwg: Yn y Gwaed?