Ydi ffydd yn rhywbeth mae rhywun yn ei etifeddu neu ai magwraeth aelwyd a chymdeithas sy’n gyfrifol amdano? Dyna gwestiwn a fydd yn cael ei holi mewn rhaglen arbennig a fydd yn dilyn taith Siôn Meredith o Benrhyn-coch - Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth a phregethwr llëyg yn Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth.
Flwyddyn a hanner yn ôl daeth Siôn i wybod pwy oedd ei deulu genedigol ar ochr ei fam ac yr oedd yn gryn sioc iddo ganfod ei fod e’n debyg iawn i’r teulu hwnnw ac yn arddel gwerthoedd a ffydd gyffelyb.
Ddiwedd 1965 oedd hi pan gafodd Siôn ei fabwysiadu gan y teulu Meredith ym Mangor ac yntau ryw chwe wythnos oed. Nigel Treanor oedd ei enw genedigol ac roedd ei fam Margaret wedi dod draw i Ddwygyfylchi yn y Gogledd gyda ffrind iddi i weithio mewn cartref Barnardos. Yn ddiarwybod i bawb o’r teulu roedd Margaret yn feichiog – fe fagodd hi’r babi am bythefnos cyn ei drosglwyddo i asiantaeth fabwysiadu Esgobaeth Bangor. Roedd tad Margaret yn offeiriad Anglicanaidd a bu’n gweinidogaethu yn Hanworth yng ngorllewin Llundain, a chyn ei farw cynnar, yn Hove ger Brighton. Bu ef farw tua’r un cyfnod â geni Siôn – a rhyw bum mlynedd wedi hynny bu Margaret ei hun farw o diwmor ar yr ymennydd a hithau ond yn 27. Roedd hi wedi priodi ac wedi ymfudo i Awstralia a Hong Kong ond dychwelodd wedyn i Surrey yn Ne Lloegr i fagu ei hail blentyn – Tim. Mae e hefyd wedi marw erbyn hyn.
Yn ffodus i Siôn roedd ei dad John Meredith sydd a’i wreiddiau yn Aberystwyth wedi gwneud ymchwil maith ar ddechrau’r 70au i gefndir Siôn. Mi gafodd y teulu genedigol gryn sioc gan na wyddent hwy ddim am fodolaeth Siôn, a’r ffrind a deithiodd gyda Margaret i Ddwygyfylchi a gadarnhaodd y stori. Doedd Siôn, hyd yn ddiweddar, ddim wedi holi llawer am ei hanes cynnar ond wrth iddo yntau fagu teulu teimlai yr hoffai ganfod ei wreiddiau.
Yn ffodus mae ei ewythr genedigol wedi cofnodi llawer o’r hanes ac yn syth roedd modd i Siôn wybod ei fod yn perthyn i deulu o offeiradon a chenhadon Gwyddelig. Yn ei ddyddiau cynnar roedd taid Siôn yn gweithio i fudiad cenhadol SAMS yn Yr Ariannin gan sefydlu eglwys yn ardal Chaco a bu ei dad yntau yn genhadwr CMS yn India. Cyd-ddigwyddiad arall yn y stori yw bod Hanworth – ardal plentyndod Margaret (mam Siôn) yn agos iawn i bencadlys Tear Fund yn Teddington – man y bu Siôn yn ymweld ag e yn rheolaidd iawn yn ystod ei waith gyda’r elusen.
Mewn rhifyn arbennig o Bwrw Golwg a ddarlledir ar BBC Radio Cymru am 8 o’r gloch fore’r 4ydd o Fai fe fydd Siôn yn mynd ar daith i ganfod ei wreiddiau. Fe fydd y rhaglen yn mynd ag ef i weld bedd ei fam yn Hove am y tro cyntaf. Fe fydd e hefyd yn mynd yng nghwmni ei ewythr i weld cartref plentyndod ei fam yn rheithordy Hanworth ac yn mynd o gwmpas yr ystafelloedd i gael blas ar y dyddiau cynnar. Dilynir Siôn, ymhellach, wrth iddo fynd i wasanaeth yn Eglwys Hanworth lle y mae’n cael cyfle i siarad â ffrind ysgol i’w fam a phobl a oedd yn cofio ei daid. Cafodd y cyfan ei recordio ar Sul y Mamau. Yn ail rhan y rhaglen fe fydd trafodaeth ar etifeddiaeth a magwraeth a pha un sy’n ein gwneud yr hyn yr ydyn ni.
‘Fe fwynheais y daith i ganfod fy ngwreiddiau yn fawr, meddai Siôn, ac y mae’n sicr wedi dod a fi’n nes at fy mam enedigol ac yn peri i mi ofyn llawer o gwestiynau’. Ond meddai Siôn, ‘dyw’r profiad ddim yn fy mhellhau wrth y teulu sydd wedi fy mabwysiadu – wedi cyfoethogi fy mywyd y mae’r profiad.’
