Main content

Diogelwch mewn gemau peldroed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fy ddylai ddarllenwyr Blogiau Ar y Marc fod yn ymwybodol erbyn hyn nad wyf yn meddwl llawer o drefniadau, (neu ddiffyg) trefniadau a roddir mewn lle mewn llawer o stadia pêl droed. Yr hyn rwyf yn ei gyfeirio ato fwyaf ydi’r tueddiad, neu ffasiwn, cyfoes o weld cefnogwr oddi cartref yn sefyll drwy gydol gem a hynny mewn mannau ble y disgwylir iddynt eistedd,.

Nid ar chwarae bach mae stadia pêl droed wedi cael seddau - yn dilyn trasiedi Hillsborough mae rhaid o bob cae pêl droed yn Uwch gynghrair Lloegr fod a sedd ar gyfer pob cefnogwr, ac mae’n annerbyniol i sefyll yno.

Eleni mae’n chwarter canrif ers trychineb Hillsborough, ac mae gweld cefnogwyr, stiwardiaid ac eraill yn diystyrru materion diogelwch yn fy mhoeni. Does ond obeithio nac aros am ddamwain arall i ddigwydd bydd y sbardun i sicrhau mai eistedd a ddylid ei wneud mewn rhan ble mae disgwyl i rywun eistedd! Does gen i ddim yn erbyn trefnu mannau penodol a fyddai yn cynnal sefyll mewn gemau - ond mewn parthau ble mae seddau, yna fe ddylid parchu rheolau diogelwch, ac eistedd.

Ond mae yna ddigwyddiadau eraill mewn gemau pêl doed sydd yn creu gofid.

Mae swyddogion Uwch Gynghrair Cymru wedi cyhoeddi rhybudd ac ymchwiliadau yn dilyn ffaglau mewn gemau yn ddiweddar. Mae hyn yn dilyn digwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod y gêm rhwng Dinas Bangor a’r Seintiau Newydd ar ddydd Gwener y Groglith .

Oherwydd y digwyddiad yma, mae ysgrifennydd yr Uwch gynghrair, Gwyn Derfel wedi ysgrifennu at holl glybiau’r gynghrair genedlaethol, yn gofyn iddynt fod yn wyliadwrus tuag at y math yma o drafferthion . Gyda’r Uwch gynghrair yn ceisio gwella maint y dorf mewn gemau, ac yn ceisio marchnata ei hun fel canolfan gyfeillgar sydd yn creu amgylchedd diogel ar gyfer teuluoedd cyfeillgar, mae digwyddiadau o’r math yma hyn yn mynd yn gwbl groes i’r egwyddorion hyn.

Ymddengys fod y ffaglau yma wedi cael eu taflu, nid yn unig i'r cae chwarae, ond hefyd fe honnir i un gwyrdd ei liw gael ei osod yn un o doiledau'r clwb a allai fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol ar gyfer unrhyw un sy'n dioddef o broblemau anadlu . Ymddengys hefyd fod yna enghreifftiau o’r math yma o drafferthion wedi codi mewn dwy gêm a oedd yn cael eu darlledu’n fyw ar y teledu .

Rhaid canmol ymateb ysgrifennydd Uwch gynghrair Cymru i'r achosion yma, gan iddo ddweud fod y ffaglau yma nid yn unig yn anghyfreithlon ac yn erbyn holl reolau diogelwch y stadiwm , ond hefyd fe all anafu yn ddifrifol neu ladd gwylwyr neu chwaraewyr.

Ychwanegodd hefyd fod rhai digwyddiadau yn ystod ac ar ôl y gêm sy'n cynnwys fflachiadau yn ei boeni fel rhiant ac fel cefnogwyr o’r Gynghrair. Ychwanegodd fod rownd terfynol Cwpan yr Iseldiroedd a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi cael ei atal am hanner awr oherwydd ffaglau - ac mae’r neges yn un syml , sef bod y defnydd o ffaglau tan yn beryglus, yn anghyfreithiol.

Yn anffodus mae llais Gwyn Derfel yn ymddangos fel un unig yn erbyn y math yma o ddigwyddiadau mewn gemau pêl droed. Roeddwn yn Stadiwm ar Allianz Riviera yn Nice nos Sadwrn diwethaf yn y gêm yng Nghynghrair Ffrainc rhwng OGN Nice a Stade de Reims. Doedd unrhyw stiward, plismon nac unrhyw un arall yn gwneud unrhyw beth i rwystro unrhyw ffagl rhag cael ei ddefnyddio ymysg y dorf yn y gêm yma! Ni thaflwyd unrhyw un ar y cae. Ond y tu ôl i'r gôl, ynghanol cefnogwyr yr Ultras Polulaire Sud Nice, roedd yn edrych fel petai noson Guto Ffowc ar fin cyrraedd gyda fflers cocha than gwyllt swnllyd yn cael eu tanio ymysg y dorf, a dim yn digwydd.

Tra bod y math yma o ymddygiad yn cael ei gynnwys fel rhan arferol o gefnogi tîm pêl droed ar y cyfandir, tydi’n fawr o syndod fod rhai pobol yn meddwl y cant ymddwyn mewn dull tebyg yma yng Nghymru.

Mae angen mwy o swyddogion fel Gwyn Derfel yn y byd pêl droed, sydd yn barod i sefyll dros yr hyn a ddylid sicrhau diogelwch pob un a fynycha gem bel droed heb ofni cael eu hanafu gan ymddygiadau anghyfreithiol o'u cwmpas.

Petaech ynghanol cefnogwyr yn cymeradwyo chwarae teg a thaclus y gwrthwynebwyr, yna mae'n debyg y byddai stiwardiaid yn ei heidio atoch a’ch hebrwng allan! Tybed pam maent yn ymddangos mor ddifater tuag at ymddygiadau llawer mwy peryglus?

Cefnogwch ymdrechion Gwyn Derfel at sicrhau amgylchedd diogel a theuluol yn ein gemau pêl droed ar hyd a lled Cymru ( a hwyrach y daw Uwch gynghrair Lloegr i ddilyn ei esiampl hefyd).

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Ebrill 29, 2014