Tybed a fydd criw Ar y Marc yn ôl y tu allan i Wembley ar ddiwedd mis Mawrth ?
Yn dilyn perfformiad disgybledig a ddaeth thri phwynt yn erbyn Barnet sydd ar frig y Gyngres, mae hyder newydd ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr cyn i Wrecsam wynebu Torquay United yng nghymal cyntaf Tlws F.A. Lloegr y Sadwrn yma.
Ond, fel mae cefnogwyr y Dreigiau wedi dod i ddeall, does wybod beth a allasai ddigwydd nesaf wrth ddilyn Wrecsam !
Hwyrach fod buddugoliaeth Wrecsam mewn perfformiad a oedd, o bosib , yn ôl y cefnogwyr a oedd yn eistedd o'm cwmpas, ymysg yr orau a welwyd gan y tîm y tymor yma ac roedd yna hen son am drefnu trip i Wembley am yr ail dro mewn tair blynedd.
Rhyw ddwy fil a hanner oedd yna ar y Cae Ras y Sadwrn diwethaf ond gallwch fentro y bydd yna dros ugain mil yn ei heidio am Wembley os daw’r cyfle, a phob un yn honni eu bod yn gefnogwyr ffyddlon ac wedi gweld pob un o gemau Wrecsam y tymor yma!
Ond, rhaid bod yn bwyllog!
Anwadal ydi perfformiadau Wrecsam wedi bod dros y blynyddoedd, ac er waethaf y newidiadau o fewn y clwb eleni a'r llynedd, mae rhai pethau yn aros yr un fath!
Ymddengys nad oes dim wedi newid pan mae'n ofynnol i Wrecsam godi eu gem yn erbyn timau o safon uwch, ond yna, yn ôl yr arfer, maent hefyd yn llithro yn rhy aml yn erbyn timau o safon is.
Ond dyna ni, dyna fywyd cefnogwyr y Cae Ras ac roedd y cefnogwyr o’m cwmpas llawn mor rhwystredig ac unrhyw un arall wrth fethu a chynnig rheswm nac esboniad dros yr anghysondeb yma!
Ond er waethaf y dryswch, cafwyd canlyniad sydd yn siŵr o gyfrannu'n sylweddol at godi hyder a chynnig gobaith newydd cyn dechrau meddwl am Wembley.
Bydd y rownd gyn derfynol arall yn cael ei chwarae rhwng North Ferriby United (o ardal Hull) a Chaerfaddon (Bath City), y ddau dîm o adrannau is yn y Gyngres a’r un mae Wrecsam ynddo eleni.
Ond dyna ni eto, gobeithion yn codi eto , a thrip arall i gefnogwyr Wrecsam, tîm Ar y Marc, criw Camp Lawn ac unrhyw un arall sydd yn credu y dylent fod yno!
Wembley ar y gorwel ? Ara' deg piau hi , rhaid peidio â chynhyrfu’n ormodol.
Wedi'r cwbl, son am Wrecsam ydan ni - does wybod beth all ddigwydd!
