Es i weld Caerdydd y Sadwrn diwethaf. Dwi’n dweud gweld Caerdydd gan mai anodd ydi dweud fy mod gweld gem bel droed gwerth ei chofio rhwng yr Adar Gleision a Huddersfield.
Atal fy hun rhag mynd i gysgu oedd y dasg fwyaf aml ar brynhawn oer a diflas a hynny am awr a hanner (ac amser estynedig - agwedd bwysig fel yr eglurir yn nes ymlaen).
Dyma oedd un o'r gemau ystrydebol hynny rhwng dau dîm a oedd yn ymddangos fel petai ganddyn unrhyw uchelgais mwy na sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth ar gyfer y tymor nesaf!
I fod yn deg, roedd trefn amddiffynol da a disgybledig gan Gaerdydd, gyda Peter Whittingham ac Aron Gunnarsson yn gosod eu presenoldeb yng nghanol cae gan leihau ymosodiadau'r gwrthwynebwyr yn effeithiol.
Yn anffodus, fodd bynnag, roedd safon y chwarae yn enwedig y chwarae ymosodol, gan y ddau dîm, ymysg y gwaethaf a welais ers peth amser.
Cyflwr y cae oedd yn cael y bai am ddiffyg rheoli'r bel a'i phasio'n gywir, gan y wasg leol, a hynny gan y ddau dîm. Hwyrach fod gan Huddersfield a Chaerdydd amddiffynfeydd sydd, yn ystadegol, yn eithaf cryf, ond roedd hyn, ynghyd a’r ffaith nad ydi Huddersfield heb sgorio mwy na dwywaith mewn unrhyw gêm ers dechrau'r flwyddyn, na heb ennill adref ers mis Rhagfyr, a Chaerdydd heb ennill mwy na dwywaith oddi cartref y tymor yma, na ‘chwaith heb ennill unrhyw gêm o gwbl yn eu chwe gem ddiwethaf, ddim yn argoeli’n rhy dda am gracer yn Kirklees!
Ac felly y bu!
Be felly mae rhywun yn ei wneud ynghanol diflastod a gostiodd dros ugain punt ?
Chwilio am rywbeth, unrhyw beth, i dynnu sylw a chadw diddordeb. Ac er waethaf diflastod y pêl-droed, doedd Huddersfield ddim am ein siomi.
Welais i erioed gymaint yn cael eu noddi mewn un gêm ac a welais ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd noddwyr penodol ar gyfer y gêm, (wel mae hynny’n eithaf arferol erbyn heddiw), ond yn Huddersfield, mae’n bosibl hefyd i noddi’r ciciau cornel, y tafliadau i mewn (ar ôl i'r bel groesi'r ystlys), y gic gol, yr eilyddion a hefyd, credwch neu ddim, yr amser estynedig ar ôl y naw deg munud.
Wrth i’r eilyddion ddod ar y cae nid yn unig ‘roedd eu henwau yn cael eu cyhoeddi ynghyd ac enw’r chwaraewr a ddaeth oddi ar y cae, ond hefyd fe gafwyd enw noddwyr y ddau chwaraewr. Pan ddaeth yn amser i ail gychwyn y gêm gyda thafliad, neu gic gol neu gic gornel, daeth hysbyseb ar y sgrin fawr fod rhyw gwmni penodol yn noddi'r digwyddiad!
Yna fel nad oedd hyn i gyd yn ddigon, pan ddaeth yr awr a hanner i ben, cyhoeddwyd fod y dyfarnwr wedi penderfynu y byddai yna dri munud o amser estynedig am gael ei chwarae , a hynny mewn cydweithrediad a rhyw gwmni lleol ! Roeddwn yn ysu am geisio cael gwybod os fyddai costau’r amser estynedig yma yn cael eu penderfynu wrth ystyried hyd yr amser, ac a fyddai rhaid talu mwy am bum munud ychwanegol nac a fyddai rhaid am ddau funud!
Tybed wir, ond os fyddai'r clwb wedi ceisio cael noddwr ar gyfer y radd o ddiflastod y gallai'r cefnogwyr ddioddef, fe fyddai'r gêm yma wedi costio ffortiwn i rywun !
Cyn y gêm daeth y noddwyr ar y cae yn eu siwtiau smart a ffrogiau hardd i dderbyn diolch, cymeradwyaeth a sylw gan y clwb a’r cefnogwyr, gyda chriw o ffotograffwyr yn eu dilyn.
Roedd cymaint o noddwyr wedi ymgasglu ar y cae fel roedd rhywun yn gobeithio fod gan y tynnwyr lluniau gamerâu gyda lens panoramig eang iawn os am gynnwys pawb yn y llun!
Ond dyna ni, dau gynnig yn uniongyrchol at y gôl gan y naill dim a'r llall yn ôl yr ystadegau ac fel y dywedodd Chis Powell, rheolwr Huddersfield ar ôl y gêm :- "Fydd y gêm yma ddim yn aros yn hir yn y cof gan unrhyw un a oedd yno."
Ie, wir a galla'i ddim dadlau yn erbyn y sylw yna ! Felly gan na alla’i gofio fawr ddim arall am brynhawn hollol ddiflas mewn gem ddi-lun a di-sgor, allai wneud dim mwy na diolch i Huddersfield am wneud i noddi gem edrych mor chwerthinllyd !
