Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Chwefror 17, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



C2:Lisa Gwilym - Aelwyd Penllyn

ysgogi - to stimulate

cydweithio efo - to collaborate with

camlwyddiant - centenary

mawrygu - to glorify

dehongli - to interpret

celfyddyd - art

murlun - mural

erchyll - terrible

colomen wen - white dove

heddychlon - peaceful

"...Branwen Haf Williams yn sôn am brosiect gan Aelwyd yr Urdd Penllyn, sef ardal y Bala. Prosiect ydy hwn i gofio'r can mlynedd sydd wedi bod ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Buodd Branwen yn siarad gyda Lisa Gwilym ar C2 ac mi gawn ni wybod yn ystod y sgwrs beth wnaeth ysgogi pobl ifanc yr ardal i gymryd rhan yn y prosiect..."

Cofio - T. Llew Jones

di-nod - insignificant

gwr bonheddig - gentleman

plant amddifad - orphans

rhyw lediaith - an English accent

hwyiaid - ducks

cymdeithas wledig - rural community

pobl mewn oed - older people

crwt - bachgen

chwedlau tylwyth teg - fairytales

llwm - poor

...a dyna i chi ran o’r gân Cefn Gwyn gafodd ei hysgrifennu gan Branwen Haf Williams yn rhan o brosiect arbennig iawn gan Aelwyd yr Urdd Penllyn. Llawer iawn o bethau diddorol yn fan'na yn cael eu creu gan aelodau yr Aelwyd i gofio'r flwyddyn cychwynodd y Rhyfel Mawr, sef Mil Naw un Pedwar. A dyna'r flwyddyn hefyd pan gafodd yr awdur T Llew Jones ei eni. Roedd hi'n bleser clywed ei lais ar raglen Cofio ddydd Mercher, a chofio oedd o am ei Nain, neu ei famgu. Sgwrs o’r archif oedd hon wrth gwrs, ac ym Mil Naw Naw dau clwyon ni'r sgwrs yma gyntaf, ar y rhaglen Dylanwadau. Dyma i chi flas arni...

Bore Cothi - Tri Tenor Cymru

tynnu coes - leg pulling

llwyfan - stage

sa i'n dweud - dw i ddim yn dweud

henaint - old age

rhagarweiniad - introduction

wilber - wheelbarrow

T Llew Jones yn fan'na yn dod â'r hen gymdeithas Gymraeg yn fyw i ni ar raglen Cofio ddydd Mercher diwetha. Wel mi gafodd Shan Cothi ddipyn o hwyl efo Tri Tenor Cymru, a’u haelod newydd, Aled Wyn Davies. Mae'r tri yn amlwg yn licio tynnu coes ei gilydd, felly druan o'r aelod newydd. Gobeithio ei fod o'n barod amdanyn nhw. Dyma i chi ambell i stori ddoniol glywon ni ganddyn nhw dydd Iau...

C2: Ifan Evans - Apps yr Wythnos

pobl ddall - blind people

arwynebol - superficial

cysylltu - connecting

sefyllfa - situation

llaeth - llefrith

anhygoel - incredible

defnyddiol dros ben - extremely useful

sêr - stars

mas - allan

cyfryngau - media

Wel dyna lwcus ynde? Nid yn unig ein bod ni'n cael cân gan Tri Tenor Cymru ond bod Shan Cothi yn ymuno yn y gân hefyd. Dan ni'n mynd i orffen efo Aps yr Wythnos. Dw i ddim yn sôn am yr aps sydd i'w cael mewn enwau Cymraeg, fel Gruffydd ap Llywelyn, ond yr aps sydd ar y ffonau clyfar, a'r tabledi digidol - fel ap Pigion wrth gwrs! Ifan Evans oedd yn siarad efo Aled, yr arbenigwr 'aps', am rhai o'r aps newydd sydd ar y farchnad nawr...

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Cymry Newydd

Nesaf

Ar Y Marc: Rownd cyn-derfynol Tlws FA Lloegr