Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 29ain-Tachwedd 4ydd

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dei Tomos - Linda Thomas

Prif Weithredwr - Chief Executive

Rhydychen - Oxford

dyrchafiad - promotion

ymfudo - to migrate

ymdopi - to cope

dynes ddiarth - a stranger (feminine)

tramorwr - foreigner

dyfalu - guessing

hunaniaeth - identity

dyletswydd - duty

...cyfle arall i glywed sgwrs Dei Tomos efo Linda Thomas, sef y ferch gyntaf i fod yn Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cafodd Linda ei geni yn ne Cymru ond symudodd hi i Loegr pan oedd hi'n ferch fach. Mae hi wedi priodi dyn o Ddolgellau ac erbyn hyn yn siarad iaith y gogs yn rhugl!

Geth a Ger - Castell Gwrych

ufflon o drist - trist iawn

dagreuol - tearful

chwerw - bitter

corddi (idiom) - irritated

datblygu - to develop

cysylltiedig - connected

milain - angry

cryfhau - to strengthen

clecian - a sharp sound

tîm cynhyrchu - production team

Gobeithio bydd teulu Siapan Linda yn ei deall yn well na'r teulu o dde Cymru ynde! Fuodd na rywun yn cnocio’ch drws chi nos Lun? Mi fuodd Geth a Ger yn treulio oriau hwyr noson Calan Gaeaf yn nhywyllwch Castell Gwrych Abergele efo’r seicic Elwyn Edwards. Yn ystod y rhaglen am hanner nos, tra bod y criw bach yn eistedd yn un o hen ystafelloedd y castell, mi ddigwyddodd rhywbeth i Elwyn...

Bore Cothi - James Lusted

math prin - a rare kind

nam ar ei dyfiant - growth deficiency

cyfres - series

taldra - height

cyflwr - condition

rhwystredig - frustrated

genod - girls

delfrydol - ideal

nain - mam-gu

addasu - to adjust

...ac os ydach chi eisiau gwybod mwy am noson Geth a Ger yng Nghastell Gwrych ewch i wefan Radio Cymru i weld y fideo.

Bore Llun mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo un o sêr rhaglen newydd y BBC, Born Small: the Wedding sef James Lusted. Mae James, sydd yn byw ym Mae Colwyn yn dioddef o diastrophic displacia sef math prin iawn o nam ar ei dyfiant, ac mae’r rhaglen yn dilyn yr wythnosau wrth iddo fo baratoi ar gyfer ei briodas efo Chloe. Mi fuodd James a Shan yn sgwrsio am y rhaglen a sut gwnaeth o gyfarfod Chloe.

Aled Hughes - Angharad Tomos

pryderu - poeni

ar gael - available

dilyn ei drywydd ei hun - doing his own thing

cydio - to grasp

gwedd newydd - a new aspect

cymhelliad - motivation

awgrym - suggestion

canllaw - guide

allwedd - key

lluchio - to throw

James Lusted yn fan'na yn sgwrsio efo Shan Cothi. Mae Angharad Tomos wedi sgwennu llyfrau ar gyfer plant ac ar gyfer oedolion ond mae'n bosib y bydd hi'n cael ei chofio'n bennaf am ei llyfrau i blant. Mae cymeriadau fel Rala Rwdins, Strempan a'r Llipryn Llwyd yn rhan o fywyd llawer iawn o blant, a rhieni, Cymru. Mae Aled Hughes yn rhedeg cystadleuaeth i blant sgwennu stori ar hyn o bryd a bore Mercher mi ofynnodd Aled i Angharad sut mae mynd ati i sgwennu straeon i blant...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llysenwau Clybiau Pel-droed

Nesaf

Sul y Cofio - pel-droed a rhyfel