A’r drothwy Sul y Cofio, hwyrach mai priodol ydi imi gyfeirio at ddwy stori o’r byd pêl droed sy’n gysylltiedig â rhyfeloedd. Ychydig ohonom sydd yn ymwybodol fod Abertawe ac wedi creu hanes yng Nghwpan Lloegr yn 1915.
‘Roedd y tymor pêl droed eisoes wedi cychwyn, gan mai’r gred oedd mai rhyw ryfel a fyddai’n gorffen yn fuan oedd hon am fod!
Wrth gwrs nid felly y bu.
Er bod llawer yn ystyried y gêm fel rhywbeth i gadw sylw'r cyhoedd oddi wrth y rhyfel, newidiwyd y ddelwedd wrth i filoedd ar filoedd o deuluoedd sylweddoli nad oedd eu hanwyliaid am ddychwelyd o’r ffosydd a’r brwydro.
Yn erbyn y cefndir yma o ddadrithiad, daeth llawer o bobol i ystyried peldroedwyr nad aeth i ryfel fel llwfrgwn ac mae'r agwedd a’r cefndir yma wedi cael effaith fawr ar anhysbysrwydd y stori am lwyddiant cynnar Abertawe.
Ar y nawfed o Ionawr 1915, wynebodd Abertawe, a gafodd eu ffurfio fel clwb yn 1912, gewri a phencampwyr yr Adran Gyntaf, Blackburn Rovers yng Nghwpan Lloegr ar gae'r Vetch.
Tîm yn ail adran cynghrair De Lloegr oedd Abertawe, a doedd neb yn rhoi unrhyw obaith i Abertawe.
Aeth Blackburn ati yn llawn egni i ymosod, ac yna, yn dilyn anaf i Harry Read, aeth Abertawe i lawr i ddeg dyn, cyn i Blackburn wastraffu cyfle euraidd i fynd ar y blaen gyda chic o’r smotyn yn yr ail hanner.
Roedd Billy Bradshaw wedi sgorio tri deg chwech o giciau o'r smotyn o'r bron cyn wynebu Abertawe, ond yn y gêm yma, fe lwyddodd i wneud dim gwell na llithro’r bel heibio’r postyn.
Ymatebodd deg dyn yr Elyrch gydag awch ac egni newydd gan achub y blaen wrth i’r blaenwr ifanc un ar bymtheg oed, Benny Beynon sgorio unig gôl y gêm, yn dilyn pas gan Amos Lloyd.
Er waethaf y rhyfel, roedd un fil ar bymtheg ar y Vetch, ac yn dathlu buddugoliaeth annisgwyl wrth weld Abertawe yn creu hanes a fyddai yn agor y drws ar gyfer mwy o ganlyniadau annisgwyl y dyfodol.
Doedd Beynon ond yn chwarae i Abertawe gan nad oedd gem rygbi ar gael iddo gyda’r tîm rygbi lleol oherwydd bod Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu na fyddai unrhyw gêm yn cael ei chynnal oherwydd y rhyfel.
Yn 1918, aeth Beynon yn ôl i chwarae rygbi gydag Abertawe gan ennill dau gap dros Gymru, ond gan ei fod wedi chwarae pêl droedi Abertawe roedd Undeb Rygbi Cymru yn ei ystyried fel chwaraewr proffesiynol.
Oherwydd hyn, doedd dim lle iddo ym myd rygbi’r undeb, ac fe aeth ymlaen i chwarae rygbi’r gynghrair gydag Oldham am weddill ei yrfa.
Un o brif gymeriadau'r gêm ar drothwy’r Rhyfel Mawr oedd Leigh Richmond Roose. Brodor o bentref Holt, gerllaw Wrecsam a mab i weinidog yr eglwys Bresbyteraidd sef Richmond Leigh Roose, a oedd yn enedigol o Sir Fôn.
Mae’r Athro Geraint Jenkins, yn ei lyfr ‘Cewri Bel Droed yng Nghymru’ wedi cynnwys pennod am gyfraniad Roose , a chwaraeodd i Aberystwyth, y Derwyddon, Everton, Aston Villa, Stoke City, Sunderland, Arsenal yn ogystal â Chymru rhwng 1901 a 1912.
Yn wir, ymddengys fod cariad Roose tuag at Aberystwyth lle chwaraeodd 56 o gemau, wedi parhau drwy ei yrfa, gyda’r golwr yn gwisgo crys gwyrdd a du Aber o dan ei grys cenedlaethol wrth gynrychioli ei wlad.
Chwaraewr amatur oedd Roose, sydd yn esbonio pam y mae wedi ymuno a chymaint o dimau mewn gyrfa fer, yn barod i gynnig ei hun am dreuliau da i bwy bynnag a oedd am roi gêm iddo!
Ysgolhaig oedd Roose, wedi dilyn cwrs meddygaeth ym mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd ei ymddangosiad yng nghanol timau o lafurwyr a dynion ifanc anllythrennog yn rhywbeth annaturiol iawn yr adeg hynny!
Roedd gol geidwaid yn nyddiau cynnar y gêm yn swydd a oedd yn cael ei ystyried fel rhywbeth hollol hurt, o gofio natur ffisegol a brwnt y gêm!
Ond, ysgol haig neu ddim, llwyddodd Roose i ennill Cwpan Cymru gydag Aberystwyth yn 1900, wrth guro’r Derwyddon yn y Drenewydd o dair gôl i ddim, cyn mynd ymlaen i chwarae gyda thimau blaenllaw Lloegr fel amatur, gan dderbyn treuliau swmpus, a oedd bron cymaint â'r hyn a dderbyniai'r chwaraewyr proffesiynol
Mae stori am i Roose, yn dilyn cais gan y Gynghrair Bel Droed i’w glwb Sunderland egluro sut yr oeddynt yn cyfarfod a threuliau'r golwr amaturaidd, gychwyn ei dderbynneb trwy nodi: - “Defnyddio’r tŷ bach ddwywaith - dwy geiniog”!
Ar adeg arall wedi iddo fethu'r trên a oedd i’w gludo o Lundain i chwarae dros Stoke City yn erbyn Aston Villa, fe lwyddodd i ddwyn perswâd ar awdurdodau'r rheilffyrdd i roi trên arbennig iddo’i hun ( rhywbeth a oedd yn arferol ar gyfer yr enwog a’r cyfoethog yr adeg honno).
Dylanwadodd y Cymro ar reolau’r gêm hefyd. Yr arfer, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ydoedd i’r golwyr aros o gwmpas ceg y gôl, er y gallant grwydro gyda’r bel yn eu dwylo, yn hollol gyfreithiol, allan o’r cwrt cosbi, a’i chicio i ben pella’r cae gan greu hafoc yng ngheg y gol. A dyna oedd tacteg Roose.
Oherwydd hyn, newidiodd y Gymdeithas Bel Droed, yn 1912 reol rhif naw, gan gyfyngu defnydd y golwr o’i ddwylo, i derfynau'r cwrt cosbi, fel ag yr adnabyddwn heddiw.
Yn 1914, ymunodd Roose a byddin y Royal Fusiliers, ac ar brynhawn Sadwrn, y seithfed o Hydref, 1916, am chwarter i ddau, ymosodwyd ar yr Almaenwyr ym Mrwydr y Somme.
Collodd Leigh Richmond Roose ei fywyd mewn cae yn Ffrainc, ar yr union ddydd ac amser pan oedd yn arfer creu gwyrthiau ar gaeau pêl droed Cymru a Lloegr.
