Dros y penwythnos diwethaf mi es dros yr Hafren i ymweld â ffrind ym Mryste.
A be mae rhywun yn ei wneud wrth ail gyfarfod a rhywun nad ydych wedi ei gweld ers amser maith a hithau’n ‘bnawn Sadwrn ?
Wel ei anfon i siopa gda’r wraig tra dwi yn diflannu am awr a hanner i gêm bel droed! Oeddech chi’n disgwyl ymateb gwahanol?
Os ydych, yna d’ach erioed wedi darllen y colofnau yma o’r blaen!
Felly i ffwrdd a fi i stadiwm y Memorial Ground ym Mryste i weld Bristol Rovers yn chwarae Peterborough! Gem anodd i berswadio unrhyw un i fynd i'w gweld. Ond dyna ni, Adran Un Lloegr amdani a thrip i weld y Morladron yn chwarae’r Posh.
Diddorol felly oedd sylwi fod y Morladron hefyd yn cael eu hadnabod fel y Gas. Pam felly? Ymddengys, yn y dyddiau pan oedd Rovers yn chware ar faes Eastville, fod yna hen waith nwy y drws nesaf, felly dyna darddiad y llysenw.
Wrth ystyried y llysenw, fe ddois i sylweddoli fod tarddiad diddorol i lawer o lysenwau timau pêl droed.
Yn aml iawn mae nhw wedi cael eu cysylltu â lliw crys y tîm ynghlwm ac anifeiliaid neu adar, felly'r Robins (yna’r Dreigiau) i Wrecsam, yr Adar Gleision i Gaerdydd, y Bantams sef Bradford City, neu'r Canaries yng Nghaernarfon a Norwich.
Yna fe geir enwau sy'n gysylltiedig â gweithfeydd neu ddiwydiannau lleol. Er enghraifft, y Potters yn Stoke, y Gunners yn Arsenal, neu’r Hammers yn West Ham.
Ond yn yr Alban, fe gawn agwedd wahanol, un ramantus yn aml, fel yr Honest Men yn Ayr United (allan o linell o farddoniaeth gan Rabbie Burns); neu’r Doonhamer yn Queen of the South sef yr enw a roddir gan drigolion Glasgow i'r rhai a symudodd i'r de i fyw yn nhref Dumfries (ble mae Queen of the South yn chwarae).
Ceir y Red Litchies yn Arbroath ar ol goleudy lleol, y Bairns yn Falkirk (allan o arwyddair y dref - the Bairns of Falkirk), a’r un mwyaf od, y Bully Wee, sef llysenw tîm Clyde am eu bod yn ystyried eu hunain fel tîm bach a oedd yn bwlio’r rhai mwy enwog wrth chwarae!
Fe allwn barhau am hydoedd yn chwilio am fwy o lysenwau, a dod o hyd i ychydig o hanes yn y broses.
Ond mi orffennai efo’r Addicks yn Charlton Athletic (ar ol y gair haddock a werthwyd mewn siop chips gerllaw), y Cherries yn Bournemouth (gan mai ar dir a oedd unwaith yn cynnal perllan o goed ceirios mae'r stadiwm bresennol) , a’r Toffees yn Everton ar ol siop leol Mother Noblett a oedd yn gwerthu taffi i’r cefnogwyr pan symudodd y clwb i Barc Goodison).
Digon i'w ystyried yma, a tybed os ydych chi'n gwybod beth yw tarddiad llysenw eich tîm chi?
Gwerth gwneud ymholiadau, ac ehangu eich diwylliant ac etifeddiaeth ein gem! A chithau'n meddwl mai ryw ymddygiad anghymdeithasol er mwyn cael gwared â'r merched am y prynhawn oedd y tu ol i fy rhesymeg am ymweld â Bristol Rovers!
Rhag eich cywilydd am hyd yn oed meddwl am y fath beth!
