Tra bod Cymru yn chwilio am reolwr newydd yn sgil penderfyniad Chris Coleman i arwain Sunderland, mae yna ddigon o enwau yn cael eu taflu o’n cwmpas.
Ffefrynnau'r bwcis, yn ôl yr hyn y gallaf ei ddehongli, ydi Ryan Giggs, Tony Pulis a Craig Bellamy ond, anodd ydi penderfynu pwy fyddai ffefrynnau'r cefnogwyr, neu o leiaf i rai ohonynt sydd yn mynegi barn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Beirniadu yn hytrach nac awgrymu mae rhai, ac mae’n ymddangos mae’r rhai sydd yn cael eu beirniadu fwyaf ydi’r union rai sydd yn cael eu hystyried yn ffefrynnau gan y bwcis!
Wnâi ddim mynegi barn mwy na hynny, ond mae'n awgrymu ein bod yn pegynnu barn ynglŷn â dyfodol rheolwr ein tîm cenedlaethol.
Ond, pwy a fynnai fod yn rheolwr y dyddiau yma?
Tydi’r tymor ond wedi cyrraedd y Gaeaf ac mae pum rheolwr wedi colli eu swyddi yn Uwch gynghrair Lloegr yn barod.
Oes yna unrhyw reswm sy'n ymddangos fel rhyw linyn mesur drwy hyn i gyd, efallai
A chyn edrych yn rhy bell, oes rhywun yn fodlon proffwydo na fydd yna un neu ddau arall yn diflannu cyn y Nadolig?
Yr adeg yma'r llynedd, dim ond Francisco Guidolin o Abertawe a gollodd ei swydd.
Ond rhyfedd o fyd ydi sylwi fod rhai ohonynt sydd wedi ymadael eisoes, wedi creu gwyrthiau o fewn eu timau y llynedd wrth sicrhau dyfodol eu timau yn yr uwch gynghrair.
Noder cyfraniadau Tony Pulis yn West Bromwich, Slaven Bilic yn West Ham, Craig Shakespeare yng Nghaerlŷr, yn ogystal a Frank de Boer o Crystal Palace (na chafodd fawr o amser i gynhesu ei orsedd ym Mharc Selhurst cyn colli ei goron mor fuan), a Ronald Koeman a lwyddodd i arwain Everton i Ewrop cyn baglu yn ddychrynllyd yn yr haf a chreu rhwystredigaethau o’r fath eithaf ar Barc Goodison yn yr Hydref (er dwi’n barod i nodi hwyrach fod yna fwy i sefyllfa Everton nac yr ydym yn ymwybodol ohono efallai!)
Beth felly a allai fod wedi cyfrannu tuag at yr holl newid?
Sunderland efallai!
Na, nid am fod Chris Coleman wedi ymuno, ond am fod y clwb wedi dangos beth a allai ddigwydd , a pha mor gyflym y gall pethau ddirywio i dîm, neu glwb sydd yn ystyried ei hun yn glwb mawr! Os gall ddigwydd i Sunderland oni allai hyn ddigwydd i glybiau eraill!?
Ciw panic yng nghyfarfodydd y cyfarwyddwyr neu’r perchnogion.
Ac os nad ydi cwymp Sunderland yn ddigon i'w dychryn , yna does dim angen edrych ymhellach na llwyddiant Newcastle, Huddersfield a Brighton eleni, hyd yn hyn o leiaf.
Ie, os gall y tri yma, sydd wedi codi o’r Bencampwriaeth gadw eu pennau uwch y dyfroedd, pam na all fawrion Everton, West Ham neu West Brom wneud cystal ?
Ac yna, os nad yw’r hunllef wedi gafael yn llawen, pwy all esbonio llwyddiant Watford a Burnley?
Mae'n greisis, fel creisis Bryncoch, mae'n debyg ydi cri llawer o'r clybiau yma sydd yn byw mewn ofn, a drwy gael gwared â'u rheolwr, sef y 'feri un' a sicrhaodd ddyfodol iddynt y llynedd, wrth banicio yn nirgelwch eisteddfa gorsedd y cyfarwyddwyr.
Does dim amheuaeth y gall un neu ddau arall o berchnogion barus, bregus eu frethyn, gael ffit o banic cyn hir a chwilio am ddiswyddo eu rheolwr presennol, a phenodi rhywun sy’n brofiadol ac sydd eisoes wedi llwyddo i i gadw eu timau yn yr uwch gynghrair wrth osgoi disgyn i grafangau annwfn y Bencampwriaeth?
Pwy well i droi atynt felly na Tony Pulis, Slaven Bilic, Ronald Koeman neu Craig Shakespeare?
Ac wrth gwrs, mae cysgod Sam Allardyce yn y cefn y tu ôl iddynt i gyd!
Gwyliwch y digwyddiadau!
