Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Tachwedd 19eg - 25ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr



Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Bore Cothi - Dysgwyr Tŷ’r Gwrhyd

ymarfer patrymau - practising patterns

tawel - quiet

rhugl - fluent

oedolion - adults

dim gwybodaeth - no knowledge

pob gallu - all ability

mor glou - so quickly

ardderchog - excellent

seboni - soft-soaping

aeddfed - mature

"..roedd hi'n Wythnos Siopau Llyfrau Cymraeg wythnos diwetha felly aeth Bore Cothi’n am dro i Siop Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe ddydd Llun, a beth oedd yn digwydd yno... ond gwers Gymraeg! Dyma Shan Cothi yn cael cael gair gyda'r tiwtor ac wedyn gyda rhai o'r dysgwyr..."



Nol Mewn Pum Munud - galaru

taro deuddeg - to strike a chord

galar - breavement

yn lled ddiweddar - fairly recently

anturiaethau awyr agored - open air adventures

amgylchynu - surrounding

llawn bwrlwm - full of buzz

cydymdeimlo - sympathizing

cyfoedion - peers

dioddef - to suffer

wedi ei gyhoeddi - published

Dysgwyr Pontardawe yn fan'na yn siarad efo Shan Cothi. Dan ni'n aros efo siopau llyfrau Cymraeg yn y clip nesa. Huw Strphens aeth i Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin a chael sgwrs efo Llio Davies am un o'i hoff lyfrau hi..



Rhaglen Geraint Lloyd - Sioned wyn Morgan

Diolchgarwch - Thanksgiving

Efrog Newydd - New York

achlysur - occasion

yn dueddol - tends to

heblaw am - except for

yn wyllt - wild

y digwyddiad - the event

anferth - huge

cantorion enwog - famous singers

tywys - guiding

Llio Davies, sy'n gweithio yn Siop Y Pentan, Caerfyrddin oedd honna yn sôn am un o'i hoff lyfrau 'Galar a Fi' . Roedd hi'n wythnos fawr i’r Americanwyr wythnos diwethaf achos bod hi’n ddiwrnod Diolchgarwch ar ddydd Iau 23ain o Dachwedd. Mae Sioned Wyn Morgan yn byw yn Efrog Newydd a buodd Geraint Lloyd yn ei holi am yr wyl arbennig hon...



Tra bo Dau - Sue Jones Davies

dychanu - to satirize

y cyfrnod - the period (of time)

profiad - experience

bwys - near

y rhan - the part

awgrymu - to suggest

mo'yn - eisiau

clyweliad - audition

mor glòs - so close

cylch mewnol - inner circle

"Blas bach ar wyl Diolchgarwch Efrog Newydd yn fan'na gan Sioned Wyn Morgan sydd yn byw yn y ddinas. Dwy actores oedd cwmni Nia Roberts yn y rhaglen Tra Bo Dau wythnos yma, Gaynor Morgan Rees a Sue Jones Davies. Dyma Sue Jones Davies yn sôn ei rôl fwya enwog hi fel Judith Iscariot yn y ffilm eiconig honno, The Life of Brian..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ansicrwydd Rheolwyr