Bydd BBC Radio Cymru 2 yn darlledu o flwyddyn nesaf ymlaen - gyda'r rhaglen gyntaf yn darlledu'n fyw ddydd Llun, 29ain Ionawr. Yn dilyn hynny, bydd sioe frecwast ar yr awyr saith bore'r wythnos ar Radio Cymru 2 a hynny ar DAB, y wefan, BBC iPlayer Radio a theledu.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: "Mae BBC Radio Cymru 2 yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r ffaith nad yw pob gwrandawr yn gwirioni 'run fath. Y cynnig fydd sioe frecwast hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin bob bore'r wythnos i'r rhai sydd eisiau hynny. Ac i'r rhai sydd ddim, ac sy'n mwynhau ac yn gwerthfawrogi'r rhaglenni newyddion ar Radio Cymru, fydd 'na ddim newid.
"Bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd - a nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast."
Disgwylir cyhoeddiad pellach am gyflwynwyr yr orsaf dros yr wythnosau nesaf. Ni fydd newid i amserlen Radio Cymru ar FM a DAB.
Mewn araith yng Nghanolfan Pontio, Bangor nos Lun (Tachwedd 27ain), dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, fod datblygiad Radio Cymru 2 yn rhan o ehangu digynsail o wasanaethau Cymraeg i ymateb i anghenion y gynulleidfa sy'n newid yn barhaus.
"Dyma gyfnod o arloesi ac arbrofi, wedi ei danio gan gynulleidfaoedd sy'n newid yn ogystal â chwyldro technolegol.
"Dros gyfnod o dair blynedd, mae BBC Cymru Fyw wedi dod yn ganllaw hanfodol i Gymru i fwy na 50,000 o bobl bob wythnos; mae BBC iPlayer wedi trawsffurfio sut mae modd gweld cynnwys ar draws Cymru; mae cyfres S4C Hansh yn torri drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel erioed o'r blaen a rwan mae BBC Radio Cymru yn lansio ail wasanaeth digidol i gynnig dewis clir i wrandawyr.
"Mae'r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel. Ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach. Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o'r tirwedd cyfryngol newydd - yr iaith ar daith."

