Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Dan y Wyneb - Aleida Guevara
ymgynghorydd cymunedol - community consultant
yn y bôn - essentially
chwyldroadwraig - a revolutionary (female)
troi'r drol - to overturn
trefn a rheolaeth - order and management
trefn gyfalafol - capitalist system
dioddef - to suffer
diffyg gofal iechyd - lack of healthcare
mor haerllug - so insolent
o dan warchau - under siege
"...daeth ymwelydd arbennig iawn i Ddinbych wythnos diwetha, Aleida Guevara, sydd yn ferch i Ernesto ""Che"" Guevara. Roedd hi yno i siarad am ei thad efo Cymdeithas Cymru Cuba, sy’n dathlu ei phen blwydd yn 35 oed eleni. Un oedd yn Ninbych yn gwrando arni oedd y darlithydd a’r ymgynghorydd cymunedol o ardal Ffestiniog, Sel Williams."
Bore Cothi - Tylluanod
tylluanod - owls
hela - hunt
plu - feathers
crib - crest
main - thin
cael gwared ar - to get rid of
esblygu - evolve
menyw - female
gwryw - male
ceiliog - cock (male bird)
"Dipyn o hanes Che Guavara yn fan'na ar raglen Dan y Wyneb. Roedd Shan Cothi wedi mynd ar gefn ei beic ddydd Mawrth diwetha i helpu Aled Hughes godi arian tuag at Plant Mewn Angen, ac mi fuodd Heledd Cynwal yn cyflwyno Bore Cothi yn ei lle. Un o westeion Heledd ddydd Mawrth oedd Daniel Jenkins Jones sy'n gweithio i RSPB Cymru, a dyma i chi ran o'r sgwrs lle roedd o'n yn sôn am dylluanod efo Heledd Cynwal. "
Rhaglen Geraint Lloyd - Ar y Bysus
ymddangos - appear
mewn a mas - in and out
lot o ddwli - lots of nonsense
cnoi g'winedd - biting nails
chwerthin - laughing
Hwlffordd - Haverfordwest
sawl blwyddyn - several years
lot fawr o sbort - loads of fun
digwyddiad - event
bwrw'r hoelen ar ei phen - hit the nail on the head
"Dyna i chi flas ar sut mae tylluanod yn sgwrsio efo'i gilydd - twhit a twhit twhw..
Ar S4C nos Fercher, roedd na gyfres newydd o'r enw ‘ Ar y Bysus’. Un o'r bobl gymerodd ran yn y rhaglen oedd Sion Midway Rees o Grymych , fo ydy bos cwmni Bysus Midway. Mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo fo nos Fawrth, a dyma fo'n sôn am y profiad o ymddangos ar y rhaglen... "
Bore Cothi - Grace Capper
y gweithle - the workplace
y corff arholi CBAC - the examination body WJEC
mor rhwydd - so easy
meistroli - to master
hollol rugl - totally fluent
gwersi ffurfiol - formal lessons
dwywaith yr wythnos - twice a week
gwefan - website
y cyfle - the opportunity
yn bendant - definitely
"Un o fois y Bysus yn fan'na yn sgwrsio efo Geraint Lloyd. Mae Grace Capper wedi ennill gwobr arbennig sef Dysgwr y flwyddyn yn ei gweithle hi, y corff arholi CBAC. Dyma hi ar Bore Cothi yn sgwrsio am y wobr ac yn esbonio sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg..."
Tra Bo Dau - Lyn Ebenezer
newyddiadurwr - journalist
rhannu - to share
ambell i stori - the odd story
lliwgar - colourful
Clwb Ffermwyr Ifanc - Young Farmers Club
toc ar ôl - shortly after
ymhen blwyddyn - within a year
cadarnhâd - confirmation
FWA - Free Wales Army
baneri - flags
"Dysgwr y Fwyddyn gweithle CBAC oedd honna - Grace Capper. Ar Tra Bo Dau wythnos yma mi gaethon ni hanes y newyddiadurwr a'r awdur Lyn Ebenezer. Dyma i chi Jane a Dylan, gwraig a mab Lyn, a rhai o'i ffrindiau, John Meredith, John Walter a Keith Bach yn rhannu ambell i stori liwgar am Lyn wrth Nia Roberts..."
Ar Y Marc - Chris Coleman
rheolwr y tîm cenedlaethol - National Team Manager
barn cefnogwyr - the opinion of supporters
yn gefnogol - supportive
strwythur - structure
peri gofid - causing concern
chwalu - to destroy
yr ymgyrch diweddara - the most recent campaign
profiad - experience
wyneb i waered - backwards
dyfodol - future
"Fel y clywon ni mae Lyn yn ffan mawr o bêl-droed. Tybed be fasai o'n ei feddwl am Chris Coleman, fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru? Roedd yna dipyn o sôn ar ôl gêm Cymru yn erbyn Panama nos Fawrth mai honna fasai gêm olaf Coleman fel rheolwr y tîm cenedlaethol. Be oedd barn cefnogwyr Cymru i hynny. Mi glywon ni farn rhai ohonyn nhw ar Ar y Marc ddydd Sadwrn.."
Beti a'i Phobl - Rhydian Bowen Phillips
band gwneud - a made up band
golygus - handsome
dychwelyd - returning
y gweddill - the rest
cyflwyno - presenting
mynd yn wyllt - going wild
llewygu - fainting
arwyddo - signing
ddim yn difaru - not regretting
Cerddorfa Genedlaethol - National Orchestra
Wel, er bod yna lawer o gefnogaeth i Chris Coleman gadael wnaeth o. Mae o yn rheolwr tîm Sunderland erbyn hyn. Un o'r 'boy bands' cyntaf i ganu drwy'r Gymraeg oedd Mega, ac un o aelodau'r band hwnnw Rhydian Bowen Phillips oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl ddydd Sul diwetha. Be mae Rhydian yn ei gofio a'r adeg yna tybed...?
