Main content

Ffansi trip i'r Unol Daleithiau ?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr ha’ diwethaf roeddem yn rhedeg i Baris.

Yn y gwanwyn fe gewch redeg i China.

Ond hwyrach, yr haf nesa’ oes rhywun yn ffansio rhedeg i Efrog Newydd efallai ?

Yn sgil y nifer o wledydd sydd, yn draddodiadol, a thimau cenedlaethol eithaf da, mae yna syniad wedi codi yn yr Unol Daleithiau y gallai cymdeithas pêl droed y wlad, sef yr United States Soccer Fedration, gynnal cystadleuaeth gan gynnwys y timau hynny sydd wedi methu a chymhwyso ar gyfer ffeinals Cwpan y Byd yn Rwsia.

Rhaid pwysleisio mai syniad cynnar ydi hwn ar hyn o bryd, a hyd y gwyddom, nid yw’r Americanwyr wedi cysylltu, yn swyddogol o leiaf, gydag unrhyw un o’r gwledydd a fyddai yn gymwys i gystadlu.

Ond, mae yna amodau yn ôl pob son, gan gynnwys sicrhau y byddai’r gwledydd yn cynnwys eu sêr, fel Gareth Bale i Gymru, a byddai hefyd angen derbyn sêl bendith FIFA.

Ond, gyda’r Iseldiroedd, yr Eidal, Cymru, Chile, a’r Unol Daleithiau eu hunain ymysg y timau a all dderbyn gwahoddiad mae’r syniad yn edrych, ar yr wyneb un un go lew.

Ar y llaw arall, mae hefyd yn swnio fel cyfle da iawn i roi profiad gwerthfawr i chwaraewyr ifanc addawol, yn hytrach na gorddibynnu ar y sêr.

Hwyrach mai plannu hadau i wneud arian ar ôl methu a chyrraedd Rwsia sydd y tu ôl i hyn, wedi’r cwbl, be arall sydd y tu ôl i syniadau pêl droedaidd y dyddiau yma, ond, mae’n edrych i mi fel cyfle i gasglu profiad yn hytrach na chyfle i ddangos safon i’r Americanwyr.

Ond dyna ni, taith i China ar y gweill yn y gwanwyn a phwy a ŵyr na fydd yna daith arall dros for yr Iwerydd yn dilyn.

Syniad da? Pwy a wyr.

Beth yw eich barn chi?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf