Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Tachwedd 5ed - 11eg 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Tadau yn dawnsio

wastad - always

yn ddiweddar - recently

swildod - shyness

mynegi dy hun - express yourself

yn gorfforol - physically

mewn bywyd - in life

angerdd - passion

hyfforddi - to train

yn werth ei weld - worth seeing

y gweddill - the rest

"dan ni i gyd wedi ei weld o yndo, y miwsig yn dechrau, y tadau yn codi i ddawnsio a'r plant ynn gweiddi 'na, na plis peidiwch'! Ia, dawnsio'r tadau, hunllef llawer o blant, ond pryd mae tadau yn dechrau gwneud hyn? Yn ôl un astudiaeth pan maen nhw'n drideg saith oed. Dydd Mawrth buodd Gareth Delve ac Alun Williams yn sgwrsio am ddynion yn dawnsio efo Shan Cothi... "



Aled Hughes - Steilio bwyd

cylchgronnau - magazines

un o'r gwefannau pwysica - one of the most important websites

darlledu - to broadcast

risetiau - recipes

prydau parod - ready meals

gwledd - a feast

fy nghalon i'n suddo - my heart sinking

ugain o ddarnau - 20 pieces

haen - a layer

trwchus - thick

"Wel o leiaf mae Gareth ac Alun yn mwynhau'r dawnsio, hyd yn oed os nad yw pawb arall! Dach chi wedi clywed am 'steilio' bwyd o'r blaen? Gwneud i fwyd edrych yn dda mewn ffordd artistig ydy steilio bwyd a dyna ydy swydd Mari Williams. Mae hi'n steilio bwyd ar gyfer cael lluniau mewn cylchrgronnau, ar y we ac ati i. Mi gafodd Aled Hughes air efo hi am ei gwaith ddydd Mawrth... "



Rhaglen Geraint Lloyd - Taith i Batagonia

cymaint - so much

ddaru ni - wnaethon ni

awyren - aeroplane

llawn cyffro - full of excitement

ambell gweithgaredd - the odd activity

preswyl - residential

ffrindiau am oes - friends for life

lle eloch chi - where did you go

cawod cynnes - a warm shower

gwanwyn - spring

Mari Williams yn fan'na yn sôn am steilio bwyd efo Aled Hughes. Bob blwyddyn mae'r Urdd yn mynd â chriw o bobl ifanc o Gymru i Batagonia. Roedd Lloyd Davies, sydd yn chweched dosbarth Ysgol Llanfyllin ym Mhowys yn un o'r criw lwcus aeth draw yno ym mis Hydref. Dyma fo'n siarad am ei brofiad efo Geraint Lloyd...

Stiwdio - Tiger Bay

wedi dyweddio - engaged (to be married)

mwya cyfoethog - richest

plant amddifad - orphans

haenau gwahanol cymdeithas - different layers of society

plethu - blending

diwydiannol - industrial

arddull gerddororol - musical style

dyfalu - guess

cerdd dant - traditional Welsh music

cyfoes - modern

"Lloyd Davies yn fan'na wedi cael profiadau anhygoel ym Mhatagonia. Mae 'na sioe gerdd newydd o'r enw 'Tiger Bay' yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, sydd wrth gwrs yn digwydd bod yn Tiger Bay. Dyma i chi Dafydd James cyfansoddwr y sioe yn sgwrsio efo Nia Roberts amdani... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Arwyddion ffyrdd i stadia pel-droed

Nesaf

Ffansi trip i'r Unol Daleithiau ?