Main content

Arwyddion ffyrdd i stadia pel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Faint ohonoch chi sy’n cymryd sylw manwl ar ffurf a siâp arwyddion ffyrdd?

Na , nid gofyn a ydych chi yn eu hanwybyddu yn llwyr ydw i, ond yn hytrach fyddwch chi’n rhoi sylw i fanylder yr arwydd?

Pam hynny medde chi?

Wel, mae’n ymddangos fod yna fathemategydd o Lundain yn mynnu fod yr arwyddion sydd yn dangos y cyfeiriad i stadia pêl droed yn hollol anghywir!

Na, nid am eu bod yn ein harwain ar gyfeiliorn, ond am fod siâp y bel yn anghywir, neu i fod yn fwy manwl, fod y siapiau hecsagon sydd i’w gweld o fewn y peli ar yr arwyddion, yn hollol geometraidd anghywir !!!

Wel, pan ddysgais i sut i yrru car, talu sylw i'r hyn sydd ar, ac o gwmpas y ffordd oedd un o'r disgwyliadau - nid cyfri hecsagonau ar lun peli wrth drio darganfod fy ffordd o Old Trafford!!!

Be’ felly sydd wedi cynhyrfu’r mathemategydd yma cymaint, fel ei fod wedi casglu enwau drwy ddeiseb a’i anfon i'r llywodraeth yn San Steffan.

Sail y ddeiseb ydi ei bod yn fathemategol amhosib creu pêl gyda dim ond hecsagonau, a bod angen pentagonau os am gael pêl berffaith!

Wrth gwrs, mae pawb sy’n cynnal timau pêl droed ar hyd a lled Cymru yn gwybod hyn gyda’r pwyllogorau yn cyfri'r siapiau a thrafod maint a lliw'r hecsagonau a phentagonau ar eu peli!!

Sail ei gonsyrn, heblaw trio dangos sut mae peli pêl droed yn cael eu cynllunio a'u gwneud, codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o agweddau o geometreg. Mae o hyd yn oed wedi mynd cyn belled a honni fod y geometreg ar y peli, ar yr arwyddion yn embaras cenedlaethol! Ie, atgofion o’r hen Ifans y Tryc ers talwm!! Embaras - dyna ydi o!

Fodd bynnag, tydi’r Adran Drafnidiaeth yn ôl pob sôn, heb roi fawr o gefnogaeth i'r ymgyrch gan ddweud y byddai'r gost o ail wampio’r arwyddion yn rhoi baich cyllidol afresymol ar yr awdurdodau lleol, a bod gyrrwyr ceir wedi hen arfer a’r arwyddion fel ag y maent, ac os byddai gyrrwyr yn dechrau talu sylw manwl i'r siapiau geometrig, yn hytrach nac edrych i ble maen nhw’n mynd, yna fe allai hyn gynyddu’r nifer o ddamweiniau ar ein ffyrdd.

Ond, tydi Mr Parker ddim am roi'r ffidl yn y to, gan fynnu ei fod am gynyddu’r nifer sydd am arwyddo’r ddeiseb i gan mil. 'Nid gofyn ac onglau a mesuriadau ar yr arwydd ydwi’ meddai, ‘dim ond i’r arwydd edrych yn fwy tebyg i bêl droed’ – ie,, dim ond gofyn (a ‘da ni wedi clywed hynny yn ddigon aml ond tydyn!!

Diolch byth nad ydi o'n gefnogwr rygbi!!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf