Faint ohonoch chi sy’n cofio Orig Williams?
Na, nid fel yr El Bandito a lwyddodd i ddiddanu pobol ar draws y byd yn y sgwâr reslo, ond fel Orig Williams y peldroediwr, ac yn enwedig y peldroediwr a oedd hefyd yn reolwr ar dîm Dyffryn Nantlle, yn y chwedegau, neu fel yr adnabyddir ar draws Gogledd Cymru :- ‘Nanlla Fêl’!
Bu farw Orig gyn 2009, ar ôl cyfnod llewyrchus fel peldroediwr a rheolwr, ond os ydych yn meddwl fod Orig yn un a gyfrannodd yn helaeth i’r ddelwedd gyfoes o’r gêm brydferth ar hyd a lled caeau pêl droed Gogledd Cymru, yna meddyliwch eto.
Nid sarhad ar Orig ydi dweud nad yw'r gêm brydferth a dull Orig yn gorwedd yn gyfforddus gyda'i gilydd, ond mwy fel sylw canmoliaethus i'w ddoniau a'i ddireidi!!
Rhoddodd yn un chwaraewr, yn ôl yr honiad, gymaint o drafferthion i ddyfarnwyr ac a roddodd Orig iddynt yn Nanlla, ac eithrio o bosib, Idris Evans (sef Tarw Nefyn - llysenw sy'n esbonio popeth!) a hwyrach Robin Ken Thomas.
Os gallai esbonio mai dau o dîm Orig yn Nantlle oedd y ddau yma, mae'n rhoi rhyw syniad i chi o sut dîm oedd hwn!
Petawn i'n disgrifio'r tîm fel 'uffern o dîm', yna fe fyddwn i ddim ymhell o'm lle, ond uffern i bawb a fentrodd chwarae, neu i fod yn fwy cywir, a fentrodd i frwydro, yn eu herbyn oedd y profiad yma.
Aeth cyd fyfyriwr i mi yn fy nyddiau coleg i chwarae i dîm Orig yn Nyffryn Nantlle, ac yn y dyddiau hynny doedd yna fawr o dactegau a strategaethau, ond, fe gafwyd cyfarwyddiadau clir i'r holl dîm cyn y gêm, sef geiriau Orig yn eu hatgoffa :- ‘Os neith o rwbath i ti; rho hwch iddo!).
Ges i erioed hwch gan Orig nac unrhyw un o'i chwaraewyr, ond dwi’n cofio chwarae mewn cystadleuaeth saith pob ochr ar ddiwedd tymor 1965, ym Mhwllheli , cystadleuaeth nosweithiol dros wythnos, a dod i wynebu Orig a'i dîm yn y ffeinal.
Roedd Orig a’i gyd chwaraewyr wedi cymryd y gemau yma o ddifrif, cymaint felly, nes yn ôl yr hanes, i Orig ac un chwaraewr arall, hedfan i Bwllheli yn bwrpasol ar gyfer y ffeinal o'r Alban ble roedd y ddau yn cymryd rhan mewn gonest reslo.
Ond Orig, reslo, prydferthwch neu uffern ar gae ffwtbol, colli oedd hanes Orig a'i dîm yn erbyn tîm wedi ei wneud o chwaraewr ifanc o ardaloedd Porthmadog a Phwllheli (henffych yr enw a roesom ar y tîm ar gyfer y gystadleuaeth sef Portheli).
W’n i ddim erbyn heddiw be' oedd y sgôr, a dwi ddim yn cofio chwaith pwy oedd y timau a lwyddom i'w trechu ar y ffordd i'r ffeinal. Ond dwi’n cofio’r achlysur!
Mae’r gwpan fach ges i am guro tîm Orig dal i fod gennyf, a chofiaf yn fawr yr ochneidiau enfawr a'r bytheirio a glywyd ar draws y Rec ym Mhwllheli ar ddiwedd y gêm wrth i Orig ddod i ddeall ei fod wedi colli i dîm a oedd yn cynnwys dau ohonom a oedd yn ddisgyblion ysgol yn y chweched dosbarth.
Mae'n debyg fod pawb a chwaraeodd yn erbyn Orig gyda stori arbennig amdano, am ddyn a chymeriad unigryw, a dyna fy stori i am fy atgofion o rannu cae pêl droed a'r cawr hoffus melltigedig yma.
Ond heblaw'r bêl droed a'r reslo, roedd yna ochr ddiwylliannol Gymreig yn perthyn iddo hefyd.
Dyma ddyn nac anghofiodd ei wreiddiau yn Ysbyty Ifan, y dyn anwylaf erioed a gariodd yr iaith Gymraeg, y ddraig, a'i Gymreictod o ddyffryn Conwy ar draws bedwar ban byd, ac un a welodd ei Gymreictod yn cael ei gydnabod wrth iddo gael ei anrhydeddu fel aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol 'nol yn y flwyddyn 2000.
Brynhawn Sadwrn, mae yna gêm bel droed go arbennig yn cael ei chynnal ar faes y Llan Siro yn Llansannan (ble r’oedd Orig yn byw am gyfnod hir) rhwng tîm Llansannan a thîm presennol Nanlla Fel, gyda'r ddau yn cystadlu mewn gem gyfeillgar am Gwpan Orig Williams.
W’n i ddim os chwaraeodd Orig mewn unrhyw gêm a gafodd ei disgrifio fel gem gyfeillgar, ac mae gen i ryw deimlad, ymysg y cyfeillgarwch a rennir yn Llansannan, os bydd yna ryw drosedd amheus, neu annhegwch yn codi yn y Llan Siro, y byddwn yn clywed, rhywle o bell, llais awdurdodol yn taranu o’r nefoedd - ‘ Rho hwch iddo!!’
Gem gwerth mynd iddi ac os ydych o gwmpas ardal Bro Aled brynhawn yfory, galwch heibio, bydd yn achlysur gwerth ei gofio.
Main content
Blog comments will be available here in future. Find out more.
