Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Galwad Cynnar - Nussey y gôg
y gog - the cuckoo
lloeren - satellite
cynhara - the earliest
sychder - drought
wedi gorfodi - had forced
rhyfeddol - strange
tro pedol cyflawn - a complete u-turn
ffin - border
gwerth - value
heriau - challenges
Hanes Nussey y gog. Cafodd Nussey ei thagio gan y British Trust for Ornithology (y BTO) ac mae teithiau'r aderyn yn cael eu tracio gan loeren.
Roedd taith Nussey wedi synnu Daniel Jenkins Jones fel wnaeth o esbonio ar Galwad Cynnar.
Aled Hughes - Arwel Williams
ysgwyd llaw - shaking hands
ffefrynnau - favourites
yn flin - yn grac
mor falch - so pleased
torri fy nhalon i - break my heart
haeddu - to deserve
Hanes taith anhygoel Nussey y gog yn fan'na ar Galwad Cynnar.
Yn y clip nesa cawn glywed Aled Hughes yn holi'r ffotograffydd Arwel Williams o Ben-y-Sarn Ynys Môn. Mae Arwel yn tynnu lluniau pobl enwog yn enwedig pêl-droedwyr.
Dyma fo'n sôn am y bobl mae o'n licio gweithio efo nhw.
Beti a'i Phobol - Gwen Parrot
canmol - to praise
cefnogi - to support
nofelau trosedd - crime novels
anioddefol - insufferable
dw i'n ei ddihuno fe - I wake him up
wedi hen arfer - I'm well used to
dros ben llestri - over the top
perfedd - entrails
chwe troedfedd ar hugain - 26 feet
blingo cwningen - to skin a rabbit
Y ffotograffydd Arwel Hughes yn canmol clwb pêl-droed Lerpwl er mai Man U mae o'n ei gefnogi'n bersonol.
Y nofelydd Gwen Parrott oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Nofelau trosedd ydy'r rhan fwyaf o'i nofelau, a gofynnodd Beti iddi hi sut mae hi'n cael y wybodaeth fforensig ar gyfer y nofelau?
Bore Cothi - Prifddinasoedd
ymchwil - research
prifddinasoedd - capital cities
y rhai mwya anghyfarwydd - the most unfamiliar ones
er enghraifft - for example
llynnoedd a chestyll - lakes and castles
cymaint o... - so many
Gwen Parrott yn defnyddio ei theulu i wneud yr ymchwil ar gyfer ei nofelau trosedd felly!
Mae James Whitaker a Huw Thomas o Gaerdydd wedi rhoi her i'w hunain i ymweld â 46 o brifddinasoedd cyn 2020!
Ond oes gynnyn nhw hoff brifddinas hyd yn hyn tybed?
Dyma nhw'n siarad gyda Shan Cothi.
Rhys Mwyn - Beca Brown
anferthol - huge
darparu - providing
cynnwys estynedig - extended content
rhuglder - fluency
galluogi - to enable
trawsysgrif - transcript
wrth law - nearby
hanes ac archeoleg - history and archeology
ar draws y byd - across the world
Yr Almaen - Germany
James Whitaker a Huw Thomas o Gaerdydd oedd y rheina yn siarad ar Bore Cothi am eu hoff brifddinasoedd.
Mae Beca Brown yn gweithio efo Say Something in Welsh, ac y tro diwetha iddi hi siarad gyda Rhys Mwyn roedd hi'n ei gyfweld o ar gyfer gwefan y cwmni. Nos Lun tro Rhys oedd hi i gyfweld Beca a dyma i chi flas ar y sgwrs.
Stiwdio - Wizard of Oz
yn weddol boblogaidd - fairly popular
adennill - to recover
yn gampwaith - masterpiece
yn gyfaill annwyl - a dear friend
cenhedlaeth - generation
ystadegau - statistics
amgueddfa - museum
atyniad - attraction
droeon - several times
Beca Brown oedd honna yn sôn am ei gwaith gyda Say Something in Welsh.
Mae'r ffilm Wizard of Oz yn wythdeg oed eleni ond yn dal yn boblogaidd iawn.
Dyma Gary Slaymaker yn sôn am y ffilm ar Stiwdio wythnos diwetha.
