Gyda’r tymor pêl droed newydd ar fin cychwyn, mae bron pob tîm yn barod amdani, ac yn barod mewn set newydd o grysau, siorts a sannau disglair, a gan amlaf yn arddangos enw eu noddwyr yn glir ar flaen y crys.
Pwy sy’n noddi eich tîm pêl droed chi? Cwmni busnes lleol, cwmni diwydiannol cenedlaethol neu gwmni gamblo?
Mae hanner timau pêl droed uwch gynghrair Lloegr erbyn heddiw yn cael eu noddi gan gwmnïau gamblo, gan greu delwedd fod gamblo, erbyn heddiw, yn cael ei ystyried fel agwedd hollol arferol yn ein bywyd cyfoes.
Bydd y timau yn Uwch Gynghrair Lloegr yn derbyn bron tua £350 miliwn rhyngddynt, a bydd deg o’r ugain clwb hynny yn dangos logo eu noddwyr ar flaen eu crysau.
Yn ogystal, yn y Bencampwriaeth, mae 17 allan o 24 clwb yn mynd i ddangos logo cwmni betio ar flaen eu crysau.
A hyn er waethaf ymdrechion a chonsyrn ymysg aelodau seneddol, a hefyd rhai o gwmnïau betio eu hunain, fel GVC (sy’n eiddo i gwmni Ladbrokes ) i roi terfyn ar hysbysebu yn y modd yma ar flaen crysau'r timau. Hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y cwmnïau dros flwyddyn yn ôl y byddant yn lleihau'r maint o hysbysebu o fewn pêl droed.
Fodd bynnag, mae'r ffeithiau, fel y dengys uchod , yn profi'n wahanol.
Mae ymchwil a gynhaliwyd o dan arweiniad yr Athro Dr Heather Wardle o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol ( London School of Hygeine and tropical medicine) , ac a gomisiynwyd gan elusen Gamble Aware, wedi dangos fod yna gysylltiad agos rhwng betio a phêl droed a bod y rhai sydd â phroblemau betio chwe gwaith yn fwy tebygol i gyflawni hunanladdiad na phobol eraill.
Arweiniodd hyn ar elusen arall, sef 'Gamble With Live's ran rieni gwr ifanc, pedwar ar hugain oed, a gyflawnodd hunanladdiad yn dilyn ei ddibyniaeth ar fetio.
Fodd bynnag, mae yna lygedyn o haul yn rhyw araf godi dros y bryn.
Mae cwmnïau GVC (sef yr un o dan berchnogaeth Ladbrokes) a chwmni Paddy Power eisoes wedi galw am ddiwedd ar nodi enwau cwmnïau betio ar grysau timau pêl droed, gyda Paddy Power wedi cychwyn ymgyrch ‘Save Our Shirt’- sef ymgais i wisgo crysau pêl droed heb enwau’r cwmnïau gamblo, sy'n eu noddi, ar y crys.
Y diweddaraf i wneud hyn yw Southend United, a hyn yn dilyn penderfyniadau Huddersfield Town, yn ogystal â Motherwell yn yr Alban a Chasnewydd yma yng Nghymru i wneud yr un fath.
Felly, i ofyn eto, pwy sydd yn noddi eich tîm pêl droed chi? Ac os mai cwmni betio ydi o, a oes yna unrhyw ymdrech i beidio â dangos eu henwau ar flaen y crysau?
Mae yna reolau tynn gan Gymdeithas Bel Droed Lloegr yn gwahardd timau ieuenctid rhag gwisgo dillad sy’n arddangos, i ddyfynnu'r Gymdeithas, 'cynnyrch a fyddai’n niweidiol i les, iechyd a diddordeb cyffredinol pobol ifanc'.
Ble yw agwedd a safbwynt eich clwb neu eich tîm chi tuag at hyn i gyd?
Ac a oes yna ganllawiau clir gan Gymdeithas Bel Droed Cymru ynglŷn â hysbysu enwau cwmnïau gamblo, yn enwedig os gall fod yn niweidiol i les, iechyd a diddordeb ein Cymry ifanc ?
Neu a’i diwedd y gan yw’r geiniog, gan ddiystyrru popeth arall ?
Main content
View the archived comments for this blog
