Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Gorffennaf 13eg - 19eg 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - Betws y Coed

wyrion - granchildren

damcaniaeth - theory

talfyriad - abbreviation

gweddi ddistaw - a quiet prayer

mynach - monk

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nyffryn Conwy yr wythnos nesa ac mi aeth Aled Hughes i ardal yr Eisteddfod i gael sgwrs am hanes enw'r pentre Betws y Coed gyda Alun Hughes sydd yn byw yno.



Dewch Am Dro - Rheilffordd Llyn Tegid

pabell - tent

maes - field

rheolwr - manager

anturiaethau'r haf - the summer adventures

cynnal a chadw - maintenance

llawn amser - full time

peiriannau - engines

chwareli - quarries

Aled Hughes yn ymweld ag ardal yr Eisteddfod Genedlaethol. Cofiwch fod yna babell arbennig i ddysgwyr Cymraeg ar faes yr Eisteddfod sef pabell Shwmai Sumae. Bydd croeso arbennig iawn i chi ymheld â hi. Mynd am dro i Lanuwchllyn wnaeth Rhys Meirion ym mis Ionawr a chael sgwrs gyda David Jones, Rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid . Be mae'r staff yno yn ei wneud yn ystod y gaeaf tybed?



Ar Drywydd Y Trafaeliwr Recordiau - Arthur Davies

ar drywydd y trafaeliwr - In pursuit of the traveller

cysylltiad â - connection with

dosbarthwr recordiau - record distributor

ar hyd a lled - the length and breadth

gweinidog - minister

mewn sawl man - in several places

taid - tad-cu

lle sefydlwyd y gwersyll - where the camp was established

llwybrau - paths

perthynas gerddorol gryfach - a stronger musical relative

Rhys Meirion yn sgwrsio am drenau yn Llanuwchllyn. Mae'r ddau sy'n siarad yn y clip nesa yma efo cysylltiad â phentre Llanuwchllyn hefyd. Mae Arthur Davies wedi bod yn gweithio fel dosbarthwr recordiau ar hyd a lled Cymru ers y pumdegau ac yn y clip nesa 'ma mae'n sgwrsio gyda Dafydd Iwan am gysylltiad y ddau ohonyn nhw â Llanuwchllyn.



Bore Cothi - Sean Fletcher

cyflwynydd - presenter

cwrdda ti - meeting you

gwên annwyl - an endearing smile

awyrgylch - atmosphere

profiad - experience

cyfweliad - interview

paratoi'r moch - preparing the pigs

y cystadlu - the competition

mwy cyffrous na - more excited than

cwpan y byd - the world cup

Llwybrau Arthur Davies a Dafydd Iwan wedi croesi mewn sawl man yn fan'na. Mae Sean Fletcher yn enwog fel cyflwynydd rhaglenni chwaraeon, Countryfile a Sunday Morning Live. Ond oeddech chi'n gwybod ei fod wedi dysgu Cymraeg ac yn rhugl erbyn hyn? Roedd Sean yn y Sioe yn Llanelwedd wythnos diwetha ac mi gafodd Shan Cothi air efo fo.



Cofio - Y Glöwyr

Y Glöwyr - The Coalminers

ofergoelion - superstitions

meddyginiaethau - medicines

dechrau'r ganrif ddiwetha - the beginning of the last century

gwrthododd - refused

rhag y nwy - in case of gas

dolur - injury

cyfleusterau cymorth cyntaf - first aid facilities

camdreuliad - indigestion

sugno glo - sucking coal

A dyna i chi Sean a Shan yn sôn am y Sioe... Glöwyr oedd thema rhaglen Cofio'r wythnos hon. Cafodd John Hardy gwmni Lynn Davies fuodd yn gweithio ar broject yn Sain Ffagan yn recordio sgyrsiau am fywyd a gwaith glöwyr. Dyma fo’n son am ofergoelion a meddyginiaethau'r glöwyr.



Recordiau Rhys Mwyn - Edward H Dafis

fel mae'n digwydd - as it happens

cyfnod cynta - first period

rhoi'r gorau iddi hi - to give it up

(roedd) yn cynnwys - included

caneuon unigol - individual songs

bob math o arddull - all manner of styles

negeseuon - messages

alawon gwerin - folk songs

cysyniadol - conceptual

Blas ar fywyd y glöwyr yn fan'na ar Cofio. Roedd Edward H Dafis yn un o fandiau mwya poblogaidd y saithdegau a Cleif Harpwood oedd prif ganwr y band. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Cleif a Rhys Mwyn am yr albwm 'Sneb yn Becso Dam' gaeth ei recordio yn 1976.



Pigion Aled Hughes - Y Saboth

Y Parchedig - The Reverand

bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century

diarddel - to expel

Amwythig - Shrewsbury

difrifol wael - seriously ill

y ddarfodedigaeth - TB

ar dir y byw - alive

noson ddrycinog - tempestuous night

yn blygeiniol - early morning

'y cyfrin gyngor' - the privy council

Hanes un o albymau Edward H dafis yn fan'na ar raglen Rhys Mwyn. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo'r Parchedig Alun Tudur am y Saboth ac am y pethau oedd yn erbyn 'rheolau'r' Saboth ers stalwm. Dyma i chi hanes Joseph Davies, aelod o’r Methodistiaid Calfinaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gafodd ei ddiarddel o’r capel yn Llansannan am gerdded i dy ei wraig ar y Sul.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Noddi Crysau Pel-droed

Nesaf

Cofio Gwyn Pierce Owen