Ble mae rhywun yn cychwyn son am Gwyn Pierce Owen?
Athrylith o ddyn pêl droed, cwmni hoffus a chyfaill i ni gyd.
Fydd yna neb tebyg ym myd pêl droed Cymru a neb a allai gynnig toreth o brofiadau gwerthfawr llawn atgofion.
Dyfarnwr llwyddiannus yn hen brif gynghrair yn Lloegr, dyfarnwr rhyngwladol ac mewn cystadleuaeth clybiau Ewrop, ond fel cadeirydd, ac yna llywydd y clwb, a fu mor agos at ei galon a'i fywyd, sef Dinas Bangor, oedd Gwyn.
Fel rheolwr ar glwb Treffynnon yn nyddiau cynnar uwch gynghrair Cymru, roedd gen i ryw barchedig ofn o Gwyn - roedd mor gefnogol i Fangor, un llygeidiog bron, fel i mi deimlo ei bod yn drosedd petawn yn trio curo, neu hyd yn oed yn curo, Bangor mewn gemau.
Yna, fe gefais y fraint o wasanaethu iddo fel rheolwr dros dro, am gyfnod byr, yn dilyn ymadawiad Nigel Adkins.
Ond nid fel Gwyn oeddwn yn cael ei adnabod yr adeg honno, ond fel Mr Chairman a dyna pwy oedd Gwyn i bob un o'r chwaraewyr.
Roedd yn gefnogol tu hwnt, a’r agwedd yna 'roeddwn cymaint o ofn ohono fel gwrthwynebwr yn dod yn asgwrn cefn o gefnogaeth i mi yn fy rôl fer o dan ei arweiniad dros yr amser .
Yna, fel llywydd, a finnau erbyn hyn yn gweithio i raglen Camp Lawn ar brynhawn Sadwrn, Gwyn oedd yr un a sicrhaodd fod gen i bob gwybodaeth pan oeddwn ar Ffordd Farrar yn darlledu gemau Bangor, ac yntau yn gwrando yn astud i sicrhau na fyddai unrhyw un o'i dim yn cael eu beirniadu'n hallt (neu o gwbl petai Gwyn yn cael ei ffordd ei hun)
Cyfaill triw hefyd i raglen Ar y Marc, ac roeddem i gyd yn hollol ymwybodol fod Gwyn yn glustiau i gyd wrth wrando ar bob gair a sill a ddywedir, ac yn barod i gysylltu â'r stiwdio ar ôl y rhaglen petai unrhyw beth wedi ei gynhyrfu (hynny yw unrhywbeth yn ymwneud a Bangor).
Ia, fu yna neb tebyg i Gwyn - Mr Dinas Bangor ac achubwr y clwb may nac unwaith.
Trist iawn oedd i mi gysylltu â Nigel Adkins for Mawrth a gadael iddo wybod fod Gwyn wedi ein gadael. Ond cofiaf ymateb Nigel ar ôl ennill pencampwriaeth ein uwch gynghrair gan iddo gyhoeddi mai’r cysylltiad cydweithiol rhwng y cadeirydd a'r rheolwr oedd y sail allweddol i'w llwyddiant ar Ffordd Farrar.
Cyflawnodd Gwyn lawer mwy nac a allwn ei nodi yma, ond allai wneud dim mwy na nodi unwaith eto, mai cyfaill mynwesol a'r cyfaill gwerthfawrocaf erioed i bêl droed ac i Fangor oedd Gwyn.
Diolch am gael dy adnabod, a diolch am gael y profiad o reoli dy dim, a diolch am y cwmni hoffus a'r holl atgofion ar hyd caeau pêl droed Cymru
Mawr yw dy golled.
Nos da Mr Chairman.
Cwsg yn dawel Gwyn bach; cwsg yn dawel.
