Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Gorffennaf 7fed - 12fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - Sam Brown

Y Gernyweg - Cornish language

iaith gartre - mother tongue

milltir sgwâr - square mile (local area)

ychydig o flynyddoedd yn ôl - a few years ago

ystyried - to consider

lleiafrifoedd - minorities

ynganiad - pronounciation

pobl ddi-Gymraeg - non Welsh speaking people

Mae Sam Brown yn dod o Bodmin Moor yng Nghernyw yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerfyrddin nawr.

Mae o wedi dysgu Cymraeg ac mae'n yn rhugl yn yr iaith erbyn hyn. Nawr mae o wedi penderfynu dysgu Cernyweg, 'pam' oedd cwestiwn Aled Hughes iddo fo.



Geraint Lloyd - Aberystwyth ac Esquel

Yr Ariannin - Argentina

o dras Cymreig - from Welsh extraction

(g)efeillio - to twin

yn gyffredin - in commom

mynyddig - mountainous

gweinyddu - to administer

ysgoloriaethiau - scholarships

yn cael ei chyhoeddi - being announced

eitha addysgiadol - fairly educational

daearyddiaeth - geography

Aled Hughes yn cael gwers Cernyweg dydd Mawrth diwetha gan Sam Brown.

O Gernyw i'r Ariannin nesa, ac i dref Esquel yn yr Andes sydd yn rhan o Wladfa Patagonia lle mae llawer o bobl o dras Cymreig yn byw.

Mae Aberystwyth wedi efeillio ag Esquel a gofynnodd Geraint Lloyd i Mererid Boswell beth oedd yn gyffredin rhwng y ddwy dref.



Beti a'i Phobl - Wimbledon

daeth i ben - came to a head

dyfarnu - to referee

brawychus - frightening

canolbwyntio - to concentrate

sylw - attention

galwad - a call

bwrw - to strike

toddi mewn i'r cefndir - melt into the background

crochan berwedig - a boiling cauldron

detholion - seeds

Asado a Malbec ym Mhenparcau Aberystwyth, be' gwell ynde?

Daeth Wimbledon i ben ddydd Sul diwetha gyda gêm gyffrous, a hir iawn, yn ffeinal y dynion.

Mae Eirian Jones wedi dyfarnu yn Wimbledon sawl tro a buodd hi'n sôn ychydig am ei phrofiadau ar Beti a’i Phobl nos Iau diwetha.



Bore Coth - Pierino Algieri

Eidalaidd - Italian

carcharor rhyfel - prisoner of War

dwy res - two rows

gwersyll - camp

anhygoel - incredible

Eirian Jones oedd honna'n sôn am ei phrofiadau yn dyfarnu yn Wimbledon.

Mae Pierino Algieri o dras Eidaliadd ac mi fuodd o'n esbonio wrth Shan Cothi ddydd Mawrth sut daeth ei deulu i Gymru yn y lle cynta.



Rhys Mwyn - comedi

Caeredin - Edinburgh

llenwi ffurflen - filling a form

rhywfaint o gefndir - some background (information)

dweud celwydd - telling lies

ymateb - response

Hanes diddorol teulu Pierino Algieri yn fan'na ar Bore Cothi.

Bydd Eleri Morgan a Esyllt Sears yn cynnal gig comedi yng Ngwyl enwog Caeredin yr haf yma.

Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd y ddwy gyda Rhys Mywn am sut lwyddon nhw i gael y cyfle i berfformio yno.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Cwpan Orig Williams